Mis Mai

31st May 2014
Mis Mai 2014

Am bob math o resymau does neb eisiau'u clywed, fe fu mis Mai yn fis Main o ran gwaith.

Fe gadwais yn brysur, yn bennaf yn tynnu lluniau lleol, gydag ychydig o ymchwil, a mwy o arddio nad oedd yn dda i fy nghymalau, a gafodd cryn siglad gan yr holl ymarfer corff anarferol. Ond am unwaith, ni fues i'n mynd ati rhyw lawer i chwilio am 'waith talu'.

Roeddwn wedi bod eisiau ymweld ag Ysbyty Cynfyn ers sbel. Roedd gen i awydd mynd yno a dilyn y llwybr reit i dop y bryn uchel iawn gerllaw, i weld yr olion hanesyddol sydd yno. Wedi cychwyn yno yn yr haul, fe gyrhaeddais yng nghanol cawodydd trymion iawn, a doedd hi ddim ffit i gerdded y llwybr egr iawn a llithrig i'r uchelfannau.

Ond mae glaw yn gallu creu sglein a naws, ac efallai bod mymryn o hynny i'w weld yn y lluniau o'r eglwys, sydd wedi'i hadeiladu ynteu yng nghanol cylch cerrig o'r oes a fu, neu yn fwy tebygol, gerbron maen hir, sydd i'w weld yn wal y fynwent.

Eglwys Ysbyty Cynfyn


Roedd y glaw yn sicr yn ychwanegu naws 'Gwyllaidd" at westy'r Hafod a'r blwch "AA" ym Mhontarfynch ar y ffordd yn ôl adref.





Roeddwn wedi addo i mi fy hun y byddwn i'n tynnu llun o'r gofeb anghydnaws, anferthol, sydd ar ben y bryn yn Betws Bledrws, a phan gychwynais ar fy siwrne, unwaith eto roedd y tywydd yn "berffaith". Ond fel sy'n digwydd rhan amla, erbyn cyrraedd roedd y sefyllfa wedi newid yn llwyr. Ond fe gefais lun o fath, er nid yr un yr oeddwn wedi gobeithio amdano. Tri chynnig i Gymro, efallai, a byddaf yn cael un gwerth chweil y tro nesa!



Siwrne dipyn pellach a gafwyd i'r Fedwen Lyfrau yn Nant Gwrtheyrn, ac unwaith yn rhagor, doedd y tywydd ddim yn garedig i dynnwr lluniau.

Doedd fawr o ysbrydoliaeth i'w ganfod wrth gerdded y traeth


ond roedd y Nant ei hun yn reit ddeniadol


a thu mewn yr oedd digon i'w weld ac i'w wneud. Dyma Llŷr Gwyn Lewis yn lansio ei gyfrol o gerddi


a dyma Alwyn Elis yn trafod ei yrfa wrth iddo dderbyn gwobr "oes" gan Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru.


Fe fyddwn i wedi hoffi mynd i Ŵyl y Gelli ac efallai Eisteddfod yr Urdd i dynnu lluniau, ond doedd neb wedi gofyn i mi fynd, a finnau'n teimlo'n ddi-hwb, a chymaint o ôl-groniad o bethau ymarferol bob dydd i'w gwneud, wnes i ddim mentro. Rwy'n gwybod y byddaf yn difaru!

Ymhlith y 'pethau ymarferol' hyn roedd cynhyrchu printiau ar gyfer rhoddion a gwobrau. Gan ddefnyddio 'bod rhaid mynd i'r dre i weld os ydi'r fframiau yn barod' fel esgys i beidio gwneud gwaith tŷ, fe ddigwyddais weld cynnwrf ger y "town clock". Rhuthr wedyn i nôl y camera o'r car (oedd yn bell i ffwrdd) er mwyn tynnu lluniau gorymdaith criw yn protestio am yr helynt cipio merched yn Nigeria.

Merched yn eu harddegau yn arwain yr orymdaith o'r cloc, heibio'r castell ac yna ar hyd y Prom.



Rhai dyddiau yn ddiweddarach - y brotest yn parhau mewn dull gwahanol, yn adleisio'r cyfnod pan addurnwyd rheiliau'r Prom gyda rhubanau er cof a gobaith am April Jones.



Roedd y "wobr" (raffl)yn brint bach A4 o'r llun isod ar gyfer cyfarfod blynyddol Merched y Wawr, Rhydypennau. Cefais wahoddiad i sôn am fy 'mlwyddyn mewn lluniau' (sgwrs ddifyr i unrhyw gangen yng ngogledd Ceredigion, gyda llaw, hint, hint!). Llun a dynnwyd yn ystod haf 2013 ydyw, o Aberystwyth. Llun a gymerodd oriau os nad dyddiau i'w gael yn iawn o fy nghaiac allan yn y bae!


Tywydd llawer brafiach a gafwyd gyda'r nos dros Fae Ceredigion yn hwyrach ymlaen yn y mis. Dyma lun (a ymddangosodd ar wefan y Daily Mail, meddai nhw) - hwylio ger harbwr Aberystwyth. Fy mwriad oedd ceisio cael llun o weddillion y cwch modur a aeth ar dân ger Creigiau'r Castell, ond dyma'r olygfa a aeth a'm bryd.


Lle handi ydi Prom Aberystwyth i gynnal pob math o weithgareddau, a dyma i chi'r digwyddiad gwych 'Race for Life'. Doeddwn i ddim ar gael i fynd i weld cychwyn y ras, ond llwyddais i gyrraedd wrth i'r rhedwyr olaf (ar faglau) orffen!


A dyma chi gymeriadau hoffus yn dathlu


Rhaid oedd manteisio ar ddiwrnod neu ddau o dywydd heulog i ail ymweld â rhai mannau ar arfordir de y sir.

Tresaith, yn aros yn amyneddgar a doniol-ddwyieithog i'r tymor ymwelwyr ddechrau o ddifrif


A'r pentref bach fel ag y mae'n ymddangos o'ch blaen wrth gerdded Llywbr Arfordir Ceredigion



Ymhellach i'r gogledd, dyma eglwys Penbryn, y tu mewn i gylch crwn o waliau, sy'n awgrymu mai eglwys geltaidd cynnar a gafwyd yma yn wreiddiol


Ymhellach eto i'r gogledd, a wele'r perl mwya adnabyddus i'r Cymry Cymraeg, Llangrannog




Yna draw i Gwntydu, lle roedd y spangi hwn wrth ei fodd yn prancio yn Afon Ffynnon Ddewi


A'r olygfa enwog, eang, anhygoel o hardd, o'r gilfan rhwng Aberaeron a Llan-non


Bum hefyd yn chwilio am luniau ar thema'r Rhyfel Mawr ar gyfer cyfaill

dyma ran o gofeb trawiadol Aberystwyth


a rhywbeth anarferol iawn, sef cefn allor o dderw, wedi'i gerfio gan ffoadur o Wlad Belg, ar gyfer eglwys Llanfihangel-y-creuddyn


Mae'n debyg y dylwn i gofio bod yna lecsiwn wedi bod - i ethol cynrychiolwyr i Senedd Ewrop. Roedd y canlyniadau braidd yn ddiflas (dros Brydain) felly dyma'r llun sy'n cydweddu â fy nheimladau am yr holl siabang.


Ond fe ddaeth eto haul ar fryn, ac o! am haul braf

i ôl-oleuo Clustog Fair ar lwybr yr arfordir ger Clarach


i greu 'amlinell lom y moelni maith' ar draws Bae Ceredigion


Er fy mod i wedi cael llond bol ar glywed am "Faton y Frenhines" yn ymlwybro yn heipllyd ar hyd Cymru, roedd rhaid ymdrechu i ddogfennu'r digwyddiad yn y dre.

Dyma'r llun gorau, efallai, sef dosbarthu'r baneri bach i'r plant oedd yn cymryd rhan.


Taw piau hi am y gweddill.

Iestyn


Leave a comment

Your Name
Your Email
(Optional)
Your Comment
No info required here, please press the button below.