Mehefin '14

30th June 2014
Heblaw y pethau 'tymor hir' sydd gen i ar y gweill, chefais i ddim gwaith comisiwn yn ystod mis Mehefin. Digonedd o gostau, ond dim "gwaith talu". Tydi hyn ddim yn anarferol. Dw i'n tynnu 98% o luniau yn y gobaith y byddant o ddiddordeb i rywun rywbryd. Wedi tynnu'r lluniau a'u golygu, mae'r broses mwya diflas rioed yn dechrau - ceisio'u gwerthu!

Mae rhywun yn 'magu trwyn' am lun y bydd galw amdano. Dw i'n credu fy mod i'n un am synhwyro lluniau o'r fath oherwydd yn rhannol fy mod i wedi bod ar ochr arall y ffens - yn prynu delweddau gan ffotograffwyr, ac yn chwilio am luniau i olygyddion cylchgronau, llyfrau, rhaglenni teledu ac yn y blaen ers degawdau.

Yn ffodus iawn fe gefais archebion am nifer o brintiau - dwsin o luniau i gyd, ac fe achubodd hynny y sefyllfa ariannol am y mis! Hynny a gwaith ymchwil i gwmni teledu.

Tydw i ddim yr un gorau am ganu fy nghlodydd fy hun. Mae hyn yn siwr o fod yn wendid o ran y busnes gwerthu a thrwyddedu lluniau, ond fel yna y cefais fy magu, ac mae'n anhebyg y byddaf yn newid i fod yn hefrwr hunan-bwysig bellach. Rwy'n swil iawn hyd yn oed o gyhoeddi'r "blog" hwn, ond mae ochr arall i mi sydd wastad yn mentro ac yn wfftio'r llipryn sy'n byw tu mewn.

Canu o fath arall a gafwyd wrth iddi noswylio ar draeth Tanybwlch ar droad y mis.


Ac fe gafwyd lawer i noson hirfelyn - y Mehefin brafiaf ers blynyddoedd.

Tywydd perffaith ar gyfer y blodau gwylltion sy'n tyfu yn y gwrychoedd. Nid yw'r Cyngor wedi torri ochrau'r ffyrdd eto, sydd yn newydd da i blanhigion a phryfetach. Ond mae un peth yn hollol sicr, mae prinder mawr iawn o wenyn eleni. Dw i'n amau a ydw i wedi gweld hanner dwsin ar hyd y mis cyfan.

Llys y llwynog (Herb Robert)


Hyd yn oed ar ben Pendinas, er bod digonedd o bryfetach, ni welais yr un gwenynen.


Ac er i mi ymlwybro i'r top, drwy'r twnel tywyll


doedd y lluniau a gefais ddim yn fy mhlesio rhyw lawer. Roedd gormod o des, oedd yn golygu bod nifer o'r lluniau o'r dre yn edrych fel be baent yn ysgwyd. Ond y prif drafferth oedd bod llwch mân wedi llwyddo i fynd i mewn i'r camera a gorwedd ar sensor. Roedd rhaid felly golygu'r lluniau yn ofalus dros ben, er mwyn glanhau'r delweddau o frychau bach crwn.


Roeddwn wedi llwyddo i lanhau'r sensor (gyda chryn drafferth a rhywfaint o gost) erbyn fy mod yn pasio Nanteos

sydd erbyn heddiw wedi'i weddnewid yn westy moethus iawn.

Yn fuan wedyn, siwrna i'r gogledd,

heibio Rhyd-ddu i dalu teyrnged i fy hoff fardd,

ac yna rhagor o deithio, a galw ar y ffordd adref yn y Bala, gan ryfeddu bod Eisteddfod yr Urdd, fel petai, yn dal yn cydio yn y dre


Fe ddaeth galwad gan ffermwr lleol hynod garedig yn dweud y byddai mintai yn cneifio rhai cannoedd o ddefaid ar fferm fynydd ymhell i fyny tuag at Nant-y-moch. Ond pan ddaeth y dydd, fe fu glaw trwm eithriadol, a dim ond rhyw 200 a gneifiwyd, a hynny cyn i mi gyrraedd!


Trymaidd iawn oedd hi ym Mwlch Nant yr Arian y diwrnod canlynol, a serch bod hi'n haf, roedd y barcutiaid yno yn barod i gael eu te pnawn, a diddanu'r llu ymwelwyr efo'r campau yn yr awyr.


Erbyn i mi gyrraedd Penbryn ymhen diwrnod neu ddau, roedd hi'n hollol fendigedig, ac yno dim ond dyrnaid bach oedd yn cerdded y traeth godidog. Doeddwn i ddim ddigon digywilydd i dynnu llun y noethlymunwyr!


Rhaid oedd hefyd manteisio ar y tywydd clên i adnewyddu ambell i lun "stoc" o lefydd sydd wedi newid ers i mi gyflwyno lluniau ohonynt blwyddyn neu ddwy yn ôl. Un o'r llefydd hynny oedd Clwb Rygbi Llanbedr Pont Steffan.


Yn ôl i Aberystwyth eto, a wedi cinio 'ffarwel' i hen ffrindiau yng Ngwesty Cymru, cerdded y prom a chicio'r bar, roedd angen tynnu llun o'r criw. A thra oeddwn wrthi, dyma'r ferch brydferth hon yn cerdded heibio tuag ar y machlud. Wel, doeddwn i ddim yn rhy swil y tro hwn, ac fe gliciais! Fe wyddwn yr eiliad edrychais ar y llun ar sgrin y camera bod gen i ddelwedd arbennig.

Anfonais y llun at yr asiantaeth newyddion, ac ymhen dim, roedd ar wefan "lluniau'r dydd" y Telegraph a llefydd eraill, ac fe ymddangosodd yn Golwg yr wythnos ganlynol. Laura yw'r ferch, ac fe welwch chi hi ambell waith yn padlo'r bwrdd "SUP" gyda'r nos o gwmpas Bae.


Yn fuan wedyn fe fues i draw i Theatr Felinfach ar gyfer lansio cyfrol Aneurin Davies "Bywyd wrth ben-ôl buwch". Dyn AI (tawr potel) yw Aneurin, ac mae ganddo llu o storiau doniol am ei waith dros ardal eang o gefn gwlad Ceredigion. Cynigiodd Gwasg Gomer i mi dynnu lluniau ar gyfer clawr y llyfr, felly roeddwn yn hapus iawn i fynychu a thynnu lluniau o'r noson wych, fel bod cofnod ar gael i Aneurin ac i'r wasg.




Wn i ddim a ydw i wedi sôn, ond rwy'n un o griw o wirfoddolwyr Ambiwlans Awyr Cymru, ac roedd hi'n bleser derbyn siec o £1600 i'r elusen gan Sioe Aberystwyth. Ar ôl y cyflwyniad, roedd cyfle i mi grwydro a thynnu ambell i lun...

Dyma'r cownter salmone... y wyau

Y ceffylau bach a'r marchogion llai, a'r rhieni efo ci bach bach

a hen loris a tracsiwns a cheir a motobeics...


A nid yn unig y prynhawnau oedd yn braf, ond wele mis y machludoedd!






Daeth cynnig, diwrnod neu ddau cyn yr achlysur, i mi dynnu lluniau ar gyfer Ras yr Iaith. Sut allwn i wrthod y fath gynnig - helpu hen ffrind, crwydro'r sir, a mwynhau'r heulwen braf. Neu, 12 awr o rhuthr arteithiol, mewn gwres llethol, heb fwyd, o gwmpas ffyrdd gwledig. Dewiswch chi eich dehongliad.

Ond cyn hynny fe ddaeth galwad - cneifio yn Rhosgoch!. A dyma dreulio awr neu ddwy ddifyr yn tynnu lluniau pobl eraill yn gweithio'n eithriadol o galed yn y gwres,

a defaid yn sboncio.


Doeddwn i ddim yn teimlo fel codi efo'r ceiliog i fynd i ddechrau Ras yr Iaith ym Machynlleth, felly ymunais yn yr hwyl yn Aberystwyth

yna ymlaen i Tregaron

Llanbed

Aberaeron

Cei Newydd

Llandysul

dros y ffin i Sir Gaerfyrddin, a Chastellnewydd Emlyn

gan orffen yn Aberteifi


gyda chanu ac areithiau


Yna y diwrnod canlynol, cyn fy mod i wedi dod dros y daith (a dweud y lleiaf), roedd sioe hen foduron gan glwb raliio Aberystwyth


Wedyn (rwy'n dechrau teimlo'n chwil efo hyn i gyd), taith i lawr i Fae Caerdydd lle roedd Marian yn ymuno â chriw Geiriadur Prifysgol Cymru ar gyfer lansio eu geiriadur arlein. Ar y ffordd i lawr, roeddwn wedi addo tynnu lluniau o afon Tywi, a thŷ hynafol ar gyfer cylchgrawn. Felly cawsom amser bendigedig yn yr haul yn sir Gaerfyrddin

Wna i ddim enwi'r tŷ na'r cysylltiadau - fe gewch chi wybod hynny pan fydd y cylchgrawn wedi ymddangos ar y silffoedd gwerthu.

a Chastell Dryslwyn a chip o'r Tywi

A beth oedd ar yr 'answerphone" pan gyrhaeddon ni adref, ond gwahoddiad i dynnu lluniau'r cneifio fry ar y fferm fynyddig. Sut allwn i wrthod!




Fe ymddangosodd ychydig o luniau gen i mewn llyfrau, cylchgronau a gwefannau yn ddiweddar





Ymhlith y lluniau uchod mae'r reredos o Eglwys Llanfihangel-y-creuddyn i'w weld yn rhaglen Gŵyl Gregynog. Ewch am dro efo'ch llygoden draw i'w gwefan i weld beth mae criw bach bach ymroddedig yn gallu'i gyflawni o grombil cefn gwlad Cymru.
Ac i gloi mis bendigedig a phrysur ryfeddol, beth well na machlud yng Nghlarach.


Leave a comment

Your Name
Your Email
(Optional)
Your Comment
No info required here, please press the button below.