Cantre'r Gwaelod

25th February 2014
Y bore 'ma fe weles i drydar gan gorff swyddogol twristiaeth yn annog pobl i fynd i'r Borth i weld y goedwig hynafol, gan fod yr amgylchiadau'n "berffaith". Wel doedd yr amgylchiadau ddim yn berffaith o bell ffordd - llanw'n rhy uchel, gwynt yn rhy gryf, a thywydd pethma. A dim cyfarwyddyd ar sut i gyrraedd y man cywir. Fe es i draw i brofi pwynt i mi fy hun, ac roedd Borth (tydi'r goedwig ddim actiwali reit yn y Borth) yn berwi o bobl fel petaent yn chwilio am rywbeth ar y traeth. Bizarre.

Dyma sut oedd hi ar lanw isel, yn y man lle mae'r goedwig - yn yr amodau "perffaith" - fawr o olwg o'r goedwig, nagoes?!



Felly rhag i bobl gael eu siomi, dyma fy marn i ar sut i gyrraedd a gweld y goedwig.
Nid cyfarwyddiadau manwl swyddogol ydi'r rhain, ond sylwadau sy'n deillio o brofiad personol - peidiwch a'u cymryd fel efengyl, a gwnewch eich ymchwil eich hun. Fedra i ddim cymryd cyfrifoldeb os byddwch yn cael amaf, mynd ar goll ac ati.

Ers i mi osod lluniau o'r goedwig hynafol "Cantre'r Gwaelod" ar fy ffrwd flickr, a chyhoeddi lluniau yn y wasg o ddiwedd Ionawr, mae sawl person wedi cysylltu i ofyn lle yn union y mae'r hen fforest, a phryd mae'r amser gorau i ymweld. Rwyf hyd yn oed wedi dod ar draws teulu o Swydd Sussex (os wy'n cofio'n iawn) oedd wedi cychwyn am 4 y bore a gyrru'r holl ffordd i'r Borth i weld y goedwig, a hithau'n amhosib oherwydd amser y llanw a'r ffaith ei bod hi'n storm arw.

Os ydych am ymweld, tsieciwch y llanw. Rydych angen llanw isel iawn (isa'n y byd, gorau'n y byd). Fe allwch weld y tablau llanw - Aberystwyth ar wefan y BBC. Mae'r llanw fymryn yn hwyrach yn y Borth, sef lleoliad y goedwig hynafol.

Yna rydych angen tywydd cymharol braf - yn enwedig o ran y gwynt. Os yw hi'n storm, tydi crwydro'r traeth ddim yn syniad call unrhyw adeg. Ar safle'r goedwig, mae gwynt cryf yn gallu gyrru'r tonnau, hyd yn oed ar lanw isel iawn, i guddio'r goedwig. Mae safle dywydd y BBC yn eitha da a manwl o ran y rhagolygon, neu safle dywydd S4C.

Mae'r rhagolygon ar gyfer dydd Sadwrn 1 Mawrth, er enghraifft, yn dda. Llanw isel (0.2) am oddeutu 3 y prynhawn, a gwynt cymharol isel (12 mya) a haul a chawodydd. Mae dydd Sul Mawrth 2il rhywbeth yn debyg. Ond rhagolygon yn unig yw'r rhain.

Mae'r goedwig rhwng y Borth ac Ynyslas. Rwy'n ffendio hi'n haws cyrraedd o'r Borth nac o Ynyslas, ond mae'n well gan rai gerdded o gyfeiriad Ynyslas i'r Borth. Os ydych yn cychwyn cerdded o'r Borth, os ydych am wneud y gorau o'r amser, parciwch mor bell ymlaen ar hyd y "cob cerdded" ac y gallwch. Ewch i lawr am y traeth (mae grisiau ar gael mewn sawl man) a dilyn y traeth tuag at Ynyslas. Dyma'r ffordd rwy'n ei hoffi, gan bod y goedwig yn raddol "ymddangos" wrth gerdded ymlaen, o ychydig foncyffion, wedyn mwy, wedyn ugeiniau rhagor ohonynt yn ymestyn ymhell. Fe fydd hi'n cymryd o leiaf hanner awr i gyrraedd y goedwig - neu llawer mwy os ydych yn cerdded yn hamddenol, ac yn oedi i edrych ar bethau. Felly mae angen cychwyn cerdded o leiaf tri-chwarter awr (awr yn well efallai), cyn amser y llanw isel. Mae angen cychwyn yn ôl yn brydlon hefyd, oherwydd mae'r llanw yn dod i mewn yn eithriadol o gyflym, gan fod yr ardal mor wastad. Yn enwedig yn Ynyslas (dyna un rheswm pan nad wyf yn hoff o ddod o'r cyfeiriad hwnnw - rwy'n dychmygu cyrraedd yn ôl at y car a hwnnw dan ddŵr!).

Neu os nad ydych am gerdded yn bell, neu ddim am gerdded o gwbl, ewch at "troad Ynyslas" (lle mae'r ffordd yn fforchio tuag at Ynyslas). Cwpwl o droedfeddi heibio'r gysgodfan bws ar y gornel, y mae ffordd rychiog iawn, sy'n arwain at faes parcio (o fath, os nad yw dan ddŵr!). Ewch reit i'r pen, gan wylio'r golffwyr a'u peli. Mae darn amlwg a diddorol o'r goedwig a'r mawndir reit o'ch blaen ochr arall i'r addiffynfa. Does dim llwybr 'swyddogol' i fynd dros yr amddiffynfa (dim i mi sylwi), ond mae'r cerrig yn cyrraedd top y "slipars rêlwê" mewn ambell i fan, ac os ydych yn weddol heini, mae'n reit hawdd dringo dros y gerrig a'r amddiffynfa a chyrraedd y traeth. Os nad ydych yn abl iawn, ond i chi fedru cerdded i fyny at yr amddiffynfa, fe allwch edrych i lawr ar yr hen goedwig yn ymestyn i mewn i'r môr. Ond tydi cyrraedd y ffordd yma ddim hanner cymaint o hwyl a chyrraedd o gyfeiriad y Borth neu Ynyslas. Does dim antur yn hyn! Mae'r llun llwyd a diflas uchod wedi'i dynnu o'r safle yna ger yr amddiffynfa.

Felly - llanw isel iawn adeg golau dydd (llai na 1.0m), môr llonydd, gwynt ysgafn. Gofal priodol.

Cofiwch gymryd gofal, a pheidiwch dod ar fy ôl i os ydi pethau ddim yn troi allan yn berffaith. Sylwadau personol yw'r rhain, nid cyfarwyddiadau manwl "swyddogol".

Efo lwc, efallai y gwelwch chi rhywbeth tebyg i hwn.



Os nad oes gennych gar, mae bysiau yn mynd yn weddol aml o Aberystwyth i'r Borth - ac i "Ynyslas Turn", sef yr arhosfan bws ger y maes parcio sydd ger darn diddorol ac amlwg o'r goedwig!

Os ydych wedi teithio'n bell ac am wneud y gorau o'r diwrnod, neu o benwythnos, lle arall cysylltiedig â Chantre'r Gwaelod yw Sarn Cynfelyn.



Fe allwch chi gyrraedd y Sarn ynteu wrth gerdded llwybr yr arfordir o Glarach (maes parcio BACH hwylus yno) tuag at y Borth (neu vice versa). Mae hyn yn caniatau i chi edrych i lawr ar y llwybr cerrig yn ymestyn allan i'r môr (ar lanw isel wrth gwrs, welwch chi fawr ddim ar lanw uchel). Mae'r llwybr ar y gorau yn un braidd yn beryglus - gofal - mae esgidiau pwrpasol ac ati yn gwbl angenrheidiol - ac yn ôl y sôn mae'n waeth ar y funud oherwydd difrod y stormydd. Felly cymerwch ofal a gwrandewch ar unrhyw gyfarwyddiadau neu rybuddion cyfredol.

Mae'r Sarn reit gyferbyn a thŷ hynafol iawn - y Wallog. Un o fannau mwya godidog yr arfordir, ond mae'r llwybr tuag at y Wallog yn ôl y sôn (tydw i ddim wedi cerdded y ffordd yna ers stalwm) yn bur wael ar y funud, ac amddiffynfa'r môr ger y Wallog wedi'i olchi i ffwrdd yn y stormydd. Ffordd arall i gyrraedd y Sarn yw dilyn y ffordd gefn o Aberystwyth i'r Borth (heibio Llangorwen), a throi i lawr am y Wallog. Tydw i erioed wedi gadael car i lawr ffordd yno, ac mae'n dir preifat, ond mae yna lwybr cyhoeddus yn arwain at y traeth. Traeth bach iawn sydd yno, gyda hen odyn galch, ac wrth gwrs y Sarn. Ond mae'n well gen i yr olygfa am "i lawr" o ben y clogwyn i'r de o'r Sarn, er mwyn gweld y llwybr cerrig yn y cyd-testun ehangach o Fae Ceredigion.

Ond yr olygfa orau oll o'r Sarn yw o'r môr tuag at y tir ar ddiwrnod braf. Felly os ydych yn caiacio, mae modd lansio yn Clarach a rhwyfo i fyny at y Sarn ac yn ôl mewn cwpwl o oriau (gwyliwch yr holl daclau pysgota / rhaffau potiau cimychiaid). Mae'r Sarn yn ymwthio allan o'r ochr dde i'r llun hwn.

YCHWANEGIAD

Rhywrai newydd holi ble mae'r "llwybr gwiail" o'r Oes Efydd.

Nid wyf wedi gallu darganfod y llwybr gwiail, ond yn ôl yr archaeolegwyr a thrigolion lleol, mae'r llwybr - a'r man lle roedd olion traed hynafol, pen arall y traeth i'r goedwig (uchod). Os wy'n deall yn iawn, mae yna olion o fawn yn ymestyn allan rhwng sied y bad achub a'r clogwyni ("Upper Borth") - lle mae cofgolofn y rhyfel ar ben y bryn.

Os ydych am fentro i'r parthau hyn i stwnan, cymerwch hyd yn oed mwy o ofal! Mae'r môr yn y gornel yn gallu bod yn frochus iawn iawn - dyna lle rydw i'n mynd o dro i dro i dynnu lluniau o donnau enfawr!

Cymerwch ofal, a joiwch.


Leave a comment

Your Name
Your Email
(Optional)
Your Comment
No info required here, please press the button below.