Mai 16

31st May 2016
Cyngerdd gwerin penigamp i ddathlu bywyd Meredydd Evans, draw ym Mhontrhydfendigaid, agorodd y mis. Roeddwn yn falch o gael mynychu'r noson am nifer o resymau, gan gynnwys cael gweld Arwel 'Rocet' yn cyflwyno'r gyfrol 'Merêd: dyn ar dân' i Phyllis ac Eluned.

Fe dynnais lun y clawr adeg Parêd Gŵyl Ddewi cyntaf Aberystwyth, pan oedd Merêd yn 'dywysydd' yr orymdaith. Fe wnes i ofyn iddo aros am ennyd cyn cychwyn, er mwyn cael tynnu ei lun, ac fel roeddwn i am bwyso'r botwm, fe wthiodd dau ffotograffydd 'go iawn' heibio fi a blocio'r shot (gan fy ngwthio o'r neilltu efo'u penelin!). Rwy'n hynod ddiolchgar iddynt, oherwydd erbyn i mi gael y cyfle i gamu draw i'r ochr ac ail-fframio, nid llun ffurfiol, gwenu i'r camera, oedd ar gael, ond yr ennyd hyfryd naturiol hon, wrth i Merêd sylwi ar un o'r plant bach oedd yn troi o'n cwmpas.



Defnyddiwyd y llun fel cefndir gwobrau gwerin R2 yng Nghanolfan y Mileniwm (y munudau 'ffotograffig' mwya emosiynol erioed i mi), yn sail i waith celf wedi'i gyplysu efo geiriau Rocet, mewn amryw deyrngedau yn y wasg, a nawr ar glawr y llyfr a olygwyd gan ei ferch, Eluned. Fuodd erioed y fath fraint i hen dynnwr lluniau o Gymro Cymraeg?

Mae sôn am gael gŵyl flynyddol yn y Bont i hyrwyddo canu gwerin Cymraeg. O ymateb pawb, rwy'n tybio y byddai'n fenter werth chweil.

Mis o fod â'r trwyn ar y maen o ran paratoi cynnwys y llyfr nesaf oedd Mai yn bennaf, ynghyd ag ychydig o waith comisiwn er mwyn cadw'r blaidd o'r drws tra mae ymchwil ar gyfer y gyfrol yn rhygnu 'mlaen.

Arweiniodd peth o'r gwaith hwnnw ni draw i Sir Benfro a godre Ceredigion, a chan fod y tywydd yn reit ffafriol, roedd cyfle i dynnu ambell dirlun a phortread ar y ffordd.

Cofeb Dewi Emrys uwchlaw Pwllderi


Llandudoch, ac Aberteifi ar draws yr afon


Melin Trefin


A hwn, sydd yn fwy arwyddocaol.


Doedd gen i ddim llun o gofeb cenhadon cyntaf Madagascar (cynhyrchodd cwmni Unigryw raglen 'Dylan ar Daith' - os cofiaf yn iawn - am eu hanes trist sbel yn ôl), felly fe oedais ger capel Neuaddlwyd er mwyn cofnodi'r gofeb, ond yr haul ar y cae ar draws y ffordd dynnodd fy sylw yn fwy na'r angel ar ben y garreg.





Rwy'n falch iawn o'r ddau bortread yma, sef yr arlunydd Aneurin Jones, y mae gen i lun anferth ganddo yn hongian acw ers blynyddoedd mawr, a'r bardd a'r amaethwr adnabyddus Emyr Jones 'Oernant'. Diolch yn fawr i'r ddau am eu croeso, ac am adael i mi dynnu eu llun.

Aneurin Jones yn ei gartref yn Aberteifi


Emyr Jones, 'Oernant'


Am y tro cyntaf erioed (o leiaf pan oedd camera gen i), roedd hi'n fendigedig o heulog wrth i ni ymweld â Thyddewi, ac fe gefais luniau lliwgar braf o'r lle cyn troi am adre.

Eglwys Gadeiriol Tyddewi - St David's Cathedral


Mae'n fis rhyfedd iawn os nad wyf wedi tynnu llun ddigwyddiad ar gyfer papur bro Y Tincer, neu 'Gair o'r Garn' - cylchgrawn yr ofalaeth. Roedd y Garn yn un o'r capeli Cymraeg cyntaf i greu gwefan, ac mae'r wefan a'r cylchgrawn yn cyrraedd ymhell, bell y tu hwnt i ffiniau'r ofalaeth a'r capeli cysylltiedig. Mae llun 'iCON' gen i o Soar y Mynydd (yn rhan o arddangosfa Wynne Melville Jones, yng Nghanolfan Aur Rhiannon yn Nhregaron) sy'n fyfyrdod ar y syniad yma o dechnoleg / adeiladau / neges crefydd.

Mae cyfraniad ymroddedig criwiau bach (erbyn hyn) y capeli yn anghymesur o fawr o ystyried nifer yr aelodau - cyfraniadau i sawl agwedd o fywyd y gymuned leol, ac i elusennau sy'n gweithredu'n fyd-eang.

Dyma griw o 'ferched y Garn' a aeth ati i baratoi cinio 'bara a chaws' yn y capel, pryd y codwyd £400 tuag at apêl Cymorth Cristnogol i helpu trigolion tlotaf Bangladesh.



Er nad wyf yn aelod o gapel, rywsut rwy'n ffendio fy hun o dro i dro yn cynorthwyo ar 'ochr dechnegol' pethau, gan fod fy nghefndir cyfrifiadurol a chlyweledol (a'r ffaith nad wyf yn gallu dweud 'na') yn gallu bod o gymorth weithiau. Gosodwyd system taflunio di-wifr yno yn lled ddiweddar, a'r bedydd tân i mi oedd ei ddefnyddio ar gyfer y gwasanaeth Cymorth Cristnogol.

Rwyf wedi sôn sawl gwaith yn y blogiau hyn fy mod i'n hoff o dynnu portreadau. Treuliais hanner diwrnod hyfryd i lawr yn Llangrannog, yn tynnu llun clawr llyfr am hanes Steff Jenkins, ac yna manteisio ar y cyfle i gael cinio bach hyfryd efo Marian, ein dau yn eistedd fel Siôn a Siân i lawr y tu allan i'r caffi ar fin y traeth.

Cafwyd awr bach ddigon difyr hefyd yn ymweld â safle 'Gweilch Dyfi' i greu portread o Alwyn Ifans ar gyfer cylchgrawn Golwg. Lle cynt doedd gen i ddim ond mymryn o ddiddordeb yn hanes yr adar, rwyf nawr yn dilyn eu hynt a'u helynt bron yn ddyddiol!





Rydym fel arfer yn ymweld â'r teulu yn y gogledd-ddwyrain o leiaf unwaith y mis, a'r tro hwn (wrth gyrraedd o leiaf), roedd hi'n braf iawn dros un o fannau harddaf Cymru, sef Dyffryn Clwyd.



Wrth alw yng Nghaerfyrddin ar ddydd Sadwrn Gŵyl y Banc, gwelwyd bod Carnifal y dref ar fin cychwyn ar orymdaith ar hyd y stryd, felly dyma gipio cwpwl o snaps cyn cael cinio hynod o flasus yn yr Atom, canolfan Gymraeg 'tref hynaf Cymru'. O fewn munudau fe ddaeth yn law eithriadol o drwm. Gobeithio bod yr orymdaith wedi cyrraedd man diogel cyn i'r glaw tyrfau eu cyrraedd!

Ar y daith adre, roedd y ffordd wedi cau ym Mhencader, gyda thancer Mansel Davies ac injan dân yn llenwi'r ffordd, a hanes fod tai a busnesau wedi'u heffeithio'n arw gan lifogydd.







Yn wahanol iawn i bawb oedd yn cymryd rhan yn y cyngerdd yn y Bont, ni allaf ganu nodyn mewn tiwn, felly rwyf am 'ganu'n iach' yn fy ffordd arferol, gyda lluniau o'r machlud o Glarach - un llun yn edrych draw i gyfeiriad Eryri, a'r llall yn syth i wyneb yr haul.





Leave a comment

Your Name
Your Email
(Optional)
Your Comment
No info required here, please press the button below.