Etifeddiaeth

17th February 2015
Maen nhw'n ddyddiau du iawn ar wasanaethau cyhoeddus o bob math, ac yn enwedig ar y gwasanaethau llyfrgelloedd ac amgueddfeydd amrywiol.

Pan oeddwn i'n hogyn ifanc, fe fyddwn yn mynd efo fy mam o dro i dro i Fangor. Roedd o wastad yn ddiwrnod hir, diflas; yn antur anghyfforddus mewn dillad gorau, yno ac yn ôl ar fws Crosville, gyda lot o gicio sodlau a diflastod affwysol rhwng y ddwy siwrnai. Ond weithiau, yn hytrach na chael paned yng nghaffi'r Penguin cyn dychwelyd, fe fyddai mam yn fy llusgo i Amgueddfa Prifysgol Bangor i weld y creiriau. Doedd yr hen gesys arddangos fictoraidd, trwm ddim yn rhyw apelgar iawn, a doedd dim ymgais o gwbl i ddehongli'r cynnwys i blant bach blin, hyd y cofia i, ond roedd gan Mam y ddawn i weu storiau. Fe fyddai bygythiadau hwyrol sŵn traed llygod bach yn y lofft yn y tŷ yn troi'n rasys cyffrous rhwng llwythi llygod hynafol a pharchus; fe fyddai'r ffaith fod tegan wedi'i symud o'i leoliad dan y grisiau yn arwydd bod y tylwyth teg wedi bod yn chwarae efo fo yn ystod y nos; fe fyddai cwt ar y bys yn troi'n gyfle i adrodd hen rigymau ac yn sbardun i greu rhai newydd. Ac fe fyddai ymweld â'r amgueddfa yn gyfle i adrodd storis am ein hanes a hirhoedledd ein tras, a'n dycnwch ni'r Cymry cyffredin yn wyneb anghyfiawnder. Roedd y creiriau'n ddolenni annibynnol, treuliedig ac anghyflawn, a geiriau Mam rywsut yn eu pwytho ynghyd er mwyn fy nghysylltu i â dechreuadau cynharaf dyn ar y ddaear hon. Roedd y profiad yn gwneud i mi deimlo fy mod i'n perthyn i'r bobl ac wedi fy ngwreiddio i'r tir, ac roeddynt yn fy arfogi yn erbyn anghyfiawnderau'r byd.



Roedd yr athro hanes a ddysgodd fy mam yn yr 1930au yn athro hanes i mi yn y 1970au!

Yn fy arddegau, fe ddaeth y llyfrgell leol yn bwysig iawn i mi. Roedd prifathro'r ysgol uwchradd wedi cloi'r llyfrgell am ryw reswm. Ni chefais y cyfle 'rioed i fynd i'r llyfrgell ysgol honno pan oeddwn yn ddigon hen i weld ei hangen. Roedd ambell athro (megis yr athro celf, diolch iddo - meddyliwch geisio dysgu hanes celf heb allu dangos esiamplau o waith yr artistiaid y cyfeirid atynt!) wedi creu 'micro-lyfrgell' yn ei ystafell ddosbarth, ond serch ei ymdrech, doedd hynny ddim yn ysgogi rhywun i ddilyn ei drwyn o un pwnc i'r llall nac i fagu'r arfer o ddarllen ac ymchwilio'n annibynnol. Roedd yr athrawes Saesneg yn dod â llyfrau o'i chartref i'w benthyg i ddisgyblion oedd yn dangos diddordeb mewn llenydda.

Gan fod y llyfrgell wedi'i chau, roeddwn i'n teimlo bod benthyg a darllen llyfrau, a darganfod gwybodaeth a mwynhau llenyddiaeth yn rhyw fath o weithred beryglus, tanseiliol i awdurdod. Yna darganfyddais y llyfrgell leol i lawr yn y dre, a bûm yn ymwelydd cyson am rai blynyddoedd. Ond ffuglen oedd yno'n bennaf, a llyfrau ffeithiol oedd wir yn mynd â'm bryd, ac roedd yn rhaid archebu'r rheini, a disgwyl, a disgwyl, weithiau am wythnosau iddynt gyrraedd. Erbyn hynny, roedd egin dân y diddordeb yn aml wedi diffodd. Ond rwy'n fythol ddiolchgar i lyfrgell fach Biwmares am fod mod glên efo mi, ac am fy helpu i ddiwallu'r awydd i ddysgu am bopeth o hanes y Rhufeiniaid ym Môn, i sut i fynd yn newyddiadurwr (gorfod dysgu llaw-fer, yn anffodus, ond stori arall yw honno), i sut i drwsio injan BSA Bantam.

Rywsut, ar yr eiliad olaf posib, fe benderfynais fy mod am fynd yn llyfrgellydd. Ac ar y siwrnai addysgol honno o adael ysgol i fynd i weithio i'r Llyfrgell Genedlaethol, fe ddeuthum ar draws darlithydd ifanc o Brifysgol Abertawe, a ddaeth i Aber i roi cyfres o ddarlithoedd ar hanes Cymru. Dr John Davies oedd y dyn hwnnw, ac fe gyflwynodd ei hun ar ddechrau ei ddarlith gyntaf (yn Saesneg) gan ddatgan 'sylwch fy mod yn gwisgo tei coch. Mae arwyddocâd i hynny'. Y cof sydd gen i yw ei fod yn defnyddio arddull darlithio fy hen athro hanes o ddyddiau ysgol, sef 'saethu ffeithiau' atom, fel pe baent yn fwledi o 'Tommy gun".

Rhyfeddais wedyn, flynyddoedd yn ddiweddarach ei glywed yn traethu yn hamddenol ac i bwrpas, ac mewn ffordd afaelgar, heb arlliw o geisio profi dim, na lladd brwdfrydedd ei gynulleidfa efo'r tanio diddiwedd cyflym. Flynyddoedd wedyn, a finnau'n gorfod mynd i Abertawe (neu Gaerdydd?) i arwyddo copiau o Wales of one hundred years ago - (llyfr gan yr Athro Paul O'Leary a finnau), pwy oedd yno i roi 'darlith' neu sgwrs adeg y lansiad ond John Davies. Roeddwn i'n poeni i'r byw na fyddai'n cymeradwyo'r llyfr, oedd wedi'i baratoi ar gyfer pobl gyffredin, nid ysgolheigion pennaf y wlad; ond roedd yn hynod ffeind a charedig, er nad oedd, fe dybiwn, yn gweld rhyw werth mawr ynddo!


Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Fe welais ef ganwaith wedyn yn darllen yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac roedd fel arfer yn fy nghyfarch gyda gwên fach a nod o'i ben, er nad wy'n credu ei fod yn cofio pwy oeddwn. Chawson ni erioed y sgyrsiau yna roeddwn yn ddistaw bach yn dyheu i'w cael am ambell bwnc, neu am ryw berl neu'i gilydd roeddwn wedi ddarganod ar hap yn y casgliadau ac y tybiwn y byddai ganddo ddiddordeb ynddynt. Dyna felltith y swildod, neu'r diffyg hyder, sydd yn aml fel mantell anweladwy o'm cwmpas.

Yn ei lyfr Hanes Cymru, fe lwyddodd John Davies i aildanio diddordeb yn ein hanes a'n gwlad. Yn yr un modd ag yr oedd Mam yn llwyddo i ddod â chreiriau'r amgueddfa'n fyw i fachgen bach drwy adrodd hanesion o'u cwmpas, fe lwyddodd ef i adrodd stori lawer mwy ar raddfa epig; fe bwythodd y darnau ynghyd, a dod â'r gyfan yn fyw ac yn berthnasol i ni fel cenedl. Fe roddodd ein bodolaeth mewn cyd-destun, ac wrth wneud hynny, ein dyrchafu a chadarnhau ein hawl i fod.

Mae amgueddfeydd a llyfrgelloedd wedi newid yn llwyr ers fy nyddiau ysgol i. Maen nhw'n hygyrch ac yn olau a'r gorau ohonynt yn gallu ysbrydoli a'n haddysgu mewn ffordd adloniannol. Mae rhai yn dadlau bod popeth sydd ei angen ar gael i ni ar amrantiad ar y we, ac yn wir y mae llyfrgelloedd ers blynyddoedd yn cynnig mynediad rhad i'r perwyl hwnnw. A heb y mynediad hwnnw, sut y mae disgwyl i blant a phobl ifanc o gefndiroedd tlawd gael mynediad at ffynonellau print neu rithiol a allai ateb eu cwestiynau, neu ehangu eu gorwelion?

Roedd y prifathro yn ffôl i gau'r llyfrgell ac amddifadu'r plant dan ei ofal o'r siawns i ddarganfod y byd a hwy eu hunain. Yn yr un modd y mae'r cynghorau sy'n atal y gwasanaethau llyfrgell ac amgueddfeydd yn bygwth codi gris cyntaf yr ysgol y tu hwnt i gyrraedd y rhai sydd fwyaf angen yr hwb yna i ymestyn yn uwch.

Roedd John Davies yn ddyn llyfrau, yn amsugno a chofio pob gair a ddarllenai, ac wrth gofio amdano a'i gyfraniad amhrisiadwy, da fyddai atgoffa ein cynghorau a'n Llywodraeth werth ein system lyfrgelloedd ac amgueddfeydd, i lawr o'r Llyfrgell Genedlaethol i gangen Biwmares, o'r Amgueddfa Genedlaethol i lawr i'r gwasanaeth sirol.

Mawr yw ein colled fel cenedl, a chydymdeimlwn â theulu John Davies ar adeg mor drist.



Cofio 50 mlynedd ers protest Cymdeithas yr Iaith (yr oedd John Davies yn un o'r sefydlwyr) - protest Pont Trefechan


Capel Bwlchllan, Ceredigion.


Leave a comment

Your Name
Your Email
(Optional)
Your Comment
No info required here, please press the button below.