Gorffennaf16

09th August 2016
Gorffennaf a mymryn o Awst 2016

Dyma fi, ar ddechrau'r mis ar Blatfform Un, yng ngorsaf reilffordd y Borth. Dim ond un platfform sydd i'w gael yn y Borth, felly rwy'n amau mai rhyw dynnu coes yw'r hen arwydd. Does byth newid platfform eiliad olaf yma; os yw'r trên yn mynd i'r dde, mae'n mynd i Aberystwyth, ac os yw'n mynd i'r chwith, fe fydd yn mynd i Fachynlleth a thu hwnt. Rwyf innau am fentro i'r chwith, i Birmingham, er mwyn 'hedeg i Baris'.



Roedd rhywbeth prin iawn i mi yn yr awyr ym Mharis, sef haul tanbaid. Dyma pryd y sylweddolais fod fy het haul yn dal adre yng ngwyll Ceredigion.

Dim het, dim cysgod.


Doedd hi ddim yn hawdd cyrraedd fy ngwesty bach hoff yn ardal Bercy (ganllath o Bercy Village, a'i bwytai di-ri, a siopau bach twî), gan fod streic a gwrthdystiad anferth yn ardal y Gare de Lyon. Cerdded, a cherdded, a cherdded amdani felly, yng nghanol y gwres yn gwau drwy'r gwrthdystwyr.

Taswn i ddim wedi blino cymaint, fe fyddwn wedi ymweld â'r llyfrgell genedlaethol - y BnF. Yn yr 'oes o'r blaen' fe fues i yno sawl gwaith, mewn cyfarfodydd a chynadleddau. Coeliwch neu beidio, fe roddais ddarlith aml-gyfrwng, reit heriol, mewn cynhadledd yno unwaith.

BnF


Mae'r papur newyddion yn y gwesty amser brecwast yn datgelu pam fy mod i ar daith! Ymlaen felly yn syth wedi tamaid o croissant, am y trên i Lyon, i weld Cymru yn chwarae yn erbyn Portiwgal.



Roeddwn wedi methu cael ehediadau nôl a mlaen o nunlle ym Mhrydain i Lyon, felly roedd raid hedfan i Baris, a dal trên i Lyon. Wedyn yr un peth am yn ôl i fynd adref, neu dyna oedd y bwriad.

Roedd y trên i Lyon (cwpwl o oriau) yn ddifyr iawn - golygfeydd hyfryd iawn (di-felinau gwynt). Wedi cyrraedd yr orsaf, dyma brynu tocyn teithio undydd, a chael metro ac wedyn funicular i gyfeiriad y gwesty.

Ac am westy - roeddwn wedi'i drefnu ar yr eiliad olaf, am bris gwirion, yn ystod oriau mân y bore.

Wele'r cyntedd - roedd fel cerdded i mewn i eglwys gadeiriol. Roedd yr ystafell (dim llun) yn fendigedig, a'r brecwast (cost ychwanegol!) - cystal ag unrhyw un a gefais erioed.



Rhyw hanner milltir crasboeth o orsaf y funicular yr oedd y gwesty, ac roedd raid cerdded nôl yno i gael gweld yr eglwys angyhoel ar ben y bryn, a'r olygfa banoramig o'r ddinas.

Golygfa i lawr tua'r ddinas (o'r Eglwys).



Y Pab John Paul yr Ail yn edrych draw am yr eglwys.



Roedd caffi bach rhad a siop (oedd, hwrê, yn gwerthu hetiau haul) yr ochr draw i'r eglwys, ac yno roedd criw o Lanfaircaereinion yn chwifio'r faner, a hwythau yn cael fawr o seibiant wrth i bawb o bobman erfyn am gael tynnu llun efo'r Ddraig Goch. Roedd pawb o bedwar ban eisiau bod yn Gymry heddiw!



Dyna anelu nôl i lawr am y dref, a heidiau o grysau coch ym mhobman. Roedd y traffig ar stop wrth i'r Cymry a'r Portiwgeaid ganu a dawnsio yng nghanol y strydoedd. "Don't take me home" aml-acennog.





Stadiwm hardd Lyon.



Llew y tu allan.



Round he rolled his baleful eyes, that witnessed huge affliction and dismay... (neu rywbeth felly).



A fuodd yna rioed gymaint o gamerâu'r wasg a'u hanel at dîm pêl-droed Cymru o'r blaen?


Safwn am yr anthemau


Diwedd y gêm. Hapus a thrist, ond pawb yn canu o hyd.


Erbyn i mi deithio nôl i ganol y ddinas o'r stadiwm (sydd yn BELL o'r ddinas) cefais y metro olaf i gyfeiriad y gwesty, ond roedd y funicular wedi hen gau. Doedd dim amdani ond cerdded i fyny'r bryn eithriadol o serth am ryw awr. Uchafbwynt y daith i fyny'r bryn oedd baglu ar draws dyn 'celain' o chwil yn y gwyll. Fe ddaeth at ei hun a phrysuro i fyny'r allt fel pe bai'n athletwr o fri.

Cyrraedd y gwesty i 'You have inspired us. We are so sorry that you lost...' Cawod a chyrraedd y gwely yn ystod yr oriau mân!

Dyma faes awyr swish Lyon. Fe gefais wybod gan Flybe nad oedd lle i mi ar yr ehediad adref o Baris wedi'r cyfan, ond cynigiwyd ehediad o Lyon i mi (doeddan nhw ddim i wybod fy mod i yn Lyon). Yn ffodus iawn, er bod gen i oriau sbâr, fe gychwynnais yn syth rôl y brecwast tywysogaidd am y maes awyr. Roedd hi'n shambles llwyr yno, ac fe fuon ni'n ciwio am dros ddwy awr i 'tsiecio i mewn', wedyn oes arall i fynd heibio'r prosesau diogelwch. Roedd yr ehediad ryw awr yn hwyr yn cychwyn o'r herwydd, a phawb wedi bod yn sefyll mewn ciw, heb ddiod na bwyd na dim, am oriau. Ond o leiaf roedd yna ehediad, a chyrhaeddwyd Birmingham jest mewn pryd i mi golli'r trên!

Hedfan


Roedd gen i daleb (anrheg gan rywun annwyl roeddwn wedi bod yn ei chynorthwyo droeon) i gael pryd o fwyd yng Ngwesty Cymru. Roeddwn wedi gorfod gohirio'r pryd ymhell wedi dyddiad cau'r daleb, oherwydd yr helynt mawr a gefais am ddeufis a mwy efo fy nannedd. Ond nawr roedd y dant wedi'i dynnu, a phethau'n mendio'n reit ddel. Mor braf oedd cael mentro ar fwyta pryd moethus o'r diwedd, a'r goron ar y noson oedd y pwdin cyrens duon. Am flas gwirioneddol arbennig. Ewch amdani os ydych yn Aber.



Dyletswydd yn galw! Trip y Garn a'r Noddfa i Lanuwchllyn. Bwyd ardderchog yn yr Eryrod, gyda llaw.



Fe wnaeth pawb fihafio ar y trên bach ar hyd y llyn o'r Bala (gan gynnwys y tedis hyn oedd yn mynd am dro efo'u perchnogion o Loegr) - er mai Holy War oedd enw'r injan.



Canolfan 'Byd Mary Jones'



Yn y fynwent, dyma fedd Bob Tai'r Felin - canwr gwerin yr wyf yn cofio fy mam a nhad yn sôn amdano, ac a anfarwolwyd fel 'Taid' yn y ffilm 'Noson Lawen'



Adref yn ôl, a barcud yn ymweld â ni sawl gwaith - wedi cymryd at y polyn ffens ar dop y cae.



Noson braf yng Nghlarach, a phlant o'r maes carafanau yn mwynhau'r machlud, a diod oer, braf.



Dyma fentro ar noson arall i gael llun o Graig y Fulfran i gyfeiriad y dre, a'r tarth yn codi o'r môr wrth iddi oeri.



Er yr holl deithio, roeddwn i'n llwyddo i wneud tipyn o waith (gan gynnwys ar yr awyren a'r trenau!). Serch hynny, roedd cwpwl o luniau roeddwn angen eu tynnu ar gyfer y llyfr nesaf, felly ar ddiwrnod bendigedig (un o'r ychydig ddyddiau go iawn o fendigedig yma yn ystod y cyfnod) dyma Marian a finnau yn mynd ar wibdaith i Sir Benfro - i Gwmyreglwys ac Abereiddi i dynnu lluniau yn ymwneud â hanes tywydd garw. O deithio mor bell, fe fyddai wedi bod yn wirion i beidio mentro mymryn ymhellach...

Cwmyreglwys



Abercastell



Trwyn Strwmbwl



Garn Fawr



Melin Tregwynt





Y Stryd - Abereiddi



Plymio - Abereiddi. Dyma'r "Blue Lagoon" - hen chwarel, a lleoliad cyrsiau 'coasteering', a man lle cynhaliwyd cystadleuaeth blymio 'Red Bull' unwaith.



Kayaks yn erbyn yr haul, Abereiddi



Porthgain, ac amser swper - pysgod a sglodion o'r caffi bach arobryn ar ben draw'r cei.



Taith i Lundain wedyn i Marian gael mynychu un noson o'r Proms, ac i ni'n dau weld arddangosfeydd y V&A. Wrth i ni gerdded fel fflamia i lawr y stryd, sylwi ar hwn. Fe wyddoch pa geddoriaeth a ddaeth i'r cof.



Rôl bod yn y ddinas fawr ddrwg, beth gwell nag awel y môr yn Ynyslas - a gweld nifer fawr o wylwyr y glannau yn gosod tâp o gwmpas hen ffrwydron! Ond doedd y cŵn yma ddim yn poeni am gael eu chwythu i ebargofiant.



Er bod gennym, am gyfnod o leiaf, ein barcud ar ben polyn, doedd hynny ddim yn nadu pla o gwningod gwyllt rhag mentro i'r ardd a cheisio gwneud tyllau o dan ein lawnt. Yn wir, rwy'n amau mai cysgod y barcud yn y cae a wnaeth iddynt ffoi i ddiogelwch cymharol ein border bach.



Noson arall hyfryd, ond rhyfedd o oer, ac i ffwrdd a ni i Nant-y-moch a rownd i Gwm Ceulan, man anghysbell ond prydferth iawn uwchben Tal-y-bont. Peidiwch mentro yno os nad ydych yn gallu bacio car, neu os oes gennych ofn uchder wrth yrru.



A hithau nawr yn ddechrau Awst, roedd hi'n bryd troi ein golygon tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni. Roedd cyfrol 'Llangrannog a fi' Steff Jenkins wedi cyrraedd drwy'r post, ac roeddwn ymhlith pethau eraill, yn chwilfrydig i weld sut oedd y clawr (ffoto gen i) yn gweithio i dynnu sylw darllenwyr.



Ar y ffordd i lawr yno, dyma oedi yn Nhrefeca i weld yr arddangosfa o greiriau Hywel Harris. Dyna i chi 'arbrawf' hunan-gynhaliol difyr oedd i'w gael yn Nhrefeca bryd hynny. Peiriant 'trydaneiddio' aeth â mryd i, gan ei fod yn 'gwella' moelni, y ddannoedd, a henaint, ymhlith pethau eraill.



Nid nepell o Dalgarth / Trefeca mae Llyn Syfaddan (Llangorse Lake)
Yn y llyn mae ynys a wnaed gan ddyn, ac olion yn mynd yn ôl i'r cyfnod cyn-hanes.





Ger y rhaeadr yn Llangynidr oedd ein llety am dair noson. llecyn hyfryd, er bod hi'n cymryd amser i ymgyfarwyddo â rhuo'r afon!



Dyma fentro i Faes yr Eisteddfod ar y dydd Iau - siwrne hwylus ar fws wennol - er mwyn cynnal sesiwn arwyddo 'Ceredigion: wrth fy nhraed' ar stondin y Cyngor Llyfrau. Diolch i chwi a brynodd gopi - gobeithio bod y gyfrol wedi plesio.



Roeddwn i yno hefyd i fynychu lansio 'Archaeoleg Ucheldir Gwent' gan Frank Olding. Cyfrol ddifyr dros ben gan y Comisiwn Henebion, ac yn llawn o luniau gwych gan eu ffotograffydd Toby Driver.





Ys gwn i pwy yw hwn, yn fidlan efo'i ffôn?!


Dyna fentro gofyn i Brif Lenor yr ŵyl am gael tynnu ei lun wrth iddo yntau orffen llofnodi ei gyfrol 'Cai'.



Crwydro dipyn wedyn efo fy nghamera i weld beth arall a welwn...

Gosgordd


Robin Huw Bowen


Y Lle Celf




Mari Thomas yn y drych


Ruth Jên


Debbie Edwards - dylunudd y goron


Het gan Alison Todd




Arglwyddes Llanofer


Mynd i gig Huw Chiswell


Aros am y band, a mwynhau


Ffans Band Pres Llareggub


Band Pres Llareggub


Huw Chiswell




Bore dydd Sadwrn, a ninnau'n gorfodi ein hunain i godi er mwyn gwneud lle i'n gwell yn y bwthyn bach clyd ger yr afon, a chychwyn ar hyd llwybrau hir a chul, a phrydferth, nôl adre -

Afon Wysg ger Crughywel


Y bont enwog




Eglwys Partrishow













Eglwys 'gam' Cwm-iou






Llanddewi (Nant Hodni) / Llanthony

Y Priordy


Sioe Llanthony a'r Cyffiniau


Enw addas i'r fan hufen iâ lleol yma


Eglwys Capel y Ffin






Capel y Bedyddwyr, Capel y Ffin




Gan fod drws y capel wedi'i gloi, roedd yn rhaid bodloni ar dynnu llun o flodau ffresh y tu mewn yn pwyso ar flodau gwydr chwarel y ffenest. Symbolaidd iawn!



Bwlch yr Efengyl - ffordd gul a serth sy'n arwain o Gapel y Ffin at un o olygfeydd harddaf Cymru. Dywedir bod modd gweld naw sir o'r top.



Dyffryn Gwy



Hufen iâ a phaned yn y Gelli Gandryll, cyn troi am adre, a chymylau a glaw. 'Don't take me home, please don't take me home...'

Yn ôl fy arfer, wele fachlud Clarach i gloi. Diolch o galon am ddarllen mor bell â hyn.



Comments

Photo comment By Elan: Gwych a difyr dros ben. Edrych mlaen at gyfoeth y gyfrol nesa.

Leave a comment

Your Name
Your Email
(Optional)
Your Comment
No info required here, please press the button below.