Awst 2017

03rd September 2017
This is a long post! So I'm not translating it word for word this time. It comprises my August pictures - holiday time! - with a smattering of links related to the content. The month was taken up with the National Eisteddfod (held in Anglesey), a trip to Pantycelyn to mark the 300th anniversary of William Williams's birth, judging at a local show, and especially a two night stay in Wiltshire, with a tour of some of the nearby historical sights. I hope you enjoy the pictures.

Cilgant Traeth Tan-y-bwlch ddechrau mis Awst


Fe ddechreuodd Awst y ffotograffau ar ben Pendinas, y fryngaer anferth o Oes yr Haearn sydd i'r de o Aberystwyth, a'i golygfeydd 360 gradd gwefreiddiol. Yn wahanol i Graig Glais i'r gogledd, does dim ffordd rwydd, megis funicular, i ddringo llethrau'r gaer, er bod dewis o lwybrau (hir a rhwydd, neu gymharol fyr a serth).

Mae hi wedi bod yn haf digalon iawn o ran y tywydd yn yr ardal hon, gydag awyr lwyd yn teyrnasu, a phrin ddiwrnod hollol heulog ar ei hyd tra oeddem ni o gwmpas y lle. 'Find your epic cloud' oedd hi. Fe ddylai'r awdurdodau twristiaeth hybu'r lle ar sail '50 lliw o lwyd', fe dybiaf.

Serch hynny, er gwynt oer, main, a chymylau'n bygwth glaw, roedd yr olygfa o un o fy hoff lefydd yn y byd, cilgant Traeth Tan-y-bwlch, yn codi ysbryd rhywun i'r nen.

Tan-y-bwlch yw'r llecyn rwy'n dychwelyd iddo - mae'n lle i'r enaid gael llonydd, mae'n lle o gyffro mawr adeg storm. Yma gellir cyffwrdd, gweld a synhwyro ystod ein hanes ar y ddaear.

Bûm yn byw am flwyddyn mewn llety myfyrwyr cyfagos - hen blasty - yn ôl ar ddechrau'r saithdegau - ac fe droediais y traeth bron yn feunyddiol. Hwn oedd yr adeg o dorri'n rhydd ar drothwy troi'n oedolyn; o ddarganfod y byd a chariad a chyffro (a chwrw!). Dyma fymryn o hanes y plas - er y dylid nodi bod y lle wedi'i werthu ers i'r erthygl hon ymddangos, ac mae nawr wedi'i droi yn fflatiau o'r radd flaenaf.

Felly fe ddaw'r gwynt main â chwa o atgofion gydag ef, tra bydd ton o hiraeth yn golchi drosof wrth wylio'r pelydrau prin yn llonni'r Bae.

Traeth Tan-y-bwlch ac Afon Ystwyth. Mae'r traeth, sydd wastad dan fygythiad yn sgil stormydd, yn hollbwysig o ran cyfeirio'r afon i geg harbwr Aberystwyth. [Dyma'r wal amddiffyn ar ganol ryferthwy storm]. Mae hanes hynod iawn am y lle adeg storm fawr 1938 yn fy llyfr Tywydd Mawr, os oes gan rywun ddiddordeb!

Yna fe ddaeth hi'n amser tynnu pethau ynghyd a chychwyn am yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Fôn, yr annwyl dir, yr unig un... bro fy ngwreiddiau.

Rhaid bod glaw a gwynt Aberystwyth wedi glynu yn ein sodlau, oherwydd fe ddaeth dilyw i'n canlyn i Fodedern erbyn y dydd Sul.

Eisteddfod - cyn y dilyw


Ciw. Yn dilyn y dilyw, heulwen haf, a threfniadau parcio 'diddorol'


Adlewyrchu'r hinsawdd


Diddorol iawn oedd gweld y copi hwn o tsiaen i glymu caethweision yn 'Y Lle Hanes'. Fe ddaeth y gwreiddiol (a llu o ddarganfyddiadau eraill anhygoel) i'r golwg wrth i Lyn Cerrig Bach gael ei sychu gan awdurdodau'r awyrlu yn y Fali yn 1943. Mr William Owen Roberts, prif ofalwr tir yr awyrlu, oedd yn gyfrifol am y darganfyddiad, a bu'n ddigon hirben i anfon lluniau o'r tsiaen at Syr Cyril Fox, yr archaeolegydd enwog. Fe sylweddolodd yntau yn syth bod y tsiaen yn dyddio o'r Oes Haearn, rhyw 2000 o flynyddoedd yn ôl.

Dyma'r hanes difyr yng ngeiriau Eflyn, merch William Owen Roberts.

Wrth ystyried helyntion Charlottesville a'r cofebau 'confederate' yn UDA, rhyfedd meddwl bod caethwasiaeth yn rhan o'n hanes ninnau ers y cyfnod cyn-hanes.


Slwj


Nid Usain Bolt


Llwyfan lliwgar


Ymweld â'r Pafiliwn - Côr Dre yn ein diddanu.


Arwydd celfydd (a chlyfar)


Julia Griffiths Jones enillodd y Fedal Aur am Grefft a Dylunio


Manon Awst - cydlynydd arddangosfa 'Troelli' y Lle Celf.


Rhan fechan o arddangosfa 'Troelli'


'Troelli' - Archaeoleg/daeareg yr Ynys


Dr Ffion Reynolds, Cymrawd Ymchwil er Anrhydedd Prifysgol Caerdydd ac aelod o staff CADW, yn darlithio ar archaeoleg Bryn Celli Ddu.


Llwyfan y Maes - lle ceir ystod eang iawn o berfformiadau cerddorol drwy'r dydd.


Eden a Caryl yn perfformio clasuron ar Lwyfan y Maes


Rwy'n hoff iawn o ganu gwerin, yn enwedig perfformiadau blaengar y perfformwyr hyn.


Stiwardio dramatig


Merlod y Maes!


Dargyfeiriwyd yr Orsedd rhag y gwaethaf o'r tywydd


Gwynt Traed yr Orsedd


Osian yn yr Orsedd - wedi hen arfer o flaen camerâu'r wasg ryngwladol


Gwleidyddiath a phrotest - Bryn Fôn a 'Wylfashima'


Tu hwnt i'r Maes

Cartref bore oes Syr John Morris-Jones


Atomfa'r Wylfa (sydd yn cael ei dad-gomisiynu) yn amlwg, ac eglwys fach Llanbadrig yn cuddio ym mhleth y bryniau


Eglwys Llanbadrig. Yn ol y chwedl, glaniodd Sant Padrig yma, ar ôl dioddef llongddrylliad ar Ynys Padrig, sydd gerllaw


Celf Islamaidd y tu fewn i'r eglwys. Mae hanes diddorol iawn i hyn, sef dylanwad yr Arglwydd Stanley o Alderly


Llanlleiana. Olion hen waith clai tsieina. Mae Coflein yn ei nodi fel gwaith copr yn ogystal.


Mur a ddrylliwyd


Offer weindio uwchlaw Porth Wen


Hwyl ar y dŵr - Porth Wen


Gwaith briciau Porth Wen


Bron yn syth bin wedi dadebru o'r profiad eisteddfodol, roedd yn rhaid troi i gyfeiriad Llanymddyfri a Phantycelyn, wrth i ni ymuno efo trip o Gapel Seion i weld cartref y Pêr Ganiedydd.

Llywelyn ap Gruffydd Fychan - cerflun hynod gerllaw'r castell yn Llanymddyfri. Dyma 'Braveheart' Cymru - fe'i dienyddiwyd mewn modd erchyll oherwydd ei gefnogaeth milwrol i Owain Glyndŵr. Gwnaed y cerflun dur gan Toby a Gideon Petersen, 2001.


Llywelyn yn edrych dros dref Llanymddyfri


Pantycelyn
Criw Capel Seion


Merched hapus iawn


Eglwys Llanfair-ar-y-bryn - lle y bedyddiwyd William Williams.
Ceir tipyn o hanes yr adeilad yma


Ein tywysydd yn yr eglwys, Dai Gealy


Muriau hynafol yr eglwys


Organ ddiddorol


Ffenest Pantycelyn a'r Ficer Prichard


Ffenest hyfryd gan un o feistri gwydr lliw yng Nghymru, y diweddar John Petts


Ffenest hynod er cof am Cpt. John Logan Stewart - gyda swastika amlwg ar gynffon y ddraig (gwelir y Cpt fel Sant Sior yn lladd y ddraig natsïaidd)


Bedd Pantycelyn


Geiriad y bedd, (dan ddylanwad yr 'English Cause')


Capel Coffa Pantycelyn yn Llanymddyfri




Aethom yn syth ymlaen o Lanymddyfri draw i Gaerdydd ar ymweliad teuluol, ac i minnau dderbyn hyfforddiant ar sut i weinyddu gwefan i gorff gwirfoddol. Fe fydd cyflawni'r gorchwyl hwnnw yn cymryd dipyn o fy amser o hyn ymlaen, fe dybiaf. Mae newid yn change, fel maen nhw'n dweud!

Roedd dod i delerau â'r quirks wefan yn dipyn go lew o waith ac fel dihangfa, fe aethom am dro heibio Ponterwyd, draw i Ysbyty Cynfyn, ac yna dros y bryniau (serth iawn a llithrig!!) at Bompren y Ffeirad, ac i fyny i gyfeiriad Bryn Bras. Troi yn ôl oedd ein hanes, oherwydd ei bod hi'n hwyrhau, a ninnau wedi blino braidd.

Ponterwyd


Eglwys Ysbyty Cynfyn. Mae cerrig mawrion yn wal y fynwent - tebyg i feini hirion, a chred rhai fod yr eglwys wedi'i hadeiladu ar ganol cylch cerrig. Mae eraill yn tybio bod un o'r cerrig (yr un fwyaf) yn wreiddiol, ond bod un arall, ger mynedfa'r fynwent, wedi'i gosod yna yn fwriadol. Un ddamcaniaeth yw bod y trigolion lleol ers stalwm yn ceisio manteisio ar yr ymwelwyr 'rhamantaidd' oedd yn mynd i'r Hafod, drwy chwarae ar y syniad bod yr eglwys ar safle derwyddol.

Eglwys Ysbyty Cynfyn, sydd yn un o 'Lefydd Llonydd' Ceredigion.




Het



Pompren y Ffeirad


Pwll du o dan y bont - daeareg ryfeddol y ceunant, a thystiolaeth amlwg i'w gweld o effaith grym ac ymchwydd afon Rheidol ar ei thaith.


Un o ddarnau mwyaf hyfryd y daith, rhwng muriau'r hen lwybrau.


Grug ar y llechwedd i gyfeiriad Bryn Bras


Yn ôl wedyn at waith ar y wefan, nes bod dyletswydd yn galw, a finnau'n un o'r beirniaid yn Sioe Tal-y-bont.

Ebol anystywallt


Beirniaid answyddogol y Cylch


Da godro


Hyrddod hynod lleol


Gwartheg Duon Cymreig




Ceffylau gwedd






Y pencampwr


Cynnyrch (gwych)



Winwns


Blodau


A pha sioe y dyddiau hyn fyddai'n gyflawn heb arddangosfa o hen offer fferm a cherbydau?
Alun Pugh a'i dractor a oedd yn wreiddiol ym meddiant y Cyngor Sir.


Ymlaen ymhen deuddydd ar drip i swydd Wiltshire. Roedd hyn yn rhan o ddathliad hwyr iawn, iawn, iawn, iawn fy mhen-blwydd 'arbennig', a dathliad cynnar iawn, iawn, o ben-blwydd Marian!

Ceffyl Gwyn Bratton Camp




Doedd y tywydd ddim yn braf iawn pan gyrhaeddon ni'r lle, ond cyn i ni ymadael, fe frafiodd rywfaint, ac fe ddaeth criw o baragleidwyr yno.


Adonis Blue - pilipala prin iawn. Trueni na lwyddais i ddal llun o'i adenydd glas llachar yn llydan agored.


Hau


Ymlaen at Gôr y Cewri. Roedd glaw Aberystwyth wedi'n dilyn unwaith yn rhagor.
Côr y cewri


Yna ymlaen at Fryn Silbury ( - ceir yr hanes anhygoel yma)


Rhodd anarferol ar 'wishing tree' gerllaw


Llwybr cerrig hynafol tuag at Avebury



Avebury - safle a oedd efallai yn bwysicach yn ei gyfnod na Chôr y Cewri. Mae'r pentref 'quaint' wedi'i adeiladu yng nghanol cylchoedd cerrig enfawr. Mae'r ffordd fawr yn mynd trwy ganol y cylch, sy'n biti garw. Mae'r safle (a Bryn Silbury) yn nwylo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.


Blodeuwedd


Gwreiddiau (coeden 'ddyheadau' arall)


Maint y cerrig yn amlwg


Carreg goncrid - i ddynodi lle bu un wreiddiol


Cyd-destun amaethyddol y lle


Mae Bradford on Avon - tref bert iawn - yn ymyl, ac yno mae addoldy o fath prin iawn, sef eglwys Sacsonaidd Sant Laurence


Yr allor (a darn o goeden hynafol yn y mur)


Desg yn yr haul - oedd, roedd fflachiadau o heulwen erbyn hyn.


Grisiau Jazz Carlin (wn i ddim sut y byddwn i'n gweld y fath 'fraint' o gael cwpwl o risiau cwbl ddi-nod wedi'u henwi ar fy ol!)


Jazz arall


Ac ar garlam i gloi - Ceffyl Hackpen. Dyma hanes ceffylau gwynion y sir


Ac i gloi - nid machlud am unwaith, ond yr haul gwan yn chwarae mig ar gae coch, o fewn golwg i'r ceffyl gwyn.


Comments

Photo comment By Richard Jones: Difyr dros ben - diolch yn fawr

Leave a comment

Your Name
Your Email
(Optional)
Your Comment
No info required here, please press the button below.