Newyddion . News

Melinau gwlân Cymru / Woollen Mills of Wales
01st March 2017 - 0 comments


[Please scroll down for English synopsis]

Mae hi'n Ddydd Gŵyl Dewi, gyda'r haul yn disgleirio, yr awyr yn las, ac mae'r gyfrol Melinau Gwlân Cymru, wedi glanio acw. Mae'n argoeli i fod yn ddiwrnod da.

Rwyf wedi bod yn edrych ymlaen at allu ysgrifennu pwt am y prosiect y bues i'n cyfrannu ato ddiwedd y llynedd, sef tynnu'r lluniau ar gyfer y gyfrol. Awdur Melinau Gwlân Cymru / Woollen Mills of Wales yw Branwen Davies, sydd, fel mae'n digwydd, hefyd newydd gyhoeddi nofel i blant, Seren y Dyffryn - menyw brysur iawn!

Ond llafur cariad pur wahanol i ysgrifennu nofel i blant oedd ei gwaith ar y 'Melinau'. Mae'r gyfrol hon wedi'i llunio i dalu teyrnged i ddiwydiant a fu mor bwysig i Gymru dros ganrifoedd, ac a chwaraeodd ran hollbwysig yn ei hardal enedigol, ac i'w theulu.

Mae Branwen yn ymweld â dwsin o felinau gwlân sy'n dal wrthi, neu'n ailafael mewn cynhyrchu deunydd o wlân, i'w droi'n bob math o nwyddau hardd a hirhoedlog. Dyma sydd ar ôl o'r diwydiant oedd unwaith yn hollbresennol yng Nghymru. Y rhain yw'n busnesau gwydn, sydd wedi dal eu gafael, gan lwyddo i ddatblygu eu crefft drwy amseroedd blin iawn i'r diwydiant.

Mae'r gyfrol hon yn ddarlun amserol o gyflwr y diwydiant heddiw, ac yn agoriad llygad diddorol o ran y gelfyddyd, y grefft, y dyfeisgarwch, a'r ymlyniad at werthoedd craidd, sy'n gyrru'r busnesau unigryw hyn.

Fy rhan i yn y prosiect oedd ceisio dal, mewn cyfres o luniau, naws y melinau, a rhywbeth o gymeriad eu perchnogion a'u crefftwyr.

Mae fy nyled yn fawr nid yn unig i Wasg Gomer am roi'r cyfle i mi, ond hefyd i'r perchnogion ac i weithwyr yr holl felinau am eu parodrwydd i adael hen ddyn dieithr i mewn i'w libart, ac am eu hynawsedd wrth i mi anelu fy lens i bob twll a chornel.

Mewn cyfnod cymharol fyr fe ddeuthum i adnabod rhywbeth o gymeriad y gwehyddion ac er eu bod yn unigolion â phob un efo'i weledigaeth unigryw ei hun, roedd sawl rhinwedd yn gyffredin i bawb - cryfder cymeriad ac ymrwymiad dwfn i grefft a thraddodiad.

Mae'r rhod yn troi, ac erbyn hyn y mae galw cynyddol am gynnyrch unigryw melinau bach y wlad. Wedi gweld y gwaith anhygoel o galed, heb sôn am y cariad at y gwaith sy'n mynd i mewn i'r cynnyrch, fe fydda i'n sicr yn prynu o'r melinau hyn. Yn wir, fe brynais sgarffiau a charthenni fel anrhegion Nadolig, gan wybod fy mod yn gwneud cyfraniad bach i gadw hen draddodiad Cymreig yn fyw. Fe fydd y pethau hyn yn parhau yn hirach na fi, siŵr o fod, cystal yw eu hansawdd. Mae mwy i 'brynu'n lleol' na phicio i siop cigydd y pentref, neu brynu iogwrt a chaws o fferm i lawr y lôn. Mae hefyd gynnyrch gwlân y defaid mân (a rhai creaduriaid mwy egsotig!) i'w ganfod reit o dan ein trwynau.

Mae'r gyfrol ar gael o'ch siop lyfrau leol, neu i'w harchebu dros y we gan Wasg Gomer a'r Cyngor Llyfrau, pris £14.99


Man cychwyn da i'r daith i ddod i ddysgu mwy am y diwydiant - yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol, Dre-fach Felindre. Mynnwch gopi o'r gyfrol i ddilyn y llwybr cyfan.

A good place to begin a journey of discovery into the past and present of the woollen industry in Wales. The National Woollen Museum at Dre-fach Felindre. Grab a copy of the book to see where the journey leads




Today, St David's Day, marks the launch of Woollen Mills of Wales by Branwen Davies. The book describes the state of play in the industry as it is today, with details of a dozen mills which are working daily, or which provide an insight into the past, or which are in the process of re-launching themselves into an envigorated market.

My part in the project was to try to capture in pictures the essence of the mills, their character and the energy which goes into the craft. I'm very grateful, not only to Gwasg Gomer for the opportunity, but to all the owners and staff at the mills, all of whom kindly allowed me free rein to poke my lenses into all corners.

The amount of work, skill and craft that goes into making their products was a real eye-opener, and I'm now hooked on wool, or more precisely, Welsh wool - that connecting fibre which runs through so much of our history, but which is still relevant to our present, and hopefully our future.

Huge congratulations to the author, Branwen Davies, for her foresight and for burning the midnight oil to make this book happen, and to the editorial staff at Gwasg Gomer for pulling all the threads together so professionally.

Copies are available from your local bookshop, or can be ordered from the publisher, Gwasg Gomer, or from Gwales.

Diolch am ddarllen. Thanks for reading.

Iestyn
Ionawr 2017 January
03rd February 2017 - 0 comments
[Scroll down for the English version]
Ychydig iawn o ddefnydd a gafodd yr hen gamera yn ystod mis Ionawr, heblaw am orffen tynnu lluniau ar gyfer y gyfrol hon - Melinau Gwlân Cymru gan Branwen Davies, a fydd allan yn reit fuan.

Roedd y cyfan o'r ymweliadau - i ryw ddwsin o felinau - yn addysg ac yn bleser - ac yn her. Fe soniaf ragor am y prosiect, siwr o fod, ar ôl i'r gyfrol weld golau dydd.

Daliwyd ambell i fachlud gan y lens,

Aberystwyth


Y Borth


Drudwy yn clwydo - Pier Aberystwyth - Starlings at Aberystwyth


ac ambell i dirlun hefyd, a rhoddwyd un sgwrs am 'Tywydd Mawr'. Ond mis i ffarwelio rhywun annwyl, o edrych yn ôl a chofio, a bod yn ddiolchgar oedd yr Ionawr hwn.

___

With the exception of finishing off the 'woollen mills project' (look out for this book by Branwen Davies - coming soon) and taking a few nice sunsets, January was relatively camera-free.

The project, involving visiting and documenting some twelve mills, was a very interesting and rewarding experience. I'll hopefully write a little about it once the book is out in the shops.

Most of the month was however a time of reflection and ultimately of bidding farewell to a loved one.

Diolch am ddarllen / thanks for reading.
Ymlaen 2017 Onwards!
07th January 2017 - 0 comments
Blwyddyn Newydd Dda!

Addunedau 2017 (ahem!)

1. Newid y car (tic)
2. Cymryd gwyliau ym mis Ionawr (Hmmmm)
3. Llai o ymchwil lluniau - (cawn weld)
4. Creu a chyflawni un prosiect (cyhoeddi) erbyn Mawrth 2018 (hwrê/arggghh)
5. Codi prisiau oherwydd y cynnydd ofnadwy sydd wedi bod mewn costau (mae'n wir ddrwg gen i - dyma'r cynnydd cyntaf gen i ers 5 mlynedd - does dim dewis - e.e. meddyliwch bod disl 22 ceiniog y litr yn fwy nag oedd o y llynedd)


Happy New Year!

Resolutions for 2017

1. Change car (tick)
2. Take a break in January (Hmmm)
3. Less picture research (we'll see)
4. Create and deliver one publishing project by March 2018 (hooray!/argggh!)
5. Raise my rate. So sorry - but I've held prices for 5 years while costs have risen a great deal e.g. only 12 months ago fuel was 99p, now it's £1.22.

Iestyn
Bye 2016
31st December 2016 - 0 comments
Bidding farewell to 2016 with a glance back at some of the good bits of the year.

It was an exceptionally busy period, as I strove to complete two books - Ceredigion at my feet (Gwasg Gomer) and Tywydd Mawr - extreme weather in Wales (y Lolfa).

So here's a little pictorial roundup of my year that was.

January

Diesel for less than a quid!! (118-119 today).


It was a year of worry for forest lovers in this area as thousands of trees were felled in an attempt ot contain disease. Here's a nice view near Bwlch Nantyrarian.


February

Aberystwyth welcomed several refugees from war-torn areas of the world. Some of them, together with their support, attended an event at the Garn Chapel to raise awareness and funds to help refugees.


Meanwhile on Aberystwyth promenade...


I was really happy with this installation - part of the 'more than a building' exhibition at the Morlan Centre. It was created to help people contemplate the place of religious buildings in an age of social media.


March

St David's Day parade, Aberystwyth...




... and the publication of 'Ceredigion at my feet' by Gwasg Gomer.


It was during March that I took this very popular picture of Aber and the Old College at sunset.


April

Assembly election time! Local AM Elin Jones strides through our estate.


.. and snow on Snowdon


... and a really interesting job documenting an international conference on translating literature.






May

The start of a project documenting organic farms.




and a cover picture 'Llangrannog a fi' by Steff Jenkins


... St David's Cathedral


June

Football!

Bordeaux






Another cover shot - Gareth Lewis' autobiography


July

End of the dream in Lyon


Weather watching in Pembrokeshire




August

The National Eisteddfod at Abergavenny


While back at the ranch...


September

Sunsets. Lots of lovely sunsets.


October

The Weeping Window at Caernarfon Castle




November

The start of a big project on woollen mills


More bad weather - guess where...


Another cover- Dai Jones Llanilar - his autobiography





December

My second book of the year is published! - Tywydd Mawr by y Lolfa



I wonder what 2017 will bring?

One part of me wants a break from substantial projects, while another can't sit still...

Let's just hope for a better world, better politics and an end to the bitterness and hate that is currently defiling so much that was good in our lives.

Thanks for following, and I wish you a Happy New Year.
Ffarwel 2016
31st December 2016 - 0 comments
Wrth ffarwelio â 2016, dyma gyfle i edrych yn ôl dros y flwyddyn a fu o ran fy 'ngwaith' - yr ymchwil, ysgrifennu a thynnu lluniau.

Roedd hi'n flwyddyn eithriadol o brysur, gan i mi orffen paratoi dau lyfr oedd wedi golygu gwaith sylweddol - Ceredigion wrth fy nhraed (Gwasg Gomer), a 'Tywydd mawr mewn lluniau' (y Lolfa).

Felly dyma geisio crynhoi'r flwyddyn mewn ychydig o luniau...

Mis Ionawr

Dîsl yn llai na phunt y litr!! (118-119 heddiw).


Yn yr ardal hon yng Ngheredigion, bu'n flwyddyn o ofid i goedwigwyr, wrth i ddegau o filoedd o goed gael eu torri i lawr i geisio atal haint. Dyma goed ger Bwlch Nantyrarian.


Mis Chwefror

Coesawodd tref fach Aberystwyth nifer o ffoaduriaid ar ddechrau'r flwyddyn - plant a phobl ifanc yn dianc o storom ryfel yn eu plith. Dyma rai ohonynt gyda'u hebryngwraig mewn cyfarfod i'w croesawu yng Ngapel y Garn, Bow Street.


Storm pur wahanol sy'n ymweld ag Aberystwyth wrth gwrs.


Dyma lun gen i mewn arddangosfa yn y Morlan - 'mwy nag adeilad' - sef myfyrdod weledol ar arwyddocâd adeiladau crefyddol yn oes y cyfryngau cymdeithasol.


Mis Mawrth

Mawrth y cyntaf, Parêd Aberystwyth...




... a chyhoeddi 'Ceredigion - wrth fy nhraed - llafur cariad a gyhoeddwyd gan Gwasg Gomer.


Ym mis Mawrth y tynnais y llun rhyfeddol o boblogaidd hwn, o Aber a'r Hen Goleg, wrth i'r haul fachlud


Mis Ebrill

Mis canfasio ar gyfer etholiad y Cynulliad!


.. ac eira ar yr Wyddfa...


... a job ddiddorol yn dogfennu cynhadledd ryngwladol ar gyfieithu llenyddiaeth






Mis Mai

Dyma ddechrau ar brosiect ar ffermydd organig




a thynnu llun clawr llyfr Steff Jenkins


... Eglwys Gadeiriol Tyddewi


Mis Mehefin

Yr Ewros!

Bordeaux






A llun clawr arall - hunangofiant Gareth Lewis


Mis Gorffennaf

Diwedd taith yr Ewros yn Lyon


Rhagor o waith yn dilyn y tywydd yn Sir Benfro




Mis Awst

Yr Eisteddfod Genedlaethol


Tra yn ôl yn Aberystwyth...


Mis Medi

Mis machludoedd


Mis Hydref

Y wal wylofain yng Nghaernarfon




Mis Tachwedd

Prosiect mawr ar Felinau gwlân yn dechrau


A rhagor o dywydd gwael yn... dyfalwch lle


A chlawr arall - hunangofiant yr hynaws Dai Jones Llanilar





Rhagfyr

Cyhoeddi ail lyfr y flwyddyn! - Tywydd Mawr gan y Lolfa



Ys gwn i beth a ddaw yn 2017?

Ar un llaw fe fyddai'n braf cael hoe o brosiectau cyhoeddi sylweddol am ychydig, a cheisio cael rhywfaint o wyliau! Ar y llaw arall...

Diolch o galon am ddilyn y 'blog' hwn - Pob hwyl i chi - a Blwyddyn Newydd Dda!
Nadolig Llawen - Happy Christmas
20th December 2016 - 0 comments
Cyfarchion y Tymor, a diolch am alw heibio.
Season's Greetings, and thanks for calling by.

Tywydd
05th December 2016 - 0 comments
Ongoing construction... links related to 'Tywydd Mawr - extreme weather in Wales' - an illustrated history of bad weather in Wales (Welsh text, and bilingual English/Welsh captions)

Tudalen sy'n cyfeirio at wybodaeth am y tywydd - cysylltiedig â 'Tywydd Mawr' - cyfrol am hanes tywydd garw yng Nghymru. Rhagor i ddod yn fuan.



Hinsawdd hanesyddol: potensial ffynonellau dogfennol Cymru. (Gwerddon - pdf)

Weather timeline / Cronoleg y tywydd (Saesneg)

Coelion tywydd [weather beliefs - Welsh]

Wales climate / hinsawdd Cymru (Saesneg/English)

Hanes gaeafau ym Mhrydain (Saesneg)
History of British winters


Eira Ddoe / Snows of yesteryear

1913 tornado / Corwynt 1913 (Saesneg - English)

Newsreel (BFI) Corwynt 1913 Cyclone

Lluniau Amgueddfa Genedlaethol - Mational Museum photos

Newsreel - Aberystwyth, Ynyslas, Cricieth 1938 (storm)

Gaumont Newsreel Amroth 1939 (storm)

Llongddrylliadau Pen Llŷn - Llŷn Peninsula storms and shipwrecks


Nottingham University weather blog - Blog tywydd Prifysgol Nottingham (Saesneg - English)

Weather Online

Lost Islands, climate change / Colli ynysoedd i neid hinsawdd (Solomon Isl)

British winter snowfall events / Eira ym Mhrydain (Saesneg - English)


Glasdir Flooding Report (pdf) / Adroddiad ar lifogydd y Glasdir (Saesneg)


2014 storms (Met Office) / Stormydd 2014 (Swyddfa Dywydd)


Remembering Dolgarrog / Cofio Dolgarrog (BBC)


1816 the year without a summer / 1816 y flwyddyn heb haf

Shipwrecks of West Wales / Llongddrylliadau gorllewin Cymru (Saesneg - English)

Lost places of Wales / Llefydd coll Cymru (Walesonline)

Historic sites at risk / safleoedd hanesyddol dan fygythiad (Guardian)

1859 Gale / storm 1859 (Royal Charter) Swyddfa Dywydd/Met Office

10 worst British winters ever / Gaeafau gwaethaf Prydain (Independent)

History of climate science / Hanes gwyddor newid hinsawdd (Saesneg)


Coast of Wales / Arfordir Cymru (Saesneg - English)


Bwletinau Llên Natur (Cymraeg - Welsh)

Cyfoeth Naturiol Cymru - newid hinsawdd


Natural Resources Wales - climate change


Almanacau Cymreig (Llyfrgell Genedlaethol) / NLW Welsh almanacs

Nantgwyllt (Shelley): (Saesneg - English)

2007 Flooding appraisal England and Wales (pdf)

Geological timescales / Amserau'r ddaear (Wikipedia)

Dyddiaduron William Bulkeley / William Bulkeley Diaries

1607 flood / Llif 1607 (popular / ymdriniaeth ysgafn)

Baledi Cymru arlein

Welsh ballads online

Cân Billy the seal / song - Frank Hennessy (youtube)

Dywediadau, Rhigymau a Choelion



Tro drwy'r tymhorau

Tywydd Mawr - Extreme weather in Wales
01st December 2016 - 0 comments
Mae 'Tywydd Mawr' ar ei ffordd i'r siopau.

Fe fyddaf yn arwyddo'r gyfrol yn y llefyd canlynol:

Rhagfyr
7ed Awen Teifi, Aberteifi am hanner dydd
8ed Ffair Nadolig y Llyfrgell Genedlaethol 5 tan 7 yr hwyr
9ed Siop y Pentan, Caerfyrddin, 11 y bore
10ed Siop Inc, Aberystwyth, 11.30 y bore
10ed Siop y Pethe, Aberystwyth, 1.30 p.m.
17eg Siop Bodlon, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd 11 y bore

Edrych ymlaen at eich cyfarfod!



'Tywydd Mawr' - Extreme Weather in Wales - with bilingual captions, is ambling its way to the shops.

I'll be signing copies at the following locations

December
7th Awen Teifi, Cardigan, midday
8th National Library of Wales Christmas Fair, from 5 to 7 p.m.
9th Siop y Pentan, Carmarthen, 11 a.m.
10th Siop Inc, Aberystwyth, 11.30 a.m.
10th Siop y Pethe, Aberystwyth, 1.30 p.m.
17th Bodlon, The Old Library, Cardiff, 11 a.m.

I hope to see you!
Tywydd Mawr - Extreme weather in Wales
30th November 2016 - 0 comments
Mae 'Tywydd Mawr' ar ei ffordd i'r siopau.

Fe fyddaf yn arwyddo'r gyfrol yn y llefyd canlynol:

Rhagfyr
7ed Awen Teifi, Aberteifi am hanner dydd
8ed Ffair Nadolig y Llyfrgell Genedlaethol 5 tan 7 yr hwyr
9ed Siop y Pentan, Caerfyrddin, 11 y bore
10ed Siop Inc, Aberystwyth, 11.30 y bore
10ed Siop y Pethe, Aberystwyth, 1.30 p.m.
17eg Siop Bodlon, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd 11 y bore

Edrych ymlaen at eich cyfarfod!



'Tywydd Mawr' - Extreme Weather in Wales - with bilingual captions, is ambling its way to the shops.

I'll be signing copies at the following locations

December
7th Awen Teifi, Cardigan, midday
8th National Library of Wales Christmas Fair, from 5 to 7 p.m.
9th Siop y Pentan, Carmarthen, 11 a.m.
10th Siop Inc, Aberystwyth, 11.30 a.m.
10th Siop y Pethe, Aberystwyth, 1.30 p.m.
17th Bodlon, The Old Library, Cardiff, 11 a.m.

I hope to see you!
Edrych ymlaen - looking forward
20th November 2016 - 0 comments


[Scroll down for English]
Gair bach, yn dilyn cyfnod o ddistawrwydd - i ddweud fy mod i yma o hyd!

Rwyf wedi cadw'n brysur ers y blogiad diwethaf yn ysgrifennu ac adolygu. Nawr rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld y llyfr 'Tywydd Mawr mewn lluniau', a gyhoeddir gan y Lolfa, yn cyrraedd y siopau. Hanes rhywfaint o dywydd gwael Cymru a geir rhwng y cloriau, wedi'i adrodd trwy gyfrwng dros gant a hanner o luniau. Daw'r rheini o nifer o lyfrgelloedd ac archifau, gan unigolion, ffotograffwyr ac artistiaid, ac ambell i un gen i.

Roedd paratoi'r gyfrol yn golygu nad oedd gen i amser i dynnu llawer o luniau newydd yn ystod y flwyddyn, ac yn sicr ddim ers yr Eisteddfod. Eithriad i hynny oedd lluniau ar gyfer cloriau hunangofiannau Gareth Lewis

a Dai Jones Llanilar.


Ers rhyw fis rwyf hefyd wedi bod wrthi'n gweithio'n galed iawn ar brosiect diddorol iawn. Fe fydd hwnnw'n dod i ben cyn y Nadolig, ac fe soniaf fwy yn y flwyddyn newydd, os caf fyw ac iach.

_________

Despite the recent silence, I'm still here!

It's been quite hectic since the Eisteddfod, hence the lack of new photographs - though I have taken a couple of cover pictures recently.

Very shortly 'Tywydd Mawr mewn lluniau' (Extreme weather in Wales - in pictures) will reach the bookshops. The volume, published by y Lolfa, tells some of the history of our wild Welsh weather through the medium of over 150 photographs and pictures - which are presented with bilingual captions. So hopefully those who aren't fluent in the language of heaven, will be able to appreciate the images.

In addition to finishing-off the book I've been, and still am, working on producing pictures for another book project. It's rather too soon to go into any details. I'm sorry to be so woolly about it. I'll update the blog early next year, if all goes well.

Diolch am ddarllen / Thanks for reading

Iestyn
Medi - Hydref 16
17th October 2016 - 0 comments


Does yna fawr o dynnu lluniau wedi bod yn ddiweddar.

Fe fues i'n canolbwyntio ar orffen 'Tywydd Mawr' erbyn diwedd mis Medi.


Fe fydd y llyfr ar y silffoedd cyn y Nadolig - gobeithio!

Rhwng hynny a chynnal nifer o sgyrsiau i gymdeithasau, beirniadu mewn sioeau lleol, a cheisio delio ag ôl-groniad gweinyddol, doedd dim amser, awydd na fawr o bwrpas i grwydro efo camera!

Ond dyma rai lluniau o ddiwedd mis Awst i ganol fis Hydref.


-----

There's not much to say regarding September / October. I worked hard to finish 'Tywydd Mawr' (see above), a book on weather events in Wales, which should be on the shelves by Christmas. Then there were talks to local societies, judging photography at local shows and so forth.

However, I hardly ever leave the house without a camera of some sort - spot the iPhone pictures in this set!

Plymiwr - diver - y Borth


Gŵyl Môr - Aberystwyth - Sea Festival


Sioeau - Llangeitho / Phenrhyn-coch shows












Sioe Rhydypennau


Ongl wahanol ar bentref Bow Street. A 'different' angle on Bow Street


Machlud - yr olygfa tua'r gogledd - sunset looking north


Storm


Swper Cynhaeaf - Harvest Supper at Llandre


Billy'r morlo yng Nghaerdydd - Billy the Seal (Cardiff)


Cwch yn y Bae - yacht in the Bay


Llwybr yr arfordir - Coast Path at Wallog


Machlud dros y dre - sunset over Aberystwyth


Cofeb i David England - memorial tree for the late David England, Llandre


Pêl-droed Cymru 1 - 1 Georgia - World Cup qualifiers at Cardiff


Capel - Rug - chapel


Hen gapel - an old chapel at llangorwen


Llan-non


Pen Dam


Cwmsymlog


Taith tractorau i godi arian - charity tractor run


Y diweddglo arferol - And the usual tailpiece
Machlud - sunset from our house
July-August 16
10th August 2016 - 0 comments
July-August 2016

Here I am on platform One, Borth station. There is only one platform, so I expect that the old sign is a bit of fun. If the train goes right, it's for Aberystwyth. To the left, then Machynlleth and beyond, here I come, heading for Paris.



An age of queues later, the shock of sunshine, and a hat still at home in dreary Ceredigion.

No hat, no shade.


Paris = strikes, and so it was that I had to walk a long hot way to my petite hotel room in Bercy, which was just a few hundred yards from Bercy Village and the restaurants and twee shops.

If I hadn't been so tired I would have visited the BnF, an old haunt of sorts, where unbelievably, in a dimly remembered life, I once presented a multi-media paper to an international conference. Now it's come to this!

BnF


There's a clue to my present visit in the morning paper.



Failing to get a direct return ticket from the UK to Lyon, I opted for a flight to Paris, travelling between the capital and Lyon by train.

A couple of hours out of Gare de Lyon, via beautiful views (and only one small wind farm - so different to Wales) and I arrive in the comparative furnace of Lyon.

Metro, funicular, a steep walk and I arrive at the hastily booked 'last room available in the universe' hotel. Or is it a cathedral? Or perhaps it's a mirage.



A stroll back to the church that overlooks the city to find a cheap sandwich and hopefully a hat. I found both, so didn't have to eat the hat, or rather cap, which has 'Lyon' stitched along the rim. I'm very taken with this new cap.

The panorama as seen from the cathedral.



JPii looks upon us all.



A small crew from Llanfaircaereinion wave the flag, and are inundated with requests for a photo. Everyone wants to be Welsh on this day. Someone tries to explain to a Japanese tourist how to visit the gang's website. Their approach eventually is to repeat the incomprehensible instructions very slowly and quite loudly. 'LLANFAIR-WITH-A-LION-ON-THE-END'. I tried the address: it didn't work.



Down the hill the city centre streets are ribbons of red, as Wales and Portugal supporters sing and dance and drink their dream. A police van pushes forward through a big group of Welsh and Portuguese who are dancing and singing together, totally blocking the road. Blotto to any differences, bound by happiness and released by beer. In the main group of reds, an over exuberant fan, unaware of his own physical frailties, performs a striptease, all the way down to where, from the lighter shade of pale made visible, the sun aint ever shone. An embarrassed young lady remonstrates, and within a second he's sober, hobbling from foot to foot trying to get his legs through his Y-fronts.

"Don't take me home" wherever that might be.





Lyon stadium, complete with, erm, lion.





Round he rolled his baleful eyes that witnessed huge affliction and dismay... (or something similar).



Wales are now 'A' list as far as the bank of press 'togs are concerned.


Stand and deliver the anthems. Ours seemed very 'out of sync'. A bad omen.


The end. We lost. They were better. Ronaldo was Ronaldo. Happy, sad, and everyone remains to sing. Outside, a hoarse, cyclical one verse rendition of 'Calon lân' is absorbed into the night air.



Squeezed into a tram, surrounded by Welsh fans from London, Dublin and New York and Cardiff, I get into the city centre eventually, only to have missed by a long while, the last funicular. So a very long sweaty climb up to the hotel, crossing from side to side to avoid the very drunk and the very dodgy, but not the corpsed young Frenchman unconscious with his legs in the road. The most dodgy of the dodgy topless young turks comes over, and we wake the corpse up, and they're both away at speed, each propping up the other. No agro, no hassle, just blokes looking out for each other.

At the hotel, I stand still at the desk for as long as it takes to get my key and say thanks for the complements 'You have inspired us. We are so sorry that you lost...' Cold shower. Bed. Two seconds of sleep and it's time for that buffet (i.e. stuff yourself 'till you're on the brink of throwing up) breakfast.

Standing in the queue at check-in for over two hours as a lone Flybe lady millimeter by millimeter, processes our sweaty hoard, makes my big breakfast the best idea of the day. Another hour or more of queuing for scanners and we're suddenly fast tracked through passport control. My feet are grateful.

Airport, design defeats utility.


Days of numbness pass, until eventually it's time to check-in my voucher at Gwesty Cymru. The voucher had run out due to me being unable for well over two months to eat properly. However, now minus a tooth, I was able to enjoy a sumptuous meal. The pudding, a blackcurrant / redcurrant concoction was sublime. If you're visiting Aber, book a table.



Duty calls and a couple of thousand years worth of lives from the local chapels are bussed to y Bala. As we depart, the driver receives a call to say that his mother has passed away. A subdued start to the day, no sing-song, not even a hymn.



Everyone behaved in a relaxed, contented manner on the train trip along the lake. However, the teddies placed on a seat opposite us by a couple of English train buffs looked a little stern. The 'daddy' had a large linen bag which eventually revealed another teddy, to whom he spoke in a daddyish way, and the little teddy was allowed to hang out of the window to enjoy the view. Perhaps the other bears were jealous of this gross favouritism.



Canolfan 'Byd Mary Jones' celebrates the bible society, and tells the tale of Mary Jones, who walked barefoot across the mountains to reach Thomas Charles (a famous preacher) at y Bala, to purchase a bible of her own. This act prompted the formation of what eventually became the Bible Society. The place new and spangley and full of tech, and is definitely worth a visit.



Nearby was the grave of 'Bob Tai'r Felin' a popular folk singer of my parent's generation. He is immortalised as 'Taid' (grandpa) in the film 'Noson Lawen'.



Back at the ranch, a Red Kite has taken to resting on a fence pole to the rear of our house. A few years ago this would have had me erupting in conservational delight, but now it's just rather ordinary and commonplace.



A nice evening at last, and kids from the holiday caravan park at Clarach enjoy a cool drink as their parents watch the sun sink into the golden sea.



Another evening at the same spot, and as the sun settles to bed, a dreamy mist floats around Craig y Fulfran.



Surprisingly, I did manage to do quite a bit of work during and in-between all these little jaunts. One trip on the most glorious of our summer days was to Pembrokeshire, to photograph two locations for my next book. Marian and I set off early to make a day of it...

Cwmyreglwys



Abercastell



Trwyn Strwmbwl



Garn Fawr



Melin Tregwynt





Y Stryd - Abereiddi



Diving at Abereiddi. This is the 'Blue Lagoon, a disused slate quarry right on the coast, which is used as a location for adventure sports and coasteering. A few years ago it was used as a venue for the Red Bull diving challenge.



Kayaks on a silver sea, Abereiddi



Porthgain, time to turn back home after a portion of fish and chips at the award winning quayside cafe. A few years ago this charming place was very Welsh (language), but it now seems very anglisized and in the throes of gentrification. Perhaps I'm wrong.



Next a trip to London - V&A and Proms (Marian). Rushing together down the street I noticed this, and there are no prizes for guessing the tune that re-embedded itself in my ear.



After London, a blast of fresh air at Ynyslas. There were lots of coastguards about, marking unexploded ordnance with blue tape. Not that these dogs were worried.



The downside of having a Red Kite on a pole in the field, is that the local rabbit population shifted to the comparative safety of our lawn.



Another nice evening, though surprisingly cool, and a jaunt around Nant-y-moch to Cwm Ceulan. This beautiful valley, above Tal-y-bont, is not for the feint hearted and definitely not for those who cannot reverse. Be warned.



All of a sudden i's August, and time to visit the National Eisteddfod at Abergavenny.
The volume 'Llangrannog a fi' Steff Jenkins had arrived in the post, and I wondered how the photo I took for the cover would work in the midst of hundreds of other books, in drawing attention and sales. (It is, I'm pleased to, say nearly topping the current bestseller list).



On the way down, we stopped at Trefeca to see the Hywel Harris exhibition, and had a lovely and informative chat with Richard, one of the custodians.



Nearby was Llangorse Lake, which has an ancient man-made island. And ducks, a great many ducks.





Our accommodation for the duration of the Eisteddfod - a lovely apartment right by the falls at Llangynidr.



We ventured via shuttle bus to the Maes, in good time to sign copies of 'Ceredigion: at my feet' at the Welsh Books Council stand. Thanks to all who purchased copies - I really hope you enjoy the volume.



I was there too to support the launch of 'The Archaeology of Upland Gwent' by Frank Olding, with excellent photographs by Toby Driver.





Who could this be, fiddling with his phone - a message from Jeremy perhaps?!


I venture to ask Eurig Salisbury, winner of the Literature Medal for his volume 'Cai' for a picture.



The next day, around and around I go, seeing what's to be seen on the Maes, hoping for a photographic muse...

Archdruid


Robin Huw Bowen


Y Lle Celf (Art pavilion)




Mari Thomas reflecting


Ruth Jên


Debbie Edwards - crown maker


A hat by Alison Todd




Lady Llanofer


Towards a gig by Huw Chiswell




Fans of Band Pres Llareggub


Band Pres Llareggub


Huw Chiswell




Saturday morning and time to depart our lovely riverside digs, and embark on a single track journey over the hills to Hay on Wye, and then home.

The Usk river at Crughywel / Crickhowell


The famous bridge




Partrishow church













The crooked church at Cwmyoy






Llanddewi (Nant Hodni) / Llanthony

The Priory


Llanthony show


An aptly named local ice-cream van


Capel y Ffin church






Baptist chapel, Capel y Ffin




We couldn't enter the chapel, as it was firmly locked, however I took this (somewhat poignant) photograph of the fresh cut flowers inside a window, pressing against the flowered panes.



The Gospel Pass from Capel y Ffin - revealing one of the best views in Wales. It's said that you can see nine counties from the highest point.



Wye Valley



A quick coffee and ice cream at Hay, and the dark clouds roll in. Back to a rather cold and dull Ceredigion. 'Don't take me home, please don't take me home...'

Thanks for reading this far, and as a reward, another beautiful Clarach sunset to close

Gorffennaf16
09th August 2016 - 1 comment
Gorffennaf a mymryn o Awst 2016

Dyma fi, ar ddechrau'r mis ar Blatfform Un, yng ngorsaf reilffordd y Borth. Dim ond un platfform sydd i'w gael yn y Borth, felly rwy'n amau mai rhyw dynnu coes yw'r hen arwydd. Does byth newid platfform eiliad olaf yma; os yw'r trên yn mynd i'r dde, mae'n mynd i Aberystwyth, ac os yw'n mynd i'r chwith, fe fydd yn mynd i Fachynlleth a thu hwnt. Rwyf innau am fentro i'r chwith, i Birmingham, er mwyn 'hedeg i Baris'.



Roedd rhywbeth prin iawn i mi yn yr awyr ym Mharis, sef haul tanbaid. Dyma pryd y sylweddolais fod fy het haul yn dal adre yng ngwyll Ceredigion.

Dim het, dim cysgod.


Doedd hi ddim yn hawdd cyrraedd fy ngwesty bach hoff yn ardal Bercy (ganllath o Bercy Village, a'i bwytai di-ri, a siopau bach twî), gan fod streic a gwrthdystiad anferth yn ardal y Gare de Lyon. Cerdded, a cherdded, a cherdded amdani felly, yng nghanol y gwres yn gwau drwy'r gwrthdystwyr.

Taswn i ddim wedi blino cymaint, fe fyddwn wedi ymweld â'r llyfrgell genedlaethol - y BnF. Yn yr 'oes o'r blaen' fe fues i yno sawl gwaith, mewn cyfarfodydd a chynadleddau. Coeliwch neu beidio, fe roddais ddarlith aml-gyfrwng, reit heriol, mewn cynhadledd yno unwaith.

BnF


Mae'r papur newyddion yn y gwesty amser brecwast yn datgelu pam fy mod i ar daith! Ymlaen felly yn syth wedi tamaid o croissant, am y trên i Lyon, i weld Cymru yn chwarae yn erbyn Portiwgal.



Roeddwn wedi methu cael ehediadau nôl a mlaen o nunlle ym Mhrydain i Lyon, felly roedd raid hedfan i Baris, a dal trên i Lyon. Wedyn yr un peth am yn ôl i fynd adref, neu dyna oedd y bwriad.

Roedd y trên i Lyon (cwpwl o oriau) yn ddifyr iawn - golygfeydd hyfryd iawn (di-felinau gwynt). Wedi cyrraedd yr orsaf, dyma brynu tocyn teithio undydd, a chael metro ac wedyn funicular i gyfeiriad y gwesty.

Ac am westy - roeddwn wedi'i drefnu ar yr eiliad olaf, am bris gwirion, yn ystod oriau mân y bore.

Wele'r cyntedd - roedd fel cerdded i mewn i eglwys gadeiriol. Roedd yr ystafell (dim llun) yn fendigedig, a'r brecwast (cost ychwanegol!) - cystal ag unrhyw un a gefais erioed.



Rhyw hanner milltir crasboeth o orsaf y funicular yr oedd y gwesty, ac roedd raid cerdded nôl yno i gael gweld yr eglwys angyhoel ar ben y bryn, a'r olygfa banoramig o'r ddinas.

Golygfa i lawr tua'r ddinas (o'r Eglwys).



Y Pab John Paul yr Ail yn edrych draw am yr eglwys.



Roedd caffi bach rhad a siop (oedd, hwrê, yn gwerthu hetiau haul) yr ochr draw i'r eglwys, ac yno roedd criw o Lanfaircaereinion yn chwifio'r faner, a hwythau yn cael fawr o seibiant wrth i bawb o bobman erfyn am gael tynnu llun efo'r Ddraig Goch. Roedd pawb o bedwar ban eisiau bod yn Gymry heddiw!



Dyna anelu nôl i lawr am y dref, a heidiau o grysau coch ym mhobman. Roedd y traffig ar stop wrth i'r Cymry a'r Portiwgeaid ganu a dawnsio yng nghanol y strydoedd. "Don't take me home" aml-acennog.





Stadiwm hardd Lyon.



Llew y tu allan.



Round he rolled his baleful eyes, that witnessed huge affliction and dismay... (neu rywbeth felly).



A fuodd yna rioed gymaint o gamerâu'r wasg a'u hanel at dîm pêl-droed Cymru o'r blaen?


Safwn am yr anthemau


Diwedd y gêm. Hapus a thrist, ond pawb yn canu o hyd.


Erbyn i mi deithio nôl i ganol y ddinas o'r stadiwm (sydd yn BELL o'r ddinas) cefais y metro olaf i gyfeiriad y gwesty, ond roedd y funicular wedi hen gau. Doedd dim amdani ond cerdded i fyny'r bryn eithriadol o serth am ryw awr. Uchafbwynt y daith i fyny'r bryn oedd baglu ar draws dyn 'celain' o chwil yn y gwyll. Fe ddaeth at ei hun a phrysuro i fyny'r allt fel pe bai'n athletwr o fri.

Cyrraedd y gwesty i 'You have inspired us. We are so sorry that you lost...' Cawod a chyrraedd y gwely yn ystod yr oriau mân!

Dyma faes awyr swish Lyon. Fe gefais wybod gan Flybe nad oedd lle i mi ar yr ehediad adref o Baris wedi'r cyfan, ond cynigiwyd ehediad o Lyon i mi (doeddan nhw ddim i wybod fy mod i yn Lyon). Yn ffodus iawn, er bod gen i oriau sbâr, fe gychwynnais yn syth rôl y brecwast tywysogaidd am y maes awyr. Roedd hi'n shambles llwyr yno, ac fe fuon ni'n ciwio am dros ddwy awr i 'tsiecio i mewn', wedyn oes arall i fynd heibio'r prosesau diogelwch. Roedd yr ehediad ryw awr yn hwyr yn cychwyn o'r herwydd, a phawb wedi bod yn sefyll mewn ciw, heb ddiod na bwyd na dim, am oriau. Ond o leiaf roedd yna ehediad, a chyrhaeddwyd Birmingham jest mewn pryd i mi golli'r trên!

Hedfan


Roedd gen i daleb (anrheg gan rywun annwyl roeddwn wedi bod yn ei chynorthwyo droeon) i gael pryd o fwyd yng Ngwesty Cymru. Roeddwn wedi gorfod gohirio'r pryd ymhell wedi dyddiad cau'r daleb, oherwydd yr helynt mawr a gefais am ddeufis a mwy efo fy nannedd. Ond nawr roedd y dant wedi'i dynnu, a phethau'n mendio'n reit ddel. Mor braf oedd cael mentro ar fwyta pryd moethus o'r diwedd, a'r goron ar y noson oedd y pwdin cyrens duon. Am flas gwirioneddol arbennig. Ewch amdani os ydych yn Aber.



Dyletswydd yn galw! Trip y Garn a'r Noddfa i Lanuwchllyn. Bwyd ardderchog yn yr Eryrod, gyda llaw.



Fe wnaeth pawb fihafio ar y trên bach ar hyd y llyn o'r Bala (gan gynnwys y tedis hyn oedd yn mynd am dro efo'u perchnogion o Loegr) - er mai Holy War oedd enw'r injan.



Canolfan 'Byd Mary Jones'



Yn y fynwent, dyma fedd Bob Tai'r Felin - canwr gwerin yr wyf yn cofio fy mam a nhad yn sôn amdano, ac a anfarwolwyd fel 'Taid' yn y ffilm 'Noson Lawen'



Adref yn ôl, a barcud yn ymweld â ni sawl gwaith - wedi cymryd at y polyn ffens ar dop y cae.



Noson braf yng Nghlarach, a phlant o'r maes carafanau yn mwynhau'r machlud, a diod oer, braf.



Dyma fentro ar noson arall i gael llun o Graig y Fulfran i gyfeiriad y dre, a'r tarth yn codi o'r môr wrth iddi oeri.



Er yr holl deithio, roeddwn i'n llwyddo i wneud tipyn o waith (gan gynnwys ar yr awyren a'r trenau!). Serch hynny, roedd cwpwl o luniau roeddwn angen eu tynnu ar gyfer y llyfr nesaf, felly ar ddiwrnod bendigedig (un o'r ychydig ddyddiau go iawn o fendigedig yma yn ystod y cyfnod) dyma Marian a finnau yn mynd ar wibdaith i Sir Benfro - i Gwmyreglwys ac Abereiddi i dynnu lluniau yn ymwneud â hanes tywydd garw. O deithio mor bell, fe fyddai wedi bod yn wirion i beidio mentro mymryn ymhellach...

Cwmyreglwys



Abercastell



Trwyn Strwmbwl



Garn Fawr



Melin Tregwynt





Y Stryd - Abereiddi



Plymio - Abereiddi. Dyma'r "Blue Lagoon" - hen chwarel, a lleoliad cyrsiau 'coasteering', a man lle cynhaliwyd cystadleuaeth blymio 'Red Bull' unwaith.



Kayaks yn erbyn yr haul, Abereiddi



Porthgain, ac amser swper - pysgod a sglodion o'r caffi bach arobryn ar ben draw'r cei.



Taith i Lundain wedyn i Marian gael mynychu un noson o'r Proms, ac i ni'n dau weld arddangosfeydd y V&A. Wrth i ni gerdded fel fflamia i lawr y stryd, sylwi ar hwn. Fe wyddoch pa geddoriaeth a ddaeth i'r cof.



Rôl bod yn y ddinas fawr ddrwg, beth gwell nag awel y môr yn Ynyslas - a gweld nifer fawr o wylwyr y glannau yn gosod tâp o gwmpas hen ffrwydron! Ond doedd y cŵn yma ddim yn poeni am gael eu chwythu i ebargofiant.



Er bod gennym, am gyfnod o leiaf, ein barcud ar ben polyn, doedd hynny ddim yn nadu pla o gwningod gwyllt rhag mentro i'r ardd a cheisio gwneud tyllau o dan ein lawnt. Yn wir, rwy'n amau mai cysgod y barcud yn y cae a wnaeth iddynt ffoi i ddiogelwch cymharol ein border bach.



Noson arall hyfryd, ond rhyfedd o oer, ac i ffwrdd a ni i Nant-y-moch a rownd i Gwm Ceulan, man anghysbell ond prydferth iawn uwchben Tal-y-bont. Peidiwch mentro yno os nad ydych yn gallu bacio car, neu os oes gennych ofn uchder wrth yrru.



A hithau nawr yn ddechrau Awst, roedd hi'n bryd troi ein golygon tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni. Roedd cyfrol 'Llangrannog a fi' Steff Jenkins wedi cyrraedd drwy'r post, ac roeddwn ymhlith pethau eraill, yn chwilfrydig i weld sut oedd y clawr (ffoto gen i) yn gweithio i dynnu sylw darllenwyr.



Ar y ffordd i lawr yno, dyma oedi yn Nhrefeca i weld yr arddangosfa o greiriau Hywel Harris. Dyna i chi 'arbrawf' hunan-gynhaliol difyr oedd i'w gael yn Nhrefeca bryd hynny. Peiriant 'trydaneiddio' aeth â mryd i, gan ei fod yn 'gwella' moelni, y ddannoedd, a henaint, ymhlith pethau eraill.



Nid nepell o Dalgarth / Trefeca mae Llyn Syfaddan (Llangorse Lake)
Yn y llyn mae ynys a wnaed gan ddyn, ac olion yn mynd yn ôl i'r cyfnod cyn-hanes.





Ger y rhaeadr yn Llangynidr oedd ein llety am dair noson. llecyn hyfryd, er bod hi'n cymryd amser i ymgyfarwyddo â rhuo'r afon!



Dyma fentro i Faes yr Eisteddfod ar y dydd Iau - siwrne hwylus ar fws wennol - er mwyn cynnal sesiwn arwyddo 'Ceredigion: wrth fy nhraed' ar stondin y Cyngor Llyfrau. Diolch i chwi a brynodd gopi - gobeithio bod y gyfrol wedi plesio.



Roeddwn i yno hefyd i fynychu lansio 'Archaeoleg Ucheldir Gwent' gan Frank Olding. Cyfrol ddifyr dros ben gan y Comisiwn Henebion, ac yn llawn o luniau gwych gan eu ffotograffydd Toby Driver.





Ys gwn i pwy yw hwn, yn fidlan efo'i ffôn?!


Dyna fentro gofyn i Brif Lenor yr ŵyl am gael tynnu ei lun wrth iddo yntau orffen llofnodi ei gyfrol 'Cai'.



Crwydro dipyn wedyn efo fy nghamera i weld beth arall a welwn...

Gosgordd


Robin Huw Bowen


Y Lle Celf




Mari Thomas yn y drych


Ruth Jên


Debbie Edwards - dylunudd y goron


Het gan Alison Todd




Arglwyddes Llanofer


Mynd i gig Huw Chiswell


Aros am y band, a mwynhau


Ffans Band Pres Llareggub


Band Pres Llareggub


Huw Chiswell




Bore dydd Sadwrn, a ninnau'n gorfodi ein hunain i godi er mwyn gwneud lle i'n gwell yn y bwthyn bach clyd ger yr afon, a chychwyn ar hyd llwybrau hir a chul, a phrydferth, nôl adre -

Afon Wysg ger Crughywel


Y bont enwog




Eglwys Partrishow













Eglwys 'gam' Cwm-iou






Llanddewi (Nant Hodni) / Llanthony

Y Priordy


Sioe Llanthony a'r Cyffiniau


Enw addas i'r fan hufen iâ lleol yma


Eglwys Capel y Ffin






Capel y Bedyddwyr, Capel y Ffin




Gan fod drws y capel wedi'i gloi, roedd yn rhaid bodloni ar dynnu llun o flodau ffresh y tu mewn yn pwyso ar flodau gwydr chwarel y ffenest. Symbolaidd iawn!



Bwlch yr Efengyl - ffordd gul a serth sy'n arwain o Gapel y Ffin at un o olygfeydd harddaf Cymru. Dywedir bod modd gweld naw sir o'r top.



Dyffryn Gwy



Hufen iâ a phaned yn y Gelli Gandryll, cyn troi am adre, a chymylau a glaw. 'Don't take me home, please don't take me home...'

Yn ôl fy arfer, wele fachlud Clarach i gloi. Diolch o galon am ddarllen mor bell â hyn.

June 16
01st July 2016 - 0 comments


It's the 1st of July, and the day to remember the start of the Battle of the Somme.

Here's my late Uncle Edward, in France, with two of his comrades in arms - including a soldier from the Commonwealth (I believe he's from India). This picture makes me weep, not just for the massive unnecessary loss of life in a war that spread from something containable to a worldwide disaster - as countries blindly enacted their suicidal pacts - but also because of what's happening now in Britain, and our own march towards racism, rift and economic suicide.

To mundane matters...
June was a total wreck of a month as far as work goes - all because of a frightful toothache / abscess, the overpowering pain of which denied me the capacity to think or concentrate on anything. I bid farewell to the tooth on the last day of the month.

I did manage some work, and a flying visit to the football in Bordeaux, the excitement of which anaesthetised the pain somewhat, at least for a day!

Bordeaux Stadium


A booze-snooze prior to the game for some!


C'mon Cymru!


Bye beautiful stadium


The famous reflective pool in Bordeaux


Hide and seek at the flea market


Goya


Pied Piper of Aberystwyth


A rainbow which appeared behind our house the day after the shocking assassination of Jo Cox.


To close - yes, despite the shocking referendum vote and it's ghastly aftermath, the world does still revolve around the sun, not the head of Michael Gove or Boris.
16 Mehefin - June
01st July 2016 - 0 comments


Mae'n Orffennaf y cyntaf, ac yn amser priodol i gofio am frwydr y Somme, a ddechreuodd union gan mlynedd yn ôl. Dyma fy 'Yncl Edward' (ar y dde i'r llun) gyda dau o'i gymrodyr. Mae'r darlun mor ddwys heddiw, a'n gwlad yn cael ei arwain yn ddall ac yn styfnig di-droi-yn-ôl tuag ar hunanladdiad cyfansoddiadol, economaidd, a hiliaeth. Tybed be fyddai Yncl Edward, a'i gyfaill o filwr o'r India yn meddwl am hyn oll? Ys gwn i a fyddai ef am ein rhybuddio mai dewrion dan arweiniad asynod oedd y milwyr, ac mai agwedd styfnig arweinwyr y gwledydd o gadw at hen gytundebau, dim ots am y canlyniadau hunan-ddinistriol, a'n harweiniodd at gyflafan fyd-eang?

At bethau bach bywyd...
Does gen i ddim i'w adrodd am fis Mehefin, heblaw fy mod i wedi methu gwneud y nesa peth i ddim oherwydd ddannodd arteithiol ac abscess. Sut yr oedd peth mor fach yn gallu achosi'r fath boen, a'r boen yn ei sgil yn golygu methu meddwl na chanolbwyntio nac ysgrifennu, wn i ddim. Ond dyma'r mis mwya di-fudd ers i mi droi'n hunangyflogedig! Tynnwyd y rhan fwyaf o'r dant ar ddiwnod ola'r mis.

Serch hynny, fe wnes i ychydig o waith, a llwyddo i fynd i weld gêm bel-droed yn Bordeaux! Mae cyffro pêl-droedaidd yn anesthetig penigamp - am ychydig oriau o leiaf!

Stadiwm newydd Bordeaux


Adfer eu nerth cyn y gêm


C'mon Cymru!


Ffarwel stadiwm annwyl


Pwll adlewyrchol enwog Bordeaux


Chwarae cuddio rhwng y bric a'r brac


Goya


Pibydd hud yng Nghastell Aberystwyth


Enfys a ymddangosodd wedi'r storm, y diwrnod ar ôl llofruddiaeth Jo Cox.
Llun newyddion yr wythnos yn Golwg.


Ac i brofi bod y Ddaear yn dal i droi o gwmpas yr haul, nid pen Gove na Boris, wele - machlud Clarach!
Tu ôl i'r silff
14th June 2016 - 0 comments
Mae hydoedd ers i mi dynnu'r lluniau hyn (a mwy!) ar gyfer y BBC, sef cip y tu ôl i'r llen wrth i'r ffilm 'the Library Suicides / Y Llyfrgell' gael ei ffilmio yn y Llyfrgelll Genedlaethol.

Braf iawn yw eu gweld nawr ar wefan Cymru Fyw, wrth i ddyddiad dangosiad cyntaf y ffilm nesau!

Llongyfarchiadau mawr i Euros Lyn a Fflur Dafydd, ac i'r criw a'r actorion i gyd - roedd hi wir yn bleser cael bod ar y set efo chi am ychydig ddyddiau.

Edrychaf ymlaen yn fawr iawn at weld y ffilm ar y sgrin fawr.

____


Nice to see these behind-the-scenes photos of the making of the 'the Library Suicides / Y Llyfrgell' on the BBC website. The film will have it's premiere in the Edinburgh Film Festival, and there will be a special screening during the National Eisteddfod in August.

Congratulations to Euros Lyn, Fflur Dafydd and the actors and crew - it was a true privilege and preasure to have been on set with you all for a few days.

Looking forward to viewing the film itself on the big screen!
16 May
31st May 2016 - 0 comments
A thunderingly good Welsh folk concert kick started the month, marking the contribution made by Phyllis Kinney and the late Dr Meredydd Evans to the field. 'Rocet' Arwel Jones presented Phyllis and her daughter, Eluned Evans, with a copy of 'Merêd: dyn ar dân'.

I took the cover picture during the first St David's Day parade in Aberystwyth, and it's probably the most emotionally charged picture I've ever taken. I was jostled a little while trying to take a set-up pose, and so I had to shift around to get what turned out to be a moving and natural picture of Dr Evans reacting to some excited children who were ready to take part in the event.



Most of the month was spent chasing diminishing returns as the research work on the next book draws slowly to it's conclusion. However a couple of small commissions brought about a welcome change of scenery and a little income to keep the wolf from the door as the other work progresses.

One of the jobs took me to Pembrokeshire and the south of Ceredigion, and as the weather was fine, I made the most of my time by taking pictures of a few places I'd missed out on during previous jaunts.

Dewi Emrys memorial at Pwllderi


St Dogmael's and Cardigan across the river


Melin Trefin


And another, slightly more thoughtful view


Neuaddlwyd - Madagascar missionary memorial and interesting field opposite the chapel. I don't know whether the field was planted with trees (they seem rather too close together), or vines, or ?




I'm proud of these potographs - the artist Aneurin Jones, and poet and farmer Emyr Jones 'Oernant'. Many thanks to both for allowing me to take their portraits.

Aneurin Jones at home


Emyr Jones, 'Oernant'


St David's Cathedral on an amazingly sunny day. I've visited often, but as far as I remember, this was the first time the sun smiled upon my visit.


It would be a strange and barren month if I hadn't taken any pictures for the local community newspaper, or the local chapel newsletter and website.

Here are some ladies from Capel y Garn preparing a bread and cheese lunch in aid of the Christian Aid Appeal. £400 was raised to help the poorest inhabitants of Bangladesh.



I like the challenge of taking and making portraits, and a lovely half day was spent at Llangrannog taking pictures for Steff Jenkins's autobiography. Marian and I then had a lovely lunch at the beach cafe in the village. What a hard life ;-)

We both had an interesting visit to the Dyfi Osprey Project to take a few pictures of Alwyn Ifans for the magazine 'Golwg'. Marian is now an avid follower of their 'chick-flick' streaming from the nest!




The inevitable journey 'up north' to visit family, and the Vale of Clwyd looked wonderful in the sunshine.


Back down to Carmarthen on Bank Holiday Saturday and a very tasty lunch at the new Welsh Centre yr Atom . It was carnival day, and so I snapped a few pictures in passing, before the heavens opened and the thunder clapped.

On the way back home, the road was blocked off by a Mansel Davies lorry and a fire engine. We heard on the news that there had been severe flash flooding there.







As is my habit, I'll leave you with a Clarach sunset (or two). A tranquil end to a thunderous month.



Mai 16
31st May 2016 - 0 comments
Cyngerdd gwerin penigamp i ddathlu bywyd Meredydd Evans, draw ym Mhontrhydfendigaid, agorodd y mis. Roeddwn yn falch o gael mynychu'r noson am nifer o resymau, gan gynnwys cael gweld Arwel 'Rocet' yn cyflwyno'r gyfrol 'Merêd: dyn ar dân' i Phyllis ac Eluned.

Fe dynnais lun y clawr adeg Parêd Gŵyl Ddewi cyntaf Aberystwyth, pan oedd Merêd yn 'dywysydd' yr orymdaith. Fe wnes i ofyn iddo aros am ennyd cyn cychwyn, er mwyn cael tynnu ei lun, ac fel roeddwn i am bwyso'r botwm, fe wthiodd dau ffotograffydd 'go iawn' heibio fi a blocio'r shot (gan fy ngwthio o'r neilltu efo'u penelin!). Rwy'n hynod ddiolchgar iddynt, oherwydd erbyn i mi gael y cyfle i gamu draw i'r ochr ac ail-fframio, nid llun ffurfiol, gwenu i'r camera, oedd ar gael, ond yr ennyd hyfryd naturiol hon, wrth i Merêd sylwi ar un o'r plant bach oedd yn troi o'n cwmpas.



Defnyddiwyd y llun fel cefndir gwobrau gwerin R2 yng Nghanolfan y Mileniwm (y munudau 'ffotograffig' mwya emosiynol erioed i mi), yn sail i waith celf wedi'i gyplysu efo geiriau Rocet, mewn amryw deyrngedau yn y wasg, a nawr ar glawr y llyfr a olygwyd gan ei ferch, Eluned. Fuodd erioed y fath fraint i hen dynnwr lluniau o Gymro Cymraeg?

Mae sôn am gael gŵyl flynyddol yn y Bont i hyrwyddo canu gwerin Cymraeg. O ymateb pawb, rwy'n tybio y byddai'n fenter werth chweil.

Mis o fod â'r trwyn ar y maen o ran paratoi cynnwys y llyfr nesaf oedd Mai yn bennaf, ynghyd ag ychydig o waith comisiwn er mwyn cadw'r blaidd o'r drws tra mae ymchwil ar gyfer y gyfrol yn rhygnu 'mlaen.

Arweiniodd peth o'r gwaith hwnnw ni draw i Sir Benfro a godre Ceredigion, a chan fod y tywydd yn reit ffafriol, roedd cyfle i dynnu ambell dirlun a phortread ar y ffordd.

Cofeb Dewi Emrys uwchlaw Pwllderi


Llandudoch, ac Aberteifi ar draws yr afon


Melin Trefin


A hwn, sydd yn fwy arwyddocaol.


Doedd gen i ddim llun o gofeb cenhadon cyntaf Madagascar (cynhyrchodd cwmni Unigryw raglen 'Dylan ar Daith' - os cofiaf yn iawn - am eu hanes trist sbel yn ôl), felly fe oedais ger capel Neuaddlwyd er mwyn cofnodi'r gofeb, ond yr haul ar y cae ar draws y ffordd dynnodd fy sylw yn fwy na'r angel ar ben y garreg.





Rwy'n falch iawn o'r ddau bortread yma, sef yr arlunydd Aneurin Jones, y mae gen i lun anferth ganddo yn hongian acw ers blynyddoedd mawr, a'r bardd a'r amaethwr adnabyddus Emyr Jones 'Oernant'. Diolch yn fawr i'r ddau am eu croeso, ac am adael i mi dynnu eu llun.

Aneurin Jones yn ei gartref yn Aberteifi


Emyr Jones, 'Oernant'


Am y tro cyntaf erioed (o leiaf pan oedd camera gen i), roedd hi'n fendigedig o heulog wrth i ni ymweld â Thyddewi, ac fe gefais luniau lliwgar braf o'r lle cyn troi am adre.

Eglwys Gadeiriol Tyddewi - St David's Cathedral


Mae'n fis rhyfedd iawn os nad wyf wedi tynnu llun ddigwyddiad ar gyfer papur bro Y Tincer, neu 'Gair o'r Garn' - cylchgrawn yr ofalaeth. Roedd y Garn yn un o'r capeli Cymraeg cyntaf i greu gwefan, ac mae'r wefan a'r cylchgrawn yn cyrraedd ymhell, bell y tu hwnt i ffiniau'r ofalaeth a'r capeli cysylltiedig. Mae llun 'iCON' gen i o Soar y Mynydd (yn rhan o arddangosfa Wynne Melville Jones, yng Nghanolfan Aur Rhiannon yn Nhregaron) sy'n fyfyrdod ar y syniad yma o dechnoleg / adeiladau / neges crefydd.

Mae cyfraniad ymroddedig criwiau bach (erbyn hyn) y capeli yn anghymesur o fawr o ystyried nifer yr aelodau - cyfraniadau i sawl agwedd o fywyd y gymuned leol, ac i elusennau sy'n gweithredu'n fyd-eang.

Dyma griw o 'ferched y Garn' a aeth ati i baratoi cinio 'bara a chaws' yn y capel, pryd y codwyd £400 tuag at apêl Cymorth Cristnogol i helpu trigolion tlotaf Bangladesh.



Er nad wyf yn aelod o gapel, rywsut rwy'n ffendio fy hun o dro i dro yn cynorthwyo ar 'ochr dechnegol' pethau, gan fod fy nghefndir cyfrifiadurol a chlyweledol (a'r ffaith nad wyf yn gallu dweud 'na') yn gallu bod o gymorth weithiau. Gosodwyd system taflunio di-wifr yno yn lled ddiweddar, a'r bedydd tân i mi oedd ei ddefnyddio ar gyfer y gwasanaeth Cymorth Cristnogol.

Rwyf wedi sôn sawl gwaith yn y blogiau hyn fy mod i'n hoff o dynnu portreadau. Treuliais hanner diwrnod hyfryd i lawr yn Llangrannog, yn tynnu llun clawr llyfr am hanes Steff Jenkins, ac yna manteisio ar y cyfle i gael cinio bach hyfryd efo Marian, ein dau yn eistedd fel Siôn a Siân i lawr y tu allan i'r caffi ar fin y traeth.

Cafwyd awr bach ddigon difyr hefyd yn ymweld â safle 'Gweilch Dyfi' i greu portread o Alwyn Ifans ar gyfer cylchgrawn Golwg. Lle cynt doedd gen i ddim ond mymryn o ddiddordeb yn hanes yr adar, rwyf nawr yn dilyn eu hynt a'u helynt bron yn ddyddiol!





Rydym fel arfer yn ymweld â'r teulu yn y gogledd-ddwyrain o leiaf unwaith y mis, a'r tro hwn (wrth gyrraedd o leiaf), roedd hi'n braf iawn dros un o fannau harddaf Cymru, sef Dyffryn Clwyd.



Wrth alw yng Nghaerfyrddin ar ddydd Sadwrn Gŵyl y Banc, gwelwyd bod Carnifal y dref ar fin cychwyn ar orymdaith ar hyd y stryd, felly dyma gipio cwpwl o snaps cyn cael cinio hynod o flasus yn yr Atom, canolfan Gymraeg 'tref hynaf Cymru'. O fewn munudau fe ddaeth yn law eithriadol o drwm. Gobeithio bod yr orymdaith wedi cyrraedd man diogel cyn i'r glaw tyrfau eu cyrraedd!

Ar y daith adre, roedd y ffordd wedi cau ym Mhencader, gyda thancer Mansel Davies ac injan dân yn llenwi'r ffordd, a hanes fod tai a busnesau wedi'u heffeithio'n arw gan lifogydd.







Yn wahanol iawn i bawb oedd yn cymryd rhan yn y cyngerdd yn y Bont, ni allaf ganu nodyn mewn tiwn, felly rwyf am 'ganu'n iach' yn fy ffordd arferol, gyda lluniau o'r machlud o Glarach - un llun yn edrych draw i gyfeiriad Eryri, a'r llall yn syth i wyneb yr haul.



Ebrill - April 16
05th May 2016 - 0 comments

Rali hen foduron yn ardal Aberystwyth - Vintage motoring rally.

Ers i 'Ceredigion: wrth fy nhraed' gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth, rwyf wedi bod wrthi'n hyrwyddo'r gyfrol, ond yn bennaf yn ymchwilio ar gyfer cyfrol newydd, hollol wahanol.

Un 'loddest' ffotograffig yn unig a gafwyd yn ystod y mis, sef croniclo'r gynhadledd 'Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau' a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth.


Sjón - awdur o Wlad yr Iâ : Icelandic author.


Owen Sheers - yn cadeirio sesiwn ar orthrwm yn erbyn rhyddid mynegiant : Owen Sheers who chaired a session on the suppression of free speech.


Patrick McGuinness - darlith gyhoeddus : keynote public lecture


Profiad rhyfedd oedd disgyblu fy hun i beidio mynd allan i chwilio am luniau ar gyfer 'Ceredigion' ond i ganolbwyntio ar chwilio am luniau gan bobl eraill! Serch hynny, roeddwn i'n methu maddau cwpwl o fachludoedd.

Fel rhan o'r chwilio am luniau fe fues i mewn cyfarfod mawr yn Llundain i gwrdd â llyfrgelloedd lluniau. Roedd yn gyfarfod ardderchog, ac fe wnes i sawl cysylltiadau newydd yn y maes, a fydd, gobeithio, yn fuddiol ar gyfer y dyfodol. Fe fues i hefyd am ddiwrnod yn cyflwyno ffynonellau lluniau i olygyddion rhai cylchgronau Cymraeg.


Y Smithfield yn Llundain : London's Smithfield Market

Fe fues i ar ymweliad teuluol - pen-blwydd, i Sir Ddinbych, via Nant Gwrtheyrn a godre'r Wyddfa.







Roedd hi'n amhosib osgoi'r etholiad...


Elin Jones (Plaid Cymru) yr unig ymgeisydd a welson ni ar ein stad o dai : the only candidate we saw canvassing on our housing estate.

Pan aeth y gwaith o flaen y cyfrifiadur yn drech, fa aeth Marian a finnau i Fwlch Nantyrarian am awyr iach a phaned.


Edrych i lawr ar hyd Cwm Melindwr : looking down at Cwm Melindwr


Llinellau : Lines


A dyna'r mis. Nid yw'n swnio'n fawr o ddim, ond dw i'n teimlo fel taswn i erioed wedi bod mor brysur.

I gloi - y machlud o Glarach (pwy fuasai'n meddwl!


_____

April was incredibly hectic, with research work for a new book and the remnants of the promotion schedule, such as talks and signings for 'Ceredigion: at my feet' squeezing out almost any hope of relaxation.

It is still a culture shock that I don't need to venture out constantly in seach of 'Ceredigion' pictures. I had only one photo binge, and that was covering the 'Literature Across Frontiers' conference at Aberystwyth University. All other photos, which are few and far between, were taken in the line of 'other duties'.

The picture research entailed a visit to London to a kind of speed dating conference for researchers and picture libraries. It was held at King's Place, not far from King's Cross, along one of the old waterways, around the bend from the Canal Museum. It was a very interesting and fruitful day, and it was a genuine pleasure to meet so many like-minded people.

Diolch am ddarllen
Thanks for reading

Iestyn
Mawrth 16 March
04th April 2016 - 0 comments
Mis Mawrth. Wn i ddim ble i ddechrau!

[English follows, below]


Yr Hen Goleg a'r Prom, Aberystwyth.
The Old College and Promenade at dusk, Aberystwyth.

Lansio'r llyfr! Cyflwyno copi i Elin Jones, Aelod y Cynulliad dros Geredigion.
Launching 'the' book: presenting Elin Jones, the Ceredigion AM with a copy. (Llun/photo Simon Evans)


Ymddangosodd fy llyr 'Ceredigion: wrth fy nhraed / at my feet' yn ystod wythnosau olaf Chwefror, gan gyrraedd rhif 4 yn y 'siartiau gwerthiant' am y mis hwnnw.

Llyfr dwyieithog ydyw sy'n cynnwys bron i 300 o luniau o Geredigion, rhai yn dod o gasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol neu gan unigolion, ond y mwyafrif yn ffotograffau wedi'u tynnu gennyf i dros y 3 - 4 blynedd diwethaf, fel rhan o'r "prosiect mawr" i geisio dod i adnabod y sir a dal ei rhin gyda 'nghamera.

Lansiwwyd y llyfr yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ddechrau' mis Mawrth, gyda'r lle'n orlawn - diolch o galon i bawb ddaeth i gefnogi, rwyf mor ddiolchgar i chi am wneud y noson yn un gwerth chweil.

Cafwyd sylw anhygoel i'r gyfrol yn y wasg Gymraeg ac ar y teledu a'r radio, gydag ymateb gwych i'r gyfrol gan adolygwyr a phrynwyr. Does gen i ddim syniad beth yw'r ffigurau gwerthiant, ond rwy'n mawr obeithio y bydd y gyfrol yn gwerthu'n dda, er lles y wasg - sef Gwasg Gomer o Landysul.

Mae fy nyled yn fawr i Gomer am gynhyrchu cyfrol mor hardd, gydag ansawdd atgynhyrchu'r lluniau yn ddi-fai. Diolch i'r criw i gyd, i Elinor Wyn Reynolds am gomisiynu'r llyfr, i Luned Whelan am ei olygu a'i lywio drwy'r wasg, ac i'r criw dylunio ac argraffu am eu gwaith penigamp.

Heblaw am y Cyngor Llyfrau, fe dybiaf na fyddai fawr ddim cyhoeddi yn y Gymraeg - yn sicr ddim i safon sy'n cyrraedd disgwyliadau'r oes fodern, felly diolch arbennig iddynt hwy am eu cefnogaeth a'u nawdd..

A dyna ble'r aeth y mis i gyd bron - ymateb i alwadau i hyrwyddo'r gyfrol! Heblaw am ail-ddechrau o ddifrif ar ymchwil ar gyfer y gyfrol nesaf, a fydd yn ymddangos, os byw ac iach, erbyn y Nadolig.

____

March began with the launch of my book 'Ceredigion - at my feet'. The bilingual volume comprises nearly 300 illustrations, quite a few from the collections of the National Library of Wales, a couple from an old colleague, and the bulk from my own camera.

Thanks to the almost full house at the Drwm, I really appreciated the wonderful turnout, I hope that my talk and the special nibbles provided by Heather at NLW made the evening worthwhile.

There wouldn't be a book but for Elinor Wyn Reynolds taking the bold leap of faith in commissioning it, and Luned Whelan for editing and leading it along the path to completion, for all the staff at Gwasg Gomer for taking such care in the production, and for the Welsh Books Council for their role in providing technical and grant assistance. So a big thank you to all. There are many others too, who helped along the way, my old colleagues at NLW, lots and lots of people for allowing me to photograph them or their property, other photographers who provided words of encouragement when others were not so kind. Thanks everyone, you know who you are.

A dyma'r gweddill...
And here's the rest of the month...

iCON - Soar y Mynydd. Arddangosfa 'Mwy nag Adeilad', yn y Morlan.
iCON - Soar y mynydd. 'More than a building' exhibition, at the Morlan Centre.



Parêd Gŵyl Dewi, Aberystwyth




Lleuad - moon



Cychod - Aberaeron - boats



Angel yr Arfordir - Angel of the Coast



Gwylan mewn storm - Gull in a storm


Rhwyfwyr - rowers



Wallog



Glawio wynebau bach - raining little faces



Eira! Snow!



Lansio Geiriadur Gomer - Geraint Lewis.
Launching a new Welsh dictionary, with the author, Geraint Lewis.



Ac i gloi yn y dull arferol - machlud Clarach.
And to close, as usual, another run-of-the-mill Clarach sunset!