Mehefin 2015

29th June 2015
Roedd hi'n ddechrau Mehefin yn Aberystwyth, felly doedd dim syndod bod y mis wedi agor efo storm. Yn cuddio dan y don, os craffwch, fe welwch chi gar heddlu, oedd wedi mentro braidd yn rhy agos at y ddrycin!

Car heddlu yn y storm


Tydi tywydd garw ym Mis Mehefin, siawns, ddim yn mynd i barhau'n hir, a diolch fyth fe gododd hi'n braf mewn pryd i mi dynnu hwn, o Iard Gychod Leri (Ynyslas), ar gyfer 'llun y mis' i'r papur bro lleol - Y Tincer.

Roedd y cwch modur a welir yn cychwyn i lawr at yr aber, ymhen dim, yn rhuo i fyny ac i lawr aber afon Dyfi, yn tynnu rhywun (neu o leiaf roedd yn edrych felly o bell - maddeuwch os ydwyf yn anghywir), ar rhyw fath o deiar/tiwb teiar mawr, llawn gwynt. Rhai i mi gyfaddef mai fy ymateb i bryd hynny, ac wrth feddwl yn ôl yw - 'plis ewch i rywle arall i wneud pethau di-fudd, gwirion, sgrechlyd fel hyn - neu well fyth, peidiwch a'u gwneud o gwbl'. Roedd yr holl beth mor anghydnaws i ardal mor dawel, gyda'i system eco sydd mor frau, a chymaint o adar yn chwilio am fwyd ac yn nythu...

Iard Gychod Leri


Dipyn tawelach oedd yr olygfa ryw fin nos ar lwybr yr arfordir rhwng Clarach a Wallog. Dim ond sŵn y gwylanod a'r tonnau'n curo gwaelod y clogwyn oedd i'w glywed.

Cryndod pinc a Chlarach


Os ewch chi ar y ffordd fynyddig, cul a throellog (peidiwch â mentro os nad ydych yn gallu bacio car yn handi) i gyfeiriad 'Cwm Maethlon' fe welwch chi'r adfail hwn ar fin y ffordd. Dywedodd rhywun mai tŷ wedi'i losgi gan Feibion Glyndŵr ydyw - ond ydi hyn yn gywir? Gadwech nodyn ar waelod y llith hwn os ydych yn gwybod am ei hanes, os gwelwch yn dda.

Cwm Maethlon


Roedd hi'n chwilboeth erbyn i mi gyrraedd Tywyn, felly roedd y naws y tu mewn i'r eglwys yn fendithiol i'r corff a'r enaid, ac yn cynnig seibiant oer braf cyn parhau â'r siwrne.

Yn yr eglwys y mae un o'r 'arysgrifau' hynaf yn y Gymraeg, ar garreg fedd hir cul, tebyg i gilbost giat.

'Tengru, gwraig annwyl gyfreithlon Adgan. Erys poen [y golled].

Cin [Cun] gwraig Celen rhwng Budd a Marciau'

Eglwys Tywyn


Gan i mi fethu ffendio fy ffordd i ble bynnag oeddwn wedi lled-fwriadu cyrraedd, ymlaen â fi i gyfeiriad Craig yr Aderyn. Dyna ffordd gul arall!

Craig yr Aderyn


Mae'r graig yn boblogaidd gyda dringwyr, ond o 1 Ebrill tan 31 Gorffennaf, gwaherddir dringo ar y wyneb orllewinol, er mwyn rhoi chwarae teg i'r brain coesgoch sy'n nythu yno.

Rwy'n cymryd mai rhai o'r brain (swnllyd iawn) hynny, sydd yn y llun hwn.

Brain Coesgoch


Rhaid fy mod i wedi oedi gormod wrth waelod y graig, oherwydd wrth i mi nesau at Gastell y Bere, roedd cymylau duon iawn yn symud i mewn o gyfeiriad y môr.

Castell y Bere


Wedi teithio mor bell, fe fyddai'n wirion i beidio mynd cam bach ymhellach i ymweld ag eglwys Llanfihangel y Pennant.

Llanfihangel y Pennant


Arddangosfa Mari Jones - angen mymryn o TLC dwi'n meddwl.


Ymlaen yn y glaw mân wedyn heibio Abergynolwyn (bydd raid ymweld eto), a stopio i dynnu llun Tynycornel a Thalyllyn llonydd.

Talyllyn / Tynycornel


Yna gorfodi fy hun i oedi ger y Plas ym Machynlleth er mwyn tynnu llun cofeb Owain Glyndŵr. Rwy'n teimlo'n reit agos at yr hen Owain, rôl bod yn olrhain ei lwybrau olaf gyda'r Athro Gruffydd Aled Williams.

Owain Glyndŵr


Am ryw reswm mae Marian a finnau wedi ffeindio'n hunain yn Llanidloes o dro i dro yn ddiweddar. Wrth grwydro'r strydedd cefn (does dim llawer ohonynt!), sylwais ar y teras del iawn yma, efo'r enw sy'n disgrifio peth o hanes diwydiannol y dre.

Foundry Terrace


Haelioni teulu'r Defisiaid, Llandinam eto. Neuadd Bethel.


Ar y ffordd yn ôl, heibio Dylife, sylwais ar hwn, sef rhybudd o gais cynllunio am felin wynt ym Maesmedrisiol, Pennant. Gobeithio o waelod calon na fydd y felin yn amharu ar yr olygfa hon, sy'n arbennig iawn, iawn. Mae eisoes un melin mymryn i'r dde i'r llun. Fel arfer, rwy'n derbyn yn weddol ddi-amod yr angen i godi melinau gwynt (neu o leiaf yr angen i fuddsoddi lawer iawn mwy o arian yn y maes ynni adnewyddol), ond mae meddwl y gallai'r olygfa ddirywio (mae'n hynod iawn o ran daearyddiaeth) yn fy nhristhau.

Dylife - melin


Yn yr un modd, y mae crafu pethau hurt ar gofeb Wynford Vaughan Thomas (sy'n enwi'r bryniau a'r mynyddoedd y tu hwnt - enwau Cymraeg wrth gwrs) yn fy ngwylltio. Mae'r gofeb wastad wedi tynnu ati y math o bobl sy'n hoffi rhannu eu 'gweledigaeth' mewn geiriau a symbolau, crafiedig a phaentiedig. Am sbel hir roedd y geiriau 'Cwdyn taeog" wedi'i grafu yn ddwfn i dalcen yr hen Wynford, a hefyd sloganau mawr gwrth-Saeson wedi'i paentio gerllaw. Ond nawr pethau trist o dwp sydd i'w gweld. Er weithiau mae'r rhain yn dweud mwy am ein sefyllfa bresennol nag ydi graffiti gwleidyddol. Er enghraifft pobl yn cam-sillafu enw eu tref (Rhonnda, os dw i'n cofio), a hwn, sydd am wn i yn chwerthin am ben enwau Cymraeg ein mynyddoedd.

Graffito


Ta waeth am hynny, rhyw noson fe chwiliais am lun machlud 'gwahanol'. Ni chefais y llun oedd gen i yn fy meddwl (byddai'n rhaid i mi fod yn gawr 30 troedfedd o daldra i'w gael!), ond roedd hwn, y goedwig tylwyth-tegaidd yn gwneud y tro.

Machlud yn y goedwig


Cefais ddiwrnod o waith diddorol, eithriadol o hir, ac ar y daith i fyny i'r gogledd, dyma gipio'r olygfa sydd wedi fy nghyfareddu a'm dychryn ers i mi ddechrau teithio'r ffordd rhwng Môn ac Aber, nôl ar ddechrau'r 70au.

Trawsfynydd


Does gen i ddim cof o gwbl o dynnu'r llun hwn o'r Cnicht, ond mae'n rhaid fy mod wedi oedi ger Croesor wrth gymryd y ffordd "hamddenol" tuag at Lanberis

Cnicht


Lle braf yw Pen y Pass ar noson olau, ond leciwn i ddim bod yno yng nghanol stormydd y gaeaf.

Pen y Pass


Roeddwn wedi addo i ffrind y byddwn yn ceisio cael llun gwell o Lyn Padarn iddo, a diolch i'r drefn, cyn i'r haul fachlud yn llwyr, fe gefais y "shot" yr oeddwn wedi dychmygu ei gael.

Llyn Padarn


Llyn Padarn - fe aeth y print A3 o'r hwn i lawr yn dda iawn!


Mae enw da iawn i'r bwyty / caffi hwn ar y stryd fawr yn Llanberis. Y tro nesaf, efallai, y bydd gen i amser i brofi'r danteithion sydd ar gael (well i mi wisgo sbectol haul ;-).

Pete's Eats


A bydd yr olygfa gyfarwydd yma ddim i'w gweld rhagor, gan bod y gwasanaeth achub bywydau (RAF) wedi'i breifateiddio. Ffarwel hen hofrenyddion melyn. Fe dyfais i fyny ar eu llwybr i'r mynyddoedd, a droeon wrth hedfan heibio ein cartref yn Sir Fôn, fe fyddan nhw'n hedfan yn isel heibio'r tŷ acw, a'r dyn yn hongian-eistedd wrth y drws ochr yn bloeddio 'helo' ac yn codi'i law i'n cyfarch. Dyddiau da. Ar eu ffordd adref o fod yn chwilio am rhywbeth neu rywun ger droed yr Wyddfa oedd y criw yma, yn ôl eu golwg.

RAF


Wrth fynd o Lanberis tuag at Wrecsam (gyda 'detour' bach i dynnu lluniau 'cefn gwlad'), fe welais yr olygfa yma o wartheg yn cerdded yn hamddenol i'w godro.

Gwartheg godro


A wedi cyrraedd Wrecsam, dyma dynnu lluniau lu nad wyf yn gallu eu rhannu eto, ond mae nhw'n ymwneud â phethau fel y rhain.

Nionod


Mefus


Trip arall wedyn i lawr i Gaerdydd i 1) weld y pêl droed, a 2) prynu dillad newydd ac gyfer ein gwyliau.

Roedd y pêl-droed llawer mwy difyr na phrynu trowsus.

Pêl-droed - "CYMRU" a'r anthemau.


Pêl-droed2 Rhywun yn methu eistedd yn llonydd! Roedd fel gafr ar dranau.


Yna portread bach (rwyf wrth fy modd yn tynnu portreadau o unigolion) - ar gyfer y cylchgrawn 'Cristion' y tro hwn.

Lyn Lewis Dafis


Ar yr eiliad olaf aeth Marian a finnau am dro i weld y môr gyda'r nôs, a phenderfynu bod jest digon o amser i garlamu i fyny Pendinas i weld y machlud. Whew!

Roedd y fenyw yma eisoes ar y top efo'i phlant - wedi mynd a nhw er mwyn iddyn nhw weld eu 'machlud cyntaf' go iawn, dros y môr.

Selffi Machlud Pendinas


Ac un arall, o Eryri yn goch.
Machlud Pen Llŷn


Mae Deli Matt, sydd drws nesaf i siop y cigydd yn Bow Street, yn handi iawn ar gyfer prynu danteithio neu byrbryd amser cinio. Bwyd eithriadol o flasus a iachus (ond ddim yn rhad). Os byddwch ar daith rhwng de a gogledd rywbryd, galwch yno am damaid (lle bach iawn ydi o) - cewch chi ddim eich siomi. Yn dilyn sgwrs am wahanol fara, mynodd Matt fy mod i'n rhoi fy marn ar ei fara cartref. Wele y bara cynnes ffresh. O! am wledd syml ond blasus.

Tost


Roedd hi'n braf rhyw brynhawn, a dyma ddianc rhag yr holl waith oedd yn ein nychu, a mynd am dro i Dresaith, lle roeddwn wir angen tynnu llun newydd o'r rhaeadr sy'n disgyn i'r môr, ar ochr ogleddol y traeth.

Tresaith


Doedd Marian erioed wedi bod yn eglwys hynafol Penbryn, felly dyma oedi yno.

Eglwys Penbryn


Yno y mae'r awdures Allen Raine - Anne Adaliza Puddicombe - wedi'i chladdu. Agwedd drist wrth fynwenta yw gweld yr holl gerrig beddau - yr hynaf yn y Gymraeg, ac yn sydyn ar rhyw bwynt, y cerrig mwy diweddar i gyd yn troi i'r Saesneg.

Allen Raine


Rhwng Penbryn a Thresaith y mae hen garreg fedd arall, heb air o Gymraeg na Saesneg arni, ond yn hytrach arysgrif Lladin.

'CORBALENGI IACIT ORDOVS' [Yma y gorwedd Corbalengi yr Ordoficiad].

Bedd Rhufeinig


Gan feddwl cael tamaid i'w fwyta yn Llangrannog, dyma fentro tuag ar y pentref hardd, man geni a chladdu yr enwog 'Cranogwen'. Ond gwae ni, roedd y lle yn orlawn, a dim lle hwylus i adael y car.

Llangrannog


Felly ymlaen i Aberaeron wrth iddi nosi, a chael pryd braf yn yr Harbwrfeistr. Yna oedi i'r haul fachlud, a wir i chi, rwy'n meddwl ein bod ni wedi cael y fargen orau wrth yrru 'mlaen i'r dre fach brydferth honno.

Aberaeron - machlud


Tydw i'n fawr o un am ymgynnull gydag eraill - waeth i mi gyfaddef fy mod yn dipyn o 'loner' (dyna fues i rioed am wn i). Ond rhaid oedd mentro i agoriad arddangosfa arbennig iawn, iawn, gwaith oes Philip Jones Griffiths, yn y Llyfrgell Genedlaethol. A wedi cyrraedd, dyna braf oedd cwrdd â hen gyd-weithwyr a rhai ffotograffwyr yr oeddwn wedi ymwneud â nhw ers stalwm, megis Bernard Mitchell o Abertawe. Roedd fy ngyrfa ffotograffig fel petai wedi troi mewn cylch cyfan, oherwydd darllen llyfr "Vietnam Inc" (gan PJG) a'm denodd i gymryd diddordeb angerddol personol, ac yn ddiweddarach, proffesiynol, yn y maes. A phan oeddwn yn edrych ar ôl y casgliad ffotograffau yn y Gen yn y 90au, roedd yn uchelgais gen i i gael cynrychiolaeth o waith Philip Jones Griffiths i'r casgliad Fe fethais, ond mae'r rhai gwell a ddaeth ar fy ôl wedi cael y maen hwnnw i'r wal, diolch i'r drefn, ac i raddau mwy na fyddwn wedi gallu rhagweld bryd hynny.

Philip Jones Griffiths. Merched y ffotograffydd adeg lansio'r arddangosfa.


Ac ie wir, yn ôl fy arfer, fues i allan i dynnu llun machlud i gloi'r llith misol. Lle gwell na llwybr yr arfordir uwchben Clarach!

Machlud Clarach


Diolch am ddarllen.

Iestyn


Leave a comment

Your Name
Your Email
(Optional)
Your Comment
No info required here, please press the button below.