Mawrth 2015

08th April 2015
Mawrth 2015



Roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi cael mis Mawrth reit dawel, ond o edrych nôl ar y lluniau, roedd hen ddigon ar y gweill gennyf!

Cefais ddeuddydd diddorol iawn yn dilyn ôl traed Owain Glyndŵr, un diwrnod yn tynnu lluniau o 'Ogof Glyndŵr' ger Tonfanau, ac un arall yn ymweld â thŷ hynod iawn nid nepell o Lanllieini (Leominster). Mae'r lluniau hyn, a nifer o rai eraill, ar gyfer llyfr ar hanes dyddiau olaf Glyndŵr, gan yr Athro Gruffydd Aled Williams, a fydd yn ymddangos o stabl y Lolfa cyn bo hir.

Roedd y traeth yn Nhonfanau yn frith o waliau brics wedi'u dymchwel. Rwy'n cymryd mai muriau hen adeiladau milwrol yw'r rhain, a bod erydiad yr arfordir yn rywbeth i wneud â'u tranc.


Ffermdy hynafol Cefncamberth?


Roedd hi'n braf cael y cyfle unwaith yn rhagor i ymweld ag eglwys Llangelynin, sydd uwchben y môr, islaw'r ffordd i gyfeiriad Dolgellau, wrth deithio o Donfanau.





Fe fuodd Marian yn darlithio i griw yng Nghaernarfon, a thra i fyny yno, fe fanteisiais ar y cyfle, ymhlith pethau eraill, i dynnu lluniau o gwmpas rhai llefydd hygyrch yn Eryri (doedd dim digon o amser i wneud llawer).

Nant Gwynant


Castell Dolbadarn


Roedd golwg trist iawn ar ardal Dinorwig.





Dyma i chi hen bentref chwarelyddol Deiniolen yn y pellter.


Fe ddaeth plwc o dynnu lluniau pobl, yn eu plith Dr Heather Williams o'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd yn Aberystwyth. Llongyfarchiadau mawr iddi hi am ennill gwobr M Wynn Thomas.


Pobl oedd canolbwynt fy sylw hefyd wrth iddynt wylio'r 'clip' neu'r diffyg ar yr haul o flaen Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth.





Siom oedd y llanw isel iawn yn y Borth. Roeddwn wedi gobeithio, a hithau'n braf, i gael golygfa dda o'r goedwig hynafol, ond erbyn hyn y mae'r tywod wedi cuddio'r rhan fwyaf o'r boncyffion unwaith yn rhagor.



Ar adeg gwahanol, roedd effaith golau'r haul ar y grisiau hyn yn hynod o hardd.


A dyma un o drigolion y pentref yn dal draenog y môr yn ei rwyd hir ar y traeth (mae hawl gan drigolion gael trwydded i osod rhwydi am ran o'r flwyddyn).




Wrth gwrs, roedd yn rhaid i mi gael fy nogn misol o awel y mynydd, ac fe fues i am dro cwpwl o weithiau i odre Pumlumon - a does dim amheuaeth bod hi'n "Wyllaidd' iawn yno yr adeg yma o'r flwyddyn.








Rwyf wedi hen ddysgu y dylid wastad cario camera 'sbar' ar unrhyw fath o daith ffotograffig - comisiwn neu llun ar hap. Roeddwn wedi ffansio prynu camera newydd, fel bod gen i ddau gyda sensor maint llawn (prin ydw i byth bellach yn defnyddio'r camerau gyda sensor "crop" - heblaw os oes angen tynnu lluniau â zoom reit hir). Felly gydag enillion y flwyddyn yn llosgi twll yn fy mhoced fe fues i draw am y diwrnod i'r Sioe Ffotograffiaeth yn yr NEC. A do, ymlwybrais adref ar y tren gyda Canon 1Dx dan fy nghesail, a hefyd pentwr o bapur argraffu hyfryd iawn, iawn gan Hahnemuhle.

Un o'r lluniau cyntaf i mi dynnu gyda'r camera newydd oedd hwn, sef ji-binc ym Mwlch Nant yr Arian.



A'r rhain o farcutiaid






Mae dipyn o waith dysgu gen i, ac arfer ar sut y mae ansawdd y lluniau yn amrywio rhwng yr hen gamera (5Diii) a'r un newydd. Tydyn nhw ddim yr un fath, ac rwyf eisoes wedi ffendio bod yr hen un yn well ar gyfer golau isel.

Fe fyddai'r un llun o hwn, dyweder (niwl o'r môr yn ymestyn yn gyflym ar hyd llawr gwlad, a Blaenplwyf yn y pellter), wedi bod yn un gwell efo'r hen gamera.



Yn ôl fy arfer bellach, dyma gloi efo dau fachlud a dynnwyd ger y traeth yn Clarach,





Diolch am ddarllen


Leave a comment

Your Name
Your Email
(Optional)
Your Comment
No info required here, please press the button below.