Newyddion . News

Palu am fwyd
25th August 2015 - 0 comments

[Scroll down for English]

Siom o'r ochr orau a gefais ar ôl cyrraedd adref wedi mis o deithio, wrth ddarganfod bocs cardfwrdd yn llawn cylchgronau Fforch i Fforc: teithiau bwyd lleol, wedi'i gadw'n ofalus i mi gan ein cymdogion.

Dyma un o'r prosiectau yr wyf wedi ei fwynhau fwyaf. Fe fum ar deithiau dwys a hectig i dynnu lluniau ar gyfer y gyfrol, ac felly, waeth i mi gyfaddef ddim, roeddwn yn llawn cyffro wrth agor y pecyn, oherwydd doeddwn i ddim wedi gweld proflen na pdf ymlaen llaw, a wyddwn i ddim beth i ddisgwyl.

A chwarae teg, mae'r dyluniad gan FBA yn wych, ffres a modern, a'r cynnwys yn ddifyr dros ben! Calon y cyhoeddiad yw nifer o deithiau gan awduron i ddysgu am fwydydd lleol Cymreig o ansawdd ardderchog.

Dyna i chi daith Jackie Bates, o'r Fenni i'r Gelli Gandryll, i Lanilltyd Fawr ac i Aberteifi i ddysgu am gynnyrch Cymreig o'r popty - bara a danteithion. Fe aeth Manon Steffan ar garlam o gwmpas Ceredigion a Sir Benfro i ddarganfod cynnyrch llaeth; caws Hafod a Teifi, a hufen iâ hynod Cowpots o Hendy-gwyn. Aeth Simon Wright i ddysgu am bysgota sewin o gwrwglau, ac yna i flasu cwrw a seidr, ac fe aeth Charles Williams i flasu cigoedd tra gwahanol i'r hyn a geir yn eich archfarchnad.

Yma hefyd fe gewch chi Dylan Iorwerth yn blasu gwledd o lysiau a ffrwythau lleol, a mêl hyfryta Cymru.

Mae'r awduron oll wedi llwyddo i grisialu bwrlwm ac egni'r maes yn eu cyfraniadau difyr a dadlennol, a'r ffotograffwyr oll wedi dal naws y gwaith a'r brwdfrydedd sy'n mynd i mewn i gynhyrchu bwydydd o'r fath - bwydydd llafur cariad.

Fe welwch y cylchgrawn (sydd ar gael am ddim) mewn marchnadoedd bwydydd lleol ac mewn siopau bach o gwmpas y lle. Bachwch un, mwynhewch, ac yna ewch ati i brofi drostoch eich hun rywbeth o gynnyrch gorau'n gwlad. Mae digonedd o ddewis at bob dant!

Keep an eye out for 'From fork to fork: journeys in local food' which will be available at farmer's marts, local delis and so forth.

I was really glad on my return from an extended trip to Canada to find a box of them waiting for me in the hall. The publication is based on several road trips made by authors setting out to learn about Welsh food made by small 'local' producers.

Jakie Bates takes an epic journey from Abergavenny to Hay-on-wye, to Llantwit Major and Cardigan, all in the cause of great bread and bakery products. Manon Steffan visits Ceredigion and Pembrokeshire to see how cheese is produced in the old-fashioned way, finishing off with a big dollop of ice cream at Whitland. Simon Wright learns about the dark art of sewin fishing, and the complex craft of brewing, while Charles Williams tries meats you're hardly likely to find in the big supermarkets. Dylan Iorwerth samples fresh fruit and veg, and the very best Welsh honey and mead.

The design, by FBA is brilliant, fresh and modern.

So when you see one, grab a copy, enjoy reading, prove the passion and love poured into the products by the producers, and hopefully you'll try some of the wonderful food yourself - Welsh passion food!
Take a break
19th July 2015 - 2 comments
Preparing my monthly photographic waffle about things that 'have been' can be quite tiresome, and the whole process of trying to remember what I've done, finding and formatting pictures, uploading them, writing the links, then preparing an 'other language' version seems to take ages. I'd really like to make the thing a little more interesting, more of a story, as I feel it's much too boring and lacking in spark. But when I've tried to provide a more interesting narrative, it takes far longer to prepare, and feels contrived. So all you usually get from me is a partial chronology, a 'have done' list, which I suppose reflects the randomness of real life, but also leaves out all of life's non-photogenic parts.

I get a few nice messages from a couple of 'regulars' (thank you, you know who you are) who say that they enjoy reading my monologue, and each 'instalment' gets about 600 views during the first couple of weeks. Presumably people only read the post once, a very few might read both language versions. I'm extremely surprised that so many people actually read the thing at all, and the numbers for each version during the 'fresh' period are about 350 Welsh and 250 English. Gradually, over several months, the number reading the English version climbs, overtaking the Welsh. A thousand readers over an extended period may not sound like a great many, but the number of 'hits', especially to the Welsh version, surprises me, and always makes me want to 'do better next time'. But when the next time comes, it's the same old story - rush rush rush.

I've been updating this website regularly, in one form or another, for three years, so I've now decided to take a little break. I'm posting this 'half month' diary for July, then hopefully I'll return with a 'summer compendium' in September or October. So until then, I hope you enjoy the pictures, and thanks for reading, and happy holidays to you all.

The first half of July was quite a 'fun' time, especially as I enjoy doing book covers. One emerged in print recently and I was lucky enough to be asked to take a couple of others which will hopefully emerge in a few months or so.

I wonder if you recognise this chap? He'll bolt out of the Gomer stable towards the end of the year!

I spent a few days taking pictures for old friends and good causes (I presently have a blindingly bright halo).

We had a lovely walk in the sunshine and shade of Llandre's Poetry Path, taking pictures for a promotional leaflet. If you fancy a nice (steep in places) woodland walk, with more than a hint of local literature to brighten your day, follow the path which starts opposite the Llandre / Llanfihangel-genau'r-glyn church entrance.

There's plenty of room to park below the church, and a nearby heritage trail if you fancy that too. The church itself has beautiful windows, which are well worth seeing.

Upstairs, as you enter, there's a little gallery displaying work by local artists. Please do take a peek.

Llandre Poetry Path

The following day I had a great time at Tynrhyd, Devil's Bridge, which was opened by our local Plaid AM, Elin Jones. The event coincided with the arrival of the 'Lap of Wales Challenge' participants in four helicopters.

The very second we were about to take a group picture, the sun burst forth and created an instant, massive backlight problem, with not a second to spare to overcome the problem!

Siân, Tynrhyd, with Rhys Meirion.

Small local businesses took part, displaying their wares and services.

Crefftau'r Bwthyn.

Elin Jones, with a speech fit for an official opening.

Later, a 'noson lawen' (under cover, in the summer rain) included Leonardo and Alexandro from Patagonia singing in Spanish and Welsh.

Gregory Roberts and Côr Ger y Lli

Rhys Meirion and Sioned Terry

The talented young folk of Tynrhyd

My favourite picture of the day, Jon Bythaway carving an owl with his chainsaw

It was a poignant drama by Cwmni Na Nog which brought many a tear as it highlighted the Lap of Wales mission, which is to ignite discussion about the issue of organ donation.

I suppose the highlight of the month was a visit to the centre court at Wimbledon quarter finals. We had seats up in the 'gods', which provided a reasonable view of the court and the arena.

Rain in Wimbledon too. Who'd have thought

A good crowd

Djokovic v Cilic

Too far away to see who was in the Royal Box.

Henman Hill, or Murray Mount

The callenge we later faced had nothing to do with sport, but all to do with the tube strike, which was heralded by gloomy headlines such as 'the worst disruption in London for 20 years'. True words.

Earls Court tube station, shut. It took over three hours in the baking heat to get from there to Euston on our way back home.

Following on the next day from the dust and heat of London to a brief kayking trip in Cardigan Bay. The picture does not do justice to the horrible swell, which abated just long enough for me to grab this one picture. I'll be much more wary of this stretch of water at the turn of the tide from now on!

Aber too far today!

There's been a big increase recently in activity at the agency I supply, with more licensing and more views than ever. One of the 'sales' was for a double page spread in a Russian magazine. If you happen to be in Russia, and stumble upon a magazine with this picture, please keep a copy for me!

King's College, Cambridge. When the agency and distributor have gobbled their part of the cake (70%), I should have enough left for a small latte. That will probably be in six to twelve months, if the payment ever actually materializes.

We attended a lovely wedding (Lois and Shôn), and I sneaked a few shots without treading on the toes of the official photographer and videographers.

Beautiful! - and the bride looks very nice too ;-)

Lois gliding by the immaculate 'Carlton Lotus' belonging to 'Taclau Taid' a motor and farming museum on Anglesey.

I suppose I am required to finish with another Clarach sunset!

Thanks for reading

19th July 2015 - 0 comments
Mae'n dipyn go lew o waith i gadw'r 'dyddiadur' blogiol hwn i fynd (rwy'n sgwennu rhyw fath o rwtsh yn rheolaidd ers tair blynedd bellach). Mae'r nifer sy'n ei ddarllen, yn enwedig y fersiwn Cymraeg, yn galonogol. Daw rhyw 350 heibio i ddarllen y Gymraeg, a rhyw 250 y Saesneg yn ystod y pythefnos cyntaf ar ôl cyhoeddi'r pytiau. Yna dros amser hirach, fe fydd y Saesneg yn tueddu i oddiweddyd y Gymraeg, a chyfanswn y ddau fydd rhyw fil o 'hits' mewn blwyddyn. Mae ambell i bostiad wedi cyrraedd y miloedd, ond eithriadau yw'r rheini.

Hoffwn allu creu pytiau efo naratif mwy celfydd, ond mae hynny'n cymryd hyd yn oed mwy o amser na chyflwyno 'catalog' darluniadol o ddigwyddiadau yn nhrefn amser. Felly y cyfan a gewch chi gen i rwy'n ofni yw'r rhestri di-gelfydd hyn o'r darnau bach 'ffotogenig' o'm mywyd bob dydd.

Diolch i'r rhai ohonoch sy'n cysylltu'n ddi-ffael bob mis i ganmol fy ymdrech! Rwy'n falch iawn eich bod yn mwynhau'r cyfraniadau, ac rwy'n hynod o falch o dderbyn eich geiriau caredig.

Rwyf am gymryd seibiant o baratoi'r 'blogiadau' hir hyn am weddill yr haf, er mwyn canolbwyntio ar bethau eraill. Gobeithiaf ail-ddechrau, efallai mewn arddull mymryn yn wahanol, yn fuan yn yr hydref.

Dyddiadur hanner cyntaf y mis a gewch chi felly y tro hwn, mae gen i ofn.

Gorffennaf - mis y cloriau. Fues i'n tynnu lluniau ar gyfer dau glawr llyfr, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref, ac fe ymddangosodd un a dynnais rhyw fis neu ddau yn ôl ar y silffoedd llyfrau y mis hwn.

Ac ys gwn i a wyddoch pwy yw gwrthrych y llun hwn? Amser, a chyfrol ddifyr o stabl gwasg Gomer a ddengys!

Heblaw am y rhain, fe fues i'n gwneud cwpwl o ffafrau â hen ffrindiau ac achosion da.

Cefais daith hyfryd heulog ar hyd Llwybr Llên Llandre gyda'r camera er mwyn tynnu llun neu ddau ar gyfer taflen hysbysebu,

Llwybr Llên Llandre

Mae'r llwybr (sydd yn serth mewn mannau) yn werth ei weld drosodd a throsodd yn ystod y flwyddyn, gan fod yr olygfa yn newid yn unol â'r tymhorau, ond mae'r cerddi sydd wedi'u hargraffu ar hyd y lle, yn fythol wyrdd.

Mae'r llwybr yn cychwyn gyferbyn â phorth yr eglwys, fwy na heb. Ac os nad ydych wedi gor-flino, mae llwybr arall - llwybr 'etifeddiaeth' ar gael yn agos hefyd. Mae digonedd o le parcio i'w gael fel arfer yn y maes bach sydd ochr isaf i'r eglwys, a chofiwch gymryd sbec ar du mewn yr eglwys hefyd. Mae ffenestri hyfryd yno, a 'lan llofft' y mae oriel fach o luniau gan artistiaid lleol i chi fwynhau.

Y diwrnod canlynol cefais hwyl yn mynychu agoriad swyddogol gwesty Tynrhyd ger Pontarfynach (gyda criw Her Cylchdaith Cymru yn cyrraedd mewn 4 hofrennydd!).

A'r eiliad y daeth cyfle i dynnu llun y criw cyfan, fe ymddangosodd yr haul y tu cefn iddynt yn llachar ryfeddol, i ddifethau'r siawns!

Siân, Tynrhyd, gyda Rhys Meirion.

Roedd cyfle i fusnesau bach lleol arddangos eu cynnyrch yn ystod y dydd. Dyma Grefftau'r Bwthyn.

Elin Jones, yr Aelod Cynulliad lleol oedd yn agor y fenter, a hynny gydag araith fer bwrpasol iawn.

Ac i ddilyn (dan gysgod, ond yng nghanol glaw erbyn hyn!) darparwyd noson lawen hwyliog gyda Leonardo & Alexandro o'r Wladfa yn canu yn Sbaeneg a'r Gymraeg.

Greg Roberts a Chôr Ger y Lli

Rhys Meirion a Sioned Terry

A Theulu Bach dawnus Tynrhyd

A llun gorau'r diwrnod oedd Jon Bythaway yn cerfio gyda llif gadwyn

Ond criw drama Na Nog oedd yn dal ysbryd a phwrpas y diwrnod gyda'u perfformiad grymus, oedd yn tynnu sylw am yr angen i bawb ohonom drafod rhoi ein organau i helpu eraill ar ddiwedd ein hoes.

Uchafbwynt y mis oedd mynd i Lundain (am y tro cyntaf ers blynyddoedd) i gadw cwmni i ffanatig tennis ein tŷ, yn Wimbledon. Eisteddasom yn 'y duwiau' yn gwylio gêmau'r wyth olaf ar y cwrt canol. Profiad diddorol a dymunol iawn.

Do, fe fwrodd y glaw yn Wimbledon hefyd.

Torf go lew yn gwylio

Djokovic yn erbyn Cilic

Ys gwn i pwy sydd yn y blwch brenhinol?

Bryn Brechdanau, neu Henman Hill, neu Murray Mount.

Yr her fwyaf oedd dychwelyd i'r gwesty, ac yna ffendio ein ffordd adref y diwrnod canlynol, oherwydd trafferthion 'streic y tiwb' a oedd yn achosi'r 'anrhefn mwyaf yn Llundain ers 20 mlynedd' yn ôl darogan y papurau newyddion. Gwir eu geiriau.

Gorsaf Earls Court wedi cau am y dydd.

Yn ôl adref, ac fe lwyddais i lansio'r ceufad ar ddiwrnod gweddol dawel, er roedd y môr braidd yn frochus y rhan fwyaf o'r amser. Yr hyn nad yw'n amlwg o'r llun ydi ymchwydd ('swell') y môr ar y pryd. Dyma funud neu ddau lled lonydd rôl brwydro braidd yn erbyn y llif - dyna ddysgu i mi i beidio mynd y ffordd yma eto ar droad y llanw.

Aber yn rhy bell i ffwrdd heddiw!

Mae gweithgaredd a gwerthiant drwy'r asiantaeth wedi cynyddu yn ddiweddar, ac ymhlith y lluniau sydd wedi'u trwyddedu y mae hwn, ar gyfer 'double page spread' mewn cylchgrawn yn Rwsia. Os fyddwch yn digwydd mynd yno, ac yn digwydd gweld y cylchgrawn, bachwch gopi i mi os gwelwch yn dda!

Coleg y Brenin, Caergrawnt. Erbyn i'r asiantaeth a'r dosbarthwr gythru am eu talpiau hwy (70%), fe fydd digon ar ôl i mi gael - paned o goffi, siwr o fod. A hynny ymhen chwe mis i flwyddyn, os wela i liw'r arian o gwbl.

Yna fues i mewn priodas (Lois a Shôn), ac anodd oedd peidio tynnu'r camera o'r bag i gymryd ambell i snap, ond fe lwyddais i gael cwpwl go lew, a hynny heb fynd dan draed y ffotograffydd a'r ddau 'fideograffydd' swyddogol.

Hardd iawn - a'r briodferch yn edrych yn reit ddel hefyd ;-)

Lois gyda'r car hynod 'Carlton Lotus' o stabl 'Taclau Taid' o Sir Fôn.

Yn unol â thraddodiad, dyma orffen efo machlud a dynnwyd o Glarach.

Diolch am ddarllen. Welwn ni chi eto ymhen rhyw fis neu ddau, gobeithio. Mwynhewch eich gwyliau!

June 2015
29th June 2015 - 0 comments
So it's the start of June in Aberystwyth. What do you expect - a storm? If you peek long enough at the picture, you'll notice a police car that's ventured a wee bit too close to the action.

Any (police)car in a storm

You don't expect heavy weather to persist very long in June, and thankfully things brightened up quite considerably, allowing me to get this fairly nice shot of the river Leri for the local community paper - Y Tincer, in which I've had a monthly slot for quite a while now.

The power boat that's just heading out, appeared to speed up and down and around the Dyfi Estuary a little later, towing a rubber hoop of some sort. Forgive me if I am wrong. It was a sight I'd imagined taking place somewhere on the Costas, rather than tranquil Aberdyfi, home to wading and nesting birds.

Leri Boatyard

Thankfully there were no raucous distractions as the sun set over the coast path near Clarach, just the gentle rustling of the thrift and the swoosh of waves as they tickled the rocks below.


If you take the mountain road (only for those who are ace at reversing) towards Cwm Maethlon (I can't bear to use the silly English translation, sorry!), you'll see this ruin. Someone once suggested to me that it had been burnt down by 'Meibion Glyndŵr'. Can this be true? If you know of it's history, please leave a message at the end of this post.

Cwm Maethlon

By the time I reached Tywyn it was boiling hot, and I took refuge from the heat in the delightful church. Here you'll find one of the earliest surviving examples of Welsh, a memorial hewn into a pillar of rock.

'Tengru, dear and legal wife of Adgan. Pain endures [following the loss].

Cin [Cun] wife of Celen between Budd and Marciau'

Tywyn church

As by now I had failed to find wherever it was that I'd half intended to visit, I continued towards Craig yr Aderyn (Bird's Rock). An even narrower road!

Bird's Rock (Craig yr Aderyn)

The rock is popular with climbers, but access to the western side is denied between 1 April and 31 July, to protect the habitat of the chough, which nest there.

They're a bit too far to make out, but I suspect that these are some of the choughs returning to their nests. They were almost as noisy as a speedboat.

Chough (Brain Coesgoch)

I shouldn't have lingered so long, as dark clouds began to overtake me as I neared Bere Castle (Castell y Bere)

It would have been silly not to go the extra mile and investigate Llanfihangel y Pennant church.

Llanfihangel y Pennant

Mari Jones exhibition in the vestry - a little TLC needed I think.

Onwards and upwards towards Talyllyn, via Abergynolwyn, where I met a very nice local character - mental note to visit again and take the train around the lake).

Talyllyn / Tynycornel

I think my body was aching for chips as I reached Machynlleth, however I gathered all my resolve and just stopped at the Plas to snap the Owain Glyndŵr memorial. There were parents and children outside the community centre, all munching away, so it was quite hard to ignore the 'food vibes' and climb straight back into the car and head for home.

I feel strangely close to old Owain by now, after travelling around his final haunts with Prof. Gruffydd Aled Williams (book out shortly, and a radio programme. Watch this space for news!)

Owain Glyndŵr

For some reason (a chair and a dress), Marian and I have found ourselves in Llanidloes several times lately. While wandering around the back streets (there aren't many!) I noticed this beautiful street, whose name takes one back to the time that Llanidloes was a thriving industrial town, and everything probably didn't shut down at four on a Saturday afternoon.

Foundry Terrace

Davies family of Llandinam. Bethel Hall.

On the journey back, I noticed this planning notice at Dylife Gorge.
I do hope that the proposed wind turbine won't be too prominent, as this is a particularly beautiful, and geologically important place.

Dylife Gorge

There's a long tradition of bad graffiti on the Wynford Vaughan Thomas lookout/memorial (on the road between Dylife and Machynlleth). Despite a total restoration, the scratchers have been busy yet again. Many of the old 'marks' used to be "political", but nowadays it's just rather pathetic and totally lacking in purpose and humour.


Anyway, I had imagined an 'unusual' sunset picture, and on a glorious evening I set off to make the picture. My imagination had worked well, and if I was a 30 foot giant, I may, just may, have got the best sunset picture ever. In the meantime, while I wait for the world to shrink, or me to grow, this 'fairy sunset through the spooky wood' will have to do.

Forest sunset

I got a very, very full day of work which involved a lot of driving. I decided to set out the evening before the shoot, and took this picture of a place I've passed hundreds of times, but haven't really tried to capture.

Trawsfynydd Nuclear Power Station (being de-commissioned)

I only vaguely remember taking this picture of Cnicht - which has a beautiful silhouette - as I passed by Croesor on the 'scenic' route towards my destination, Llanberis.


Pen y Pass is magical at dusk, during fine weather. I don't fancy it mid-winter though. The picture is taken from the Snowdon 'PyG' path. Please note that PyG has nothing at all to do with pigs or pig herders or whatever (pigs up Snowdon, give us a break). Think more in terms of Pen y Gwryd (PyG), which is just down the road, maybe?

Pen y Pass

I'd promised a friend a better picture of Padarn Lake, and I was very happy to be able to make these. I've been there so many times, and this particular evening, everything was, at last, just perfect.

Llyn Padarn

Llyn Padarn - my A3 print of this went down very well!

Pete's Eats is well regarded as the place for hungry climbers and walkers, right in the middle of Llanberis. I'll have to visit some time, at least after I've found my sunglasses ;-)

Pete's Eats

Here's a typical scene which unfortunately won't be replicated in future. The RAF rescue service has been privatised.
I was brought up under the path of the helicopters as they flew from RAF Valley towards the mountains. Sometimes they'd dip down over our house as I played outside, and the winch-man would wave a greeting and shout out a big 'hello'. It made me feel special, and made the service real and human and personal.

This crew is on it's way back after a recce at the foot of Snowdon, as far as I could tell.


From Llanberis to Wrexham, with a minor detour, where I saw this herd of milk cows wending their way to the parlour.

Milking time ladies

At Wrexham I made a pile of pictures, which I can't show just yet, but are to do with excitig things like these...



A trip, this time to Cardiff, to see the football - Wales (1) v Belgium (0) :-)

Football - "CYMRU" & anthems.

Football - excuse me old chap, would you kindly sit still (or words to that effect)

Then a little portrait - this time for the magazine Cristion.

Lyn Lewis Dafis

At the last moment one evenig, Marian and I headed for the seaside to watch the waves kiss the shore, but a sudden urge made us gallop up Pendinas (an ancient hill fort at Aberystwyth) so as to catch the impressive view.

This lady was here before us, with her small children, on an outing to give them their first ever sight of a Cardigan Bay sunset.

Sunbeam selfie at Pendinas

And later, a blood red sun sinks into the sea beyond the Llŷn Peninsula...

Just a few yards from our home is Matt's Deli, a tiny gem of a place in Bow Street. They do breakfasts, lunches, and have oodles of high class products to take home, such as Welsh cheeses and preserves, honey and cooked meats. Matt also bakes his own bread, and wanted my opinion. Well, I don't know, I took some home - what do you think (see picture below)? Any good?
Absolutely gorgeous! Simple, filling, tasty and wholesome.


One fine afternoon, after long days and evenings working hard, we escaped to Tresaith, so that I could make a picture of the waterfall there, which descends from on high onto the beach. Think Hawaii, but on a lesser scale, and without the rainforest (or the heat, or people in flash shirts and interesting skirts and bronzed sinuous bodies).


Marian had never been to Penbryn, so a stop-off at the quaint, ancient church was required.


Allen Raine, the novelist, is buried here - real name Anne Adaliza Puddicombe. These places do make me sad though, as they bear evidence of a cultural and linguistic shift. The old grave stones are in Welsh, then suddenly the newer stones are all or mostly in English, and the nature of the names upon them change also, the two elements defining a fundamental break in cultural continuity.

Allen Raine

Between Penbryn and Tresaith there's a memorial stone which has no Welsh or English. It bears the Latin inscription

'CORBALENGI IACIT ORDOVS' [here lies Corbalengi the Ordovician].

Roman grave

Llangrannog (birth and resting place of a formidable Welsh lady, Cranogwen) was full to the brim, and so we carried on towards Aberaeron, as hunger pangs began to bite.


Aberaeron provided. The Harbourmaster was fairly quiet, and served us mouthwatering seafodd suppers, and contentedly, we leaned on the harbour walls to watch the sun set over the bay. Food-fate must have been on our side, as this was a magical moment to savour.

Aberaeron - unbeatable sky

I'm not much of a mingler, to say the least. I'm a bit of a loner to be honest. But it was worth the effort to atted the opening of the Philip Jones Griffiths exhibition at the National Library of Wales. I met old colleagues and old photographic frends such as Bernard Mitchell (who once gave me a lovely portrait of Philip Jones Griffiths, which I still treasure), and many others. Please, please make an effort to visit the exhibition, not just because it's been a huge undertaking for my old colleagues, but because it's superb, though-provoking, and a bit of an emotional rollercoaster. Be warned that some of the images in the show are very disturbing (well, PJG was known as a war photographer who helped change minds in America against the Vietnam war through his raw images and uncompromising narrative).

Philip Jones Griffiths. His daughters at the opening.

Finally (here we go again) I finish with a Clarach sunset, taken especially to conclude this monthly ramble in the usual manner.

Clarach sunset

Thanks for getting this far.

Mehefin 2015
29th June 2015 - 0 comments
Roedd hi'n ddechrau Mehefin yn Aberystwyth, felly doedd dim syndod bod y mis wedi agor efo storm. Yn cuddio dan y don, os craffwch, fe welwch chi gar heddlu, oedd wedi mentro braidd yn rhy agos at y ddrycin!

Car heddlu yn y storm

Tydi tywydd garw ym Mis Mehefin, siawns, ddim yn mynd i barhau'n hir, a diolch fyth fe gododd hi'n braf mewn pryd i mi dynnu hwn, o Iard Gychod Leri (Ynyslas), ar gyfer 'llun y mis' i'r papur bro lleol - Y Tincer.

Roedd y cwch modur a welir yn cychwyn i lawr at yr aber, ymhen dim, yn rhuo i fyny ac i lawr aber afon Dyfi, yn tynnu rhywun (neu o leiaf roedd yn edrych felly o bell - maddeuwch os ydwyf yn anghywir), ar rhyw fath o deiar/tiwb teiar mawr, llawn gwynt. Rhai i mi gyfaddef mai fy ymateb i bryd hynny, ac wrth feddwl yn ôl yw - 'plis ewch i rywle arall i wneud pethau di-fudd, gwirion, sgrechlyd fel hyn - neu well fyth, peidiwch a'u gwneud o gwbl'. Roedd yr holl beth mor anghydnaws i ardal mor dawel, gyda'i system eco sydd mor frau, a chymaint o adar yn chwilio am fwyd ac yn nythu...

Iard Gychod Leri

Dipyn tawelach oedd yr olygfa ryw fin nos ar lwybr yr arfordir rhwng Clarach a Wallog. Dim ond sŵn y gwylanod a'r tonnau'n curo gwaelod y clogwyn oedd i'w glywed.

Cryndod pinc a Chlarach

Os ewch chi ar y ffordd fynyddig, cul a throellog (peidiwch â mentro os nad ydych yn gallu bacio car yn handi) i gyfeiriad 'Cwm Maethlon' fe welwch chi'r adfail hwn ar fin y ffordd. Dywedodd rhywun mai tŷ wedi'i losgi gan Feibion Glyndŵr ydyw - ond ydi hyn yn gywir? Gadwech nodyn ar waelod y llith hwn os ydych yn gwybod am ei hanes, os gwelwch yn dda.

Cwm Maethlon

Roedd hi'n chwilboeth erbyn i mi gyrraedd Tywyn, felly roedd y naws y tu mewn i'r eglwys yn fendithiol i'r corff a'r enaid, ac yn cynnig seibiant oer braf cyn parhau â'r siwrne.

Yn yr eglwys y mae un o'r 'arysgrifau' hynaf yn y Gymraeg, ar garreg fedd hir cul, tebyg i gilbost giat.

'Tengru, gwraig annwyl gyfreithlon Adgan. Erys poen [y golled].

Cin [Cun] gwraig Celen rhwng Budd a Marciau'

Eglwys Tywyn

Gan i mi fethu ffendio fy ffordd i ble bynnag oeddwn wedi lled-fwriadu cyrraedd, ymlaen â fi i gyfeiriad Craig yr Aderyn. Dyna ffordd gul arall!

Craig yr Aderyn

Mae'r graig yn boblogaidd gyda dringwyr, ond o 1 Ebrill tan 31 Gorffennaf, gwaherddir dringo ar y wyneb orllewinol, er mwyn rhoi chwarae teg i'r brain coesgoch sy'n nythu yno.

Rwy'n cymryd mai rhai o'r brain (swnllyd iawn) hynny, sydd yn y llun hwn.

Brain Coesgoch

Rhaid fy mod i wedi oedi gormod wrth waelod y graig, oherwydd wrth i mi nesau at Gastell y Bere, roedd cymylau duon iawn yn symud i mewn o gyfeiriad y môr.

Castell y Bere

Wedi teithio mor bell, fe fyddai'n wirion i beidio mynd cam bach ymhellach i ymweld ag eglwys Llanfihangel y Pennant.

Llanfihangel y Pennant

Arddangosfa Mari Jones - angen mymryn o TLC dwi'n meddwl.

Ymlaen yn y glaw mân wedyn heibio Abergynolwyn (bydd raid ymweld eto), a stopio i dynnu llun Tynycornel a Thalyllyn llonydd.

Talyllyn / Tynycornel

Yna gorfodi fy hun i oedi ger y Plas ym Machynlleth er mwyn tynnu llun cofeb Owain Glyndŵr. Rwy'n teimlo'n reit agos at yr hen Owain, rôl bod yn olrhain ei lwybrau olaf gyda'r Athro Gruffydd Aled Williams.

Owain Glyndŵr

Am ryw reswm mae Marian a finnau wedi ffeindio'n hunain yn Llanidloes o dro i dro yn ddiweddar. Wrth grwydro'r strydedd cefn (does dim llawer ohonynt!), sylwais ar y teras del iawn yma, efo'r enw sy'n disgrifio peth o hanes diwydiannol y dre.

Foundry Terrace

Haelioni teulu'r Defisiaid, Llandinam eto. Neuadd Bethel.

Ar y ffordd yn ôl, heibio Dylife, sylwais ar hwn, sef rhybudd o gais cynllunio am felin wynt ym Maesmedrisiol, Pennant. Gobeithio o waelod calon na fydd y felin yn amharu ar yr olygfa hon, sy'n arbennig iawn, iawn. Mae eisoes un melin mymryn i'r dde i'r llun. Fel arfer, rwy'n derbyn yn weddol ddi-amod yr angen i godi melinau gwynt (neu o leiaf yr angen i fuddsoddi lawer iawn mwy o arian yn y maes ynni adnewyddol), ond mae meddwl y gallai'r olygfa ddirywio (mae'n hynod iawn o ran daearyddiaeth) yn fy nhristhau.

Dylife - melin

Yn yr un modd, y mae crafu pethau hurt ar gofeb Wynford Vaughan Thomas (sy'n enwi'r bryniau a'r mynyddoedd y tu hwnt - enwau Cymraeg wrth gwrs) yn fy ngwylltio. Mae'r gofeb wastad wedi tynnu ati y math o bobl sy'n hoffi rhannu eu 'gweledigaeth' mewn geiriau a symbolau, crafiedig a phaentiedig. Am sbel hir roedd y geiriau 'Cwdyn taeog" wedi'i grafu yn ddwfn i dalcen yr hen Wynford, a hefyd sloganau mawr gwrth-Saeson wedi'i paentio gerllaw. Ond nawr pethau trist o dwp sydd i'w gweld. Er weithiau mae'r rhain yn dweud mwy am ein sefyllfa bresennol nag ydi graffiti gwleidyddol. Er enghraifft pobl yn cam-sillafu enw eu tref (Rhonnda, os dw i'n cofio), a hwn, sydd am wn i yn chwerthin am ben enwau Cymraeg ein mynyddoedd.


Ta waeth am hynny, rhyw noson fe chwiliais am lun machlud 'gwahanol'. Ni chefais y llun oedd gen i yn fy meddwl (byddai'n rhaid i mi fod yn gawr 30 troedfedd o daldra i'w gael!), ond roedd hwn, y goedwig tylwyth-tegaidd yn gwneud y tro.

Machlud yn y goedwig

Cefais ddiwrnod o waith diddorol, eithriadol o hir, ac ar y daith i fyny i'r gogledd, dyma gipio'r olygfa sydd wedi fy nghyfareddu a'm dychryn ers i mi ddechrau teithio'r ffordd rhwng Môn ac Aber, nôl ar ddechrau'r 70au.


Does gen i ddim cof o gwbl o dynnu'r llun hwn o'r Cnicht, ond mae'n rhaid fy mod wedi oedi ger Croesor wrth gymryd y ffordd "hamddenol" tuag at Lanberis


Lle braf yw Pen y Pass ar noson olau, ond leciwn i ddim bod yno yng nghanol stormydd y gaeaf.

Pen y Pass

Roeddwn wedi addo i ffrind y byddwn yn ceisio cael llun gwell o Lyn Padarn iddo, a diolch i'r drefn, cyn i'r haul fachlud yn llwyr, fe gefais y "shot" yr oeddwn wedi dychmygu ei gael.

Llyn Padarn

Llyn Padarn - fe aeth y print A3 o'r hwn i lawr yn dda iawn!

Mae enw da iawn i'r bwyty / caffi hwn ar y stryd fawr yn Llanberis. Y tro nesaf, efallai, y bydd gen i amser i brofi'r danteithion sydd ar gael (well i mi wisgo sbectol haul ;-).

Pete's Eats

A bydd yr olygfa gyfarwydd yma ddim i'w gweld rhagor, gan bod y gwasanaeth achub bywydau (RAF) wedi'i breifateiddio. Ffarwel hen hofrenyddion melyn. Fe dyfais i fyny ar eu llwybr i'r mynyddoedd, a droeon wrth hedfan heibio ein cartref yn Sir Fôn, fe fyddan nhw'n hedfan yn isel heibio'r tŷ acw, a'r dyn yn hongian-eistedd wrth y drws ochr yn bloeddio 'helo' ac yn codi'i law i'n cyfarch. Dyddiau da. Ar eu ffordd adref o fod yn chwilio am rhywbeth neu rywun ger droed yr Wyddfa oedd y criw yma, yn ôl eu golwg.


Wrth fynd o Lanberis tuag at Wrecsam (gyda 'detour' bach i dynnu lluniau 'cefn gwlad'), fe welais yr olygfa yma o wartheg yn cerdded yn hamddenol i'w godro.

Gwartheg godro

A wedi cyrraedd Wrecsam, dyma dynnu lluniau lu nad wyf yn gallu eu rhannu eto, ond mae nhw'n ymwneud â phethau fel y rhain.



Trip arall wedyn i lawr i Gaerdydd i 1) weld y pêl droed, a 2) prynu dillad newydd ac gyfer ein gwyliau.

Roedd y pêl-droed llawer mwy difyr na phrynu trowsus.

Pêl-droed - "CYMRU" a'r anthemau.

Pêl-droed2 Rhywun yn methu eistedd yn llonydd! Roedd fel gafr ar dranau.

Yna portread bach (rwyf wrth fy modd yn tynnu portreadau o unigolion) - ar gyfer y cylchgrawn 'Cristion' y tro hwn.

Lyn Lewis Dafis

Ar yr eiliad olaf aeth Marian a finnau am dro i weld y môr gyda'r nôs, a phenderfynu bod jest digon o amser i garlamu i fyny Pendinas i weld y machlud. Whew!

Roedd y fenyw yma eisoes ar y top efo'i phlant - wedi mynd a nhw er mwyn iddyn nhw weld eu 'machlud cyntaf' go iawn, dros y môr.

Selffi Machlud Pendinas

Ac un arall, o Eryri yn goch.
Machlud Pen Llŷn

Mae Deli Matt, sydd drws nesaf i siop y cigydd yn Bow Street, yn handi iawn ar gyfer prynu danteithio neu byrbryd amser cinio. Bwyd eithriadol o flasus a iachus (ond ddim yn rhad). Os byddwch ar daith rhwng de a gogledd rywbryd, galwch yno am damaid (lle bach iawn ydi o) - cewch chi ddim eich siomi. Yn dilyn sgwrs am wahanol fara, mynodd Matt fy mod i'n rhoi fy marn ar ei fara cartref. Wele y bara cynnes ffresh. O! am wledd syml ond blasus.


Roedd hi'n braf rhyw brynhawn, a dyma ddianc rhag yr holl waith oedd yn ein nychu, a mynd am dro i Dresaith, lle roeddwn wir angen tynnu llun newydd o'r rhaeadr sy'n disgyn i'r môr, ar ochr ogleddol y traeth.


Doedd Marian erioed wedi bod yn eglwys hynafol Penbryn, felly dyma oedi yno.

Eglwys Penbryn

Yno y mae'r awdures Allen Raine - Anne Adaliza Puddicombe - wedi'i chladdu. Agwedd drist wrth fynwenta yw gweld yr holl gerrig beddau - yr hynaf yn y Gymraeg, ac yn sydyn ar rhyw bwynt, y cerrig mwy diweddar i gyd yn troi i'r Saesneg.

Allen Raine

Rhwng Penbryn a Thresaith y mae hen garreg fedd arall, heb air o Gymraeg na Saesneg arni, ond yn hytrach arysgrif Lladin.

'CORBALENGI IACIT ORDOVS' [Yma y gorwedd Corbalengi yr Ordoficiad].

Bedd Rhufeinig

Gan feddwl cael tamaid i'w fwyta yn Llangrannog, dyma fentro tuag ar y pentref hardd, man geni a chladdu yr enwog 'Cranogwen'. Ond gwae ni, roedd y lle yn orlawn, a dim lle hwylus i adael y car.


Felly ymlaen i Aberaeron wrth iddi nosi, a chael pryd braf yn yr Harbwrfeistr. Yna oedi i'r haul fachlud, a wir i chi, rwy'n meddwl ein bod ni wedi cael y fargen orau wrth yrru 'mlaen i'r dre fach brydferth honno.

Aberaeron - machlud

Tydw i'n fawr o un am ymgynnull gydag eraill - waeth i mi gyfaddef fy mod yn dipyn o 'loner' (dyna fues i rioed am wn i). Ond rhaid oedd mentro i agoriad arddangosfa arbennig iawn, iawn, gwaith oes Philip Jones Griffiths, yn y Llyfrgell Genedlaethol. A wedi cyrraedd, dyna braf oedd cwrdd â hen gyd-weithwyr a rhai ffotograffwyr yr oeddwn wedi ymwneud â nhw ers stalwm, megis Bernard Mitchell o Abertawe. Roedd fy ngyrfa ffotograffig fel petai wedi troi mewn cylch cyfan, oherwydd darllen llyfr "Vietnam Inc" (gan PJG) a'm denodd i gymryd diddordeb angerddol personol, ac yn ddiweddarach, proffesiynol, yn y maes. A phan oeddwn yn edrych ar ôl y casgliad ffotograffau yn y Gen yn y 90au, roedd yn uchelgais gen i i gael cynrychiolaeth o waith Philip Jones Griffiths i'r casgliad Fe fethais, ond mae'r rhai gwell a ddaeth ar fy ôl wedi cael y maen hwnnw i'r wal, diolch i'r drefn, ac i raddau mwy na fyddwn wedi gallu rhagweld bryd hynny.

Philip Jones Griffiths. Merched y ffotograffydd adeg lansio'r arddangosfa.

Ac ie wir, yn ôl fy arfer, fues i allan i dynnu llun machlud i gloi'r llith misol. Lle gwell na llwybr yr arfordir uwchben Clarach!

Machlud Clarach

Diolch am ddarllen.

Coron Maldwyn
19th June 2015 - 0 comments
Rwyf wedi sôn droeon yn y fan hyn fy mod i'n methu dangos lluniau am ryw reswn neu'i gilydd.

Un o'r achlysuron hynny yr oeddwn eisiau bloeddio amdano, ond yn bendant doedd wiw yngan gair, oedd pan y gwahoddwyd fi i roi cynnig ar dynnu llun Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau.

Fe ddaeth y gwneuthurwr rhadlon, Mr John Price draw efo'r goron un noson (wedi'i chuddio mewn blwch sylweddol) Trwy gydol y diwrnod canlynol, fe fues i'n potsian 'ar ben y bwrdd' yn ceisio tynnu llun a fyddai'n gwneud cyfiawnder â gwaith cain y gof arian o Fachynlleth.

Mae'r Goron yn gylch o arian, gydag enw'r Eisteddfod ar y blaen, a hollt bob ochr sy'n cynrychioli yr Afon Camwy. Mae nod yr Orsedd, fel pont ar y blaen, wedi'i osod ar garreg fach glan môr a ddaeth o'r traeth lle glaniodd y Mimosa, ac yna bob ochr, mae darnau llyfn o arian sy'n cynrychioli cofebau'r glanio, ac yna mae blodau sy'n nodweddiadol o'r paith, wedi'u ffurfio o arian, a chyda phetalau o ledr coch. Yn olaf, mae'r Goron wedi'i leinio efo cap glas o ddefnydd gwisg Gorsedd y Wladfa.

I'r rhai ohonoch sydd ddim wedi ceisio tynnu llun rhywbeth sgleiniog o'r fath - mae'n anhygoel o anodd! Fel arfer mae rhywun yn goleuo'r gwrthrych ei hun, ond yng nghyd destun gwrthrych sy'n fandiau o arian 'adlewyrchol', rhaid meddwl mwy am oleuo'r cefndir 360 gradd, na'r gwrthrych ei hun - oherwydd yr adlewyrchiadau fyddwch chi'n gweld yn y metel mewn gwirionedd, nid y metel ei hun. Meddyliwch eich bod yn gorfod tynnu llun drych sydd ar ffurf cylch, a bod wiw dangos eich adlewyrchiad chi, na'r ystafell yn y llun! Hyn yn ogystal â goleuo'r gwrthrych yn uniongyrchol er mwyn gallu gweld y cap glas yn ogystal a'r darnau arian.

Fel sy'n gallu digwydd, yr ymgais gyntaf i gael llun oedd un o'r gorau, o ran defnyddio cefndir glas (glas o ddefnydd Gorsedd y Wladfa). Wedyn aethpwyd trwy sawl cynnig ar onglau gwahanol, a chefndiroedd gwahanol. Ceisiwyd smwddio mwy ar y defnydd cefndir, ac fe weithiodd hynny'n dda. Dro ar ôl tro, roedd llun yn edrych yn reit ddau 'yn y camera', ond wrth ei chwyddo'n fawr ar y cyfrifiadur, fe fyddai adlewyrchiad oedd ddim i fod yno, yn ymddangos!

Yn y diwedd (roeddwn wedi llawn fwriadu gwneud hyn), tynnwyd y cefndir glas i ffwrdd, a gosodwyd un gwyn, pur yn ei le (hynny yw, wedi hyd yn oed mwy o waith smwddio...). Os rywbeth, roedd hi'n anoddach cael llun efo'r cefndir gwyn. Roedd raid creu 'pabell' o ddefnydd, a gosod dau olau LED bach iawn y tu mewn i'r 'babell', a rheini wedi'i gorchuddio mewn defnydd gwyn tryloyw, ac yna 3 golau (i gael yn agos i 360 gradd) yn sgleinio i mewn o ochr y babell, trwy ddefnydd gwyn tryloyw, ac yna un fflach isel yn tanio i lawr i oleuo'r cap glas.

Rwy'n hoffi rhai o'r lluniau glas, ond y rhai gwyn sy'n gweithio orau i mi. Wn i ddim a ydych chi'n cytuno?

Roeddwn i'n teimlo fel curadur yn y Llyfrgell Genedlaethol eto, yn gwisgo menyg gwynion wrth leoli a symud y goron - mymryn y ffordd hyn, mymryn y ffordd arall...

Rwy'n hollol hapus efo'r canlyniad, ac nawr bod y Goron wedi'i throsglwyddo gan Cymdeithas Cymru-Ariannin i Bwyllgor Lleol yr Eisteddfod, mae'n saff i mi ddangos cwpwl o'r lluniau i chi.

Os daw byth gyfle arall i dynnu llun coron, rwy'n meddwl mod i wedi dysgu dipyn go lew am reoli adlewyrchiadau cymleth, ac fe ddylwn allu cyflawni'r dasg mewn tipyn llai o amser! Ond efallai na chai'r fath gyfle euraid eto. Pwy â ŵyr.

Roedd hi'n fraint cael gwneud hyn, ac roedd yn brofiad byth-gofiadwy, ac yn ymarfer ardderchog mewn hunan ddisgyblaeth o ran symud goleuadau fesul milimetr, a dysgu peidio agor fy ngheg fawr!

Diolch am ddarllen

Mai - May 2015
07th June 2015 - 0 comments
[Scroll down a little for the main English text]

Fe wibiodd mis Mai heibio yn llawer rhy handi, a does dim llawer o ffotograffau i ddangos hynt a helynt y mis.

Daeth hen ffrind coleg na welais ers tua ugain mlynedd i aros acw am wythnos efo'i bartner, ac felly does fawr ddim ôl gwaith camera i'r wythnos honno. Yna fe wnes i gwpwl o jobs ar gomisiwn (felly alla i ddim eu dangos hwy ar y funud).

Braf oedd cael rhoi sgwrs i Ferched y Wawr - cangen Aberystwyth, a brafiach fyth oedd derbyn ganddynt rhyw £155 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch o galon os ydych chi'n darllen hwn - rhodd anhygoel o hael. Gan fy mod i wedi sgwrsio yn Aber yn lled ddiweddar, roedd rhaid i mi newid cryn dipyn ar y cynnwys, a chefais ganiatad i gynnwys rhai lluniau o un o gomisiynau diddorol y mis cynt. Sgŵp i MyW!

Fe fues i i lawr yng Nghaerdydd am ddeuddydd i gario bagiau Marian, a llwyddais i fynd am dro efo'r camera bach poced yn ystod un prynhawn.

Roedd sawl rheswm arall hefyd pam nad oedd llawer o hwyl tynnu lluniau - pwl o salwch a llawer o bethau bach i'w gwneud, megis twtio'r ardd, digido hen fideos o'r plant yn fach... dw i'n dal wrthi efo'r rheini. Esgys parod am ddiffyg lluniau ar gyfer mis Mehefin, siwr o fod!


May disappeared very quicky with little new photo activity. A couple of commissions - so I can't show those, a week's visitation by old friends we hadn't seen for about 20 years, a trip to Cardiff to carry Marian's luggage (!), all of which somehow took a big chunk of the month.

I did give a talk to Aberystwyth Merched y Wawr. This was a nearly new talk (as I'd only recently given my usual talk in town). I received from them a donation of £155 for Wales Air Ambulance. Amazing, and many, many thanks to them for their generosity. I was given permission to show a few pictures from one of last month's commissions, so they got a 'scoop'!

There were many other reasons for my dismal catch of photos this month, such as gardening odd jobs, digitising old home videos (this exciting task continuezzzzzz), and I didn't really feel too bright at all for most of the month.

Clychau'r gôg yng nghoedwig Gogerddan.
Bluebells in Gogerddan Woods.

Trwsio'r ffordd ger Tal-y-bont
Tarmac at Tan-y-bont

Glas y gors / Forget-me-not / Myosotis > Llandre

Un o'r cannoedd o luniau o weithgareddau lleol rwy'n eu tynnu er budd y gymuned
One of hundreds of pics I take for community use

Ar y ffordd i Gaerdydd (cyn cyrraedd Aberhonddu)
On the way to Cardiff, (near Brecon)

Ger maes parcio yng Nghaerdydd
Near the car park in Cardiff

Radio go ryfedd yng Nghaerdydd
A strange radio in a Cardiff shop window

Arddangosfa 'Brau' (Serameg) yn yr Amgueddfa Genedlaethol (ceisiwch ei weld os ydych yn y ddinas - hwn + gwaith Chalkie Davies yn werth y siwrne)
'Fragile' (ceramics) exhibition at the National Museum (a Must See, together with the Chalkie Davies spread))

Panda llwglyd - marchnad Caerdydd
Hungry bear, Cardiff Central Market

Fues i am hydoedd yn ceisio casglu arian i'r rhain - mae'n bryd ail feddwl am eu strategaeth codi arian o dŷ i dŷ. Byth eto!

I spent parts of several days trying to collect donations for this cause - time for a strategic door-to-door rethink!

Mae Caernarfon wedi newid ers i mi droedio ardal y marina ddiwetha
Things have changed yet again in Caernarfon

Trip i Nant-yr-arian efo'r ffrindiau - dydych chi ddim yn cael hyn yn Brighton!
Impressing our guests with an arial display at Nant-yr-arian - you don't see this in Brighton!

Memento o brotestiadau diweddaraf 'Cau Pantycelyn'
Pantycelyn Hall closure back on the books

Cais am lun. Wnes i ddim mwynhau tynnu hwn.
Road to... infinity (or heaven?) I didn't enjoy this shoot. It was actually quite busy and the cars and lorries belted down the road.

Blas o fis Mehefin!
Nudging into June - yes, I said June

Ac eto (er mwyn cloi efo machlud o fath)
And again (to close with a sunset of sorts)

Diolch am ddilyn
Thanks for following

Ebrill - April 2015
02nd May 2015 - 0 comments
[Scroll down for the English bit]

Arwydd o'r gwanwyn ger Llyn Brianne : Signs of spring at Llyn Brianne.

Eglwys - St Paulinus, Ystradffin - Church

Prysurdeb yn Hendy-gwyn : The busy streets of Whitland

Dim lliwiau prudd ym Mhentregalar - Brigh blue in Pentregalar

Rhwyf-fyrddio yn y Bae : Laura lights up the Bay

Penawdau hurt a hyll yn y papur lleol : Take care of the truth, it's election time.

Eironi Ebrill yw mai dyma'r mis mwya cyffrous a'r prysuraf erioed i mi o ran gweithgarwch gyda'r camera, ond eto dyma'r prinaf o ran nifer y lluniau yr wyf yn gallu eu dangos!

Y mis hwn mae fy nhrwyn wedi bod ar y maen (neu ar gefn y camera), a'r ddwy law ar yr olwyn yrru ar gyfer prosiect cyffrous a fydd yn dwyn ffrwyth ym mis Mehefin. Taw piau hi tan hynny.

Ar ben hynny, mae prosiect cyhoeddi arall y bues i'n ymwneud ag ef ar raddfa fach iawn, ar fin ymddangos o'r wasg unrhyw funud, a does wiw i mi blabio am hwnnw 'chwaith, rhag cawlio yr ymdrechion swyddogol i'w hyrwyddo.

Ciwio am wledd o wrando - Côr Cymru - Single file please for the final.

Fe ddechreuodd y mis yn dda iawn, gyda gwahoddiad i adrodd stori 'gefn llwyfan' ffeinal cystadleuaeth Côr Cymru i Cymry Fyw. Piciwch yma i weld eu detholiad hwy o'r lluniau.

A'r côr gorau yw... awê : And the winner is...

Rwy'n arfer gorffen gyda machlud, felly dyma chi un arbennig. Bae Ceredigion - ble arall!

Ag o ran y prosiect diwetha - wel, dyma damaid i aros pryd.


April was incredibly busy this year with commissions filling most of the time. If I wasn't actually on the road taking pictures, I was preparing for the journeys or doing the post-production. I had intended to visit fotofringe, a kind of speed dating event for picture researchers and picture libraries held in London, but it was not to be.

The month started well, with a day spent back stage at the Côr Cymru (Welsh Choir of the Year) final, taking pictures for BBC Cymru Fyw. You can see their choice of my pictures here.

The rest of the month was spent mainly preparing/ travelling/ shooting/ post-production for another project. Indeed, for me a 'dream project' as it combined my love of photography with my passion for Welsh produce and small rural businesses. All will be revealed in good time!

Here's a morsel to whet the appetite.

And as usual, I leave you with another glorious Cardigan Bay sunset.
March 2015
08th April 2015 - 0 comments
March 2015

I thought things had been rather quiet since my last post, but looking back on an array of photos, I seem to have been reasonably busy!

I had a couple of great days following in the footsteps of Owain Glyndŵr! One day at Tonfanau looking for Owain's cave, and another between Leominster and Hereford photographing a very fine house.

The pictures, together with a few more are destined for an important volume by Prof. Gruffydd Aled Williams charting the 'last days of Glyndŵr', to be published shortly by y Lolfa.

The heavily eroded pebble beach at Tonfanau was littered with collapsed red brick walls, presumably from the old military camp nearby. The camp where (to paraphrase a commemorative plaque) those that entered the gates as boys, left as men.


It was nice to visit Llangelynnin church once more - all ancient, and damp and quaint and down to earth.

With Marian on a work trip to Caernarfon, I (amongst other things) went for a jaunt around some easily accessible places.

Nant Gwynant

Dolbadarn Castle

The Dinorwig area looked very sad, with many derelict cottages scattered around (too close to the quarry spoils, perhaps?).

Here's Deiniolen in the distance, an old, hard, quarrying village, relatively high up in the cold mountains, and famous for an amazing band.

Then there came a rush of 'people pictures', including Dr Heather Williams of the Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies. Congratulations to her on winning the the M Wynn Thomas award.

It was the people, not the sun which caught my eye at rhe Eclipse.

The very low tide at y Borth was a big disappointment, as the hoped-for pictures of the sunken forest didn't really materialise - the sand has already returned to hide the scene. Still, I can't complain, as I already have some cracking shots of the place with all those stumps revealed.

Here's what it's like now.

On another stroll along Borth beach I noticed this interesting pattern and texture.

Local residents can apply for a licence to lay nets along the beach. Here's a resident who's caught a plump sea bass.

I can't go for more than a couple of weeks without a breath of Ceredigion mountain air.

The Photography Show was on at the NEC, so a comfortable train ride down the line, and I was there, drooling over all the latest must-have bits and bobs. And I did indeed come away with another full frame camera, this time a Canon 1Dx. I'll now have two large sensor cameras, each different enough to give me a greater scope of use, but similar enough to act as backups for each other. I now hardly ever use crop sensor cameras, except when i need extra reach with a long-ish zoom lens.

Also on the train back with me was a bundle of superb Hahnemuhle printing paper.

Here's one of the first pictures taken with the new camera, a Chaffinch at Bwlch Nant yr Arian.

Later on, these Red Kites.

There's an awful lot to learn about the new camera, and not just what the buttons do, but also the subtle differences in the way the old and the new handle different conditions.

This picture of the creeping sea mist enveloping the valleys out towards Blaenplwyf, taken with the 1Dx. would have looked different, and to my eye somewhat better, had it been taken with the 5Diii. The bird pictures on the other hand, are better on the 1Dx.

As per usual, I'll leave you with a Clarach sunset, indeed as a special bonus - two Clarach sunsets!

Thanks for reading.

Mawrth 2015
08th April 2015 - 0 comments
Mawrth 2015

Roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi cael mis Mawrth reit dawel, ond o edrych nôl ar y lluniau, roedd hen ddigon ar y gweill gennyf!

Cefais ddeuddydd diddorol iawn yn dilyn ôl traed Owain Glyndŵr, un diwrnod yn tynnu lluniau o 'Ogof Glyndŵr' ger Tonfanau, ac un arall yn ymweld â thŷ hynod iawn nid nepell o Lanllieini (Leominster). Mae'r lluniau hyn, a nifer o rai eraill, ar gyfer llyfr ar hanes dyddiau olaf Glyndŵr, gan yr Athro Gruffydd Aled Williams, a fydd yn ymddangos o stabl y Lolfa cyn bo hir.

Roedd y traeth yn Nhonfanau yn frith o waliau brics wedi'u dymchwel. Rwy'n cymryd mai muriau hen adeiladau milwrol yw'r rhain, a bod erydiad yr arfordir yn rywbeth i wneud â'u tranc.

Ffermdy hynafol Cefncamberth?

Roedd hi'n braf cael y cyfle unwaith yn rhagor i ymweld ag eglwys Llangelynin, sydd uwchben y môr, islaw'r ffordd i gyfeiriad Dolgellau, wrth deithio o Donfanau.

Fe fuodd Marian yn darlithio i griw yng Nghaernarfon, a thra i fyny yno, fe fanteisiais ar y cyfle, ymhlith pethau eraill, i dynnu lluniau o gwmpas rhai llefydd hygyrch yn Eryri (doedd dim digon o amser i wneud llawer).

Nant Gwynant

Castell Dolbadarn

Roedd golwg trist iawn ar ardal Dinorwig.

Dyma i chi hen bentref chwarelyddol Deiniolen yn y pellter.

Fe ddaeth plwc o dynnu lluniau pobl, yn eu plith Dr Heather Williams o'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd yn Aberystwyth. Llongyfarchiadau mawr iddi hi am ennill gwobr M Wynn Thomas.

Pobl oedd canolbwynt fy sylw hefyd wrth iddynt wylio'r 'clip' neu'r diffyg ar yr haul o flaen Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth.

Siom oedd y llanw isel iawn yn y Borth. Roeddwn wedi gobeithio, a hithau'n braf, i gael golygfa dda o'r goedwig hynafol, ond erbyn hyn y mae'r tywod wedi cuddio'r rhan fwyaf o'r boncyffion unwaith yn rhagor.

Ar adeg gwahanol, roedd effaith golau'r haul ar y grisiau hyn yn hynod o hardd.

A dyma un o drigolion y pentref yn dal draenog y môr yn ei rwyd hir ar y traeth (mae hawl gan drigolion gael trwydded i osod rhwydi am ran o'r flwyddyn).

Wrth gwrs, roedd yn rhaid i mi gael fy nogn misol o awel y mynydd, ac fe fues i am dro cwpwl o weithiau i odre Pumlumon - a does dim amheuaeth bod hi'n "Wyllaidd' iawn yno yr adeg yma o'r flwyddyn.

Rwyf wedi hen ddysgu y dylid wastad cario camera 'sbar' ar unrhyw fath o daith ffotograffig - comisiwn neu llun ar hap. Roeddwn wedi ffansio prynu camera newydd, fel bod gen i ddau gyda sensor maint llawn (prin ydw i byth bellach yn defnyddio'r camerau gyda sensor "crop" - heblaw os oes angen tynnu lluniau â zoom reit hir). Felly gydag enillion y flwyddyn yn llosgi twll yn fy mhoced fe fues i draw am y diwrnod i'r Sioe Ffotograffiaeth yn yr NEC. A do, ymlwybrais adref ar y tren gyda Canon 1Dx dan fy nghesail, a hefyd pentwr o bapur argraffu hyfryd iawn, iawn gan Hahnemuhle.

Un o'r lluniau cyntaf i mi dynnu gyda'r camera newydd oedd hwn, sef ji-binc ym Mwlch Nant yr Arian.

A'r rhain o farcutiaid

Mae dipyn o waith dysgu gen i, ac arfer ar sut y mae ansawdd y lluniau yn amrywio rhwng yr hen gamera (5Diii) a'r un newydd. Tydyn nhw ddim yr un fath, ac rwyf eisoes wedi ffendio bod yr hen un yn well ar gyfer golau isel.

Fe fyddai'r un llun o hwn, dyweder (niwl o'r môr yn ymestyn yn gyflym ar hyd llawr gwlad, a Blaenplwyf yn y pellter), wedi bod yn un gwell efo'r hen gamera.

Yn ôl fy arfer bellach, dyma gloi efo dau fachlud a dynnwyd ger y traeth yn Clarach,

Diolch am ddarllen
Chwefror - February 2015
13th March 2015 - 0 comments
Oherwydd prysurdeb anarferol a phoblemau cyfrifiadurol, rwyf wedi gorfod gadael llonydd i'r "newyddion misol" arferol ers sbel.

Yn ystod mis Chwefror fe fues i'n tynnu lluniau ar gyfer sawl peth, gan gynnwys rhai i'w gosod ar wefan Cymru Fyw y BBC.

Dyma linc i'r lluniau a ddewiswyd ganddynt i'w harddangos.

Nawr bod y gliniadur wedi'i drwsio, rwy'n gobeithio ail-ddechrau'r pytiau misol o ddiwedd mis Mawrth.


My regular monthly updates came to a grinding halt recently due to a combination of broken laptop and being just too busy.

I took quite a few pictures for the BBC Cymru Fyw website during February, and you can find their choice here.

Now that the laptop is repaired (I got it back today!), I hope to re-start my monthly ramblings from the end of March onwards.

Diolch am ddarllen / Thanks for reading.

17th February 2015 - 0 comments
Maen nhw'n ddyddiau du iawn ar wasanaethau cyhoeddus o bob math, ac yn enwedig ar y gwasanaethau llyfrgelloedd ac amgueddfeydd amrywiol.

Pan oeddwn i'n hogyn ifanc, fe fyddwn yn mynd efo fy mam o dro i dro i Fangor. Roedd o wastad yn ddiwrnod hir, diflas; yn antur anghyfforddus mewn dillad gorau, yno ac yn ôl ar fws Crosville, gyda lot o gicio sodlau a diflastod affwysol rhwng y ddwy siwrnai. Ond weithiau, yn hytrach na chael paned yng nghaffi'r Penguin cyn dychwelyd, fe fyddai mam yn fy llusgo i Amgueddfa Prifysgol Bangor i weld y creiriau. Doedd yr hen gesys arddangos fictoraidd, trwm ddim yn rhyw apelgar iawn, a doedd dim ymgais o gwbl i ddehongli'r cynnwys i blant bach blin, hyd y cofia i, ond roedd gan Mam y ddawn i weu storiau. Fe fyddai bygythiadau hwyrol sŵn traed llygod bach yn y lofft yn y tŷ yn troi'n rasys cyffrous rhwng llwythi llygod hynafol a pharchus; fe fyddai'r ffaith fod tegan wedi'i symud o'i leoliad dan y grisiau yn arwydd bod y tylwyth teg wedi bod yn chwarae efo fo yn ystod y nos; fe fyddai cwt ar y bys yn troi'n gyfle i adrodd hen rigymau ac yn sbardun i greu rhai newydd. Ac fe fyddai ymweld â'r amgueddfa yn gyfle i adrodd storis am ein hanes a hirhoedledd ein tras, a'n dycnwch ni'r Cymry cyffredin yn wyneb anghyfiawnder. Roedd y creiriau'n ddolenni annibynnol, treuliedig ac anghyflawn, a geiriau Mam rywsut yn eu pwytho ynghyd er mwyn fy nghysylltu i â dechreuadau cynharaf dyn ar y ddaear hon. Roedd y profiad yn gwneud i mi deimlo fy mod i'n perthyn i'r bobl ac wedi fy ngwreiddio i'r tir, ac roeddynt yn fy arfogi yn erbyn anghyfiawnderau'r byd.

Roedd yr athro hanes a ddysgodd fy mam yn yr 1930au yn athro hanes i mi yn y 1970au!

Yn fy arddegau, fe ddaeth y llyfrgell leol yn bwysig iawn i mi. Roedd prifathro'r ysgol uwchradd wedi cloi'r llyfrgell am ryw reswm. Ni chefais y cyfle 'rioed i fynd i'r llyfrgell ysgol honno pan oeddwn yn ddigon hen i weld ei hangen. Roedd ambell athro (megis yr athro celf, diolch iddo - meddyliwch geisio dysgu hanes celf heb allu dangos esiamplau o waith yr artistiaid y cyfeirid atynt!) wedi creu 'micro-lyfrgell' yn ei ystafell ddosbarth, ond serch ei ymdrech, doedd hynny ddim yn ysgogi rhywun i ddilyn ei drwyn o un pwnc i'r llall nac i fagu'r arfer o ddarllen ac ymchwilio'n annibynnol. Roedd yr athrawes Saesneg yn dod â llyfrau o'i chartref i'w benthyg i ddisgyblion oedd yn dangos diddordeb mewn llenydda.

Gan fod y llyfrgell wedi'i chau, roeddwn i'n teimlo bod benthyg a darllen llyfrau, a darganfod gwybodaeth a mwynhau llenyddiaeth yn rhyw fath o weithred beryglus, tanseiliol i awdurdod. Yna darganfyddais y llyfrgell leol i lawr yn y dre, a bûm yn ymwelydd cyson am rai blynyddoedd. Ond ffuglen oedd yno'n bennaf, a llyfrau ffeithiol oedd wir yn mynd â'm bryd, ac roedd yn rhaid archebu'r rheini, a disgwyl, a disgwyl, weithiau am wythnosau iddynt gyrraedd. Erbyn hynny, roedd egin dân y diddordeb yn aml wedi diffodd. Ond rwy'n fythol ddiolchgar i lyfrgell fach Biwmares am fod mod glên efo mi, ac am fy helpu i ddiwallu'r awydd i ddysgu am bopeth o hanes y Rhufeiniaid ym Môn, i sut i fynd yn newyddiadurwr (gorfod dysgu llaw-fer, yn anffodus, ond stori arall yw honno), i sut i drwsio injan BSA Bantam.

Rywsut, ar yr eiliad olaf posib, fe benderfynais fy mod am fynd yn llyfrgellydd. Ac ar y siwrnai addysgol honno o adael ysgol i fynd i weithio i'r Llyfrgell Genedlaethol, fe ddeuthum ar draws darlithydd ifanc o Brifysgol Abertawe, a ddaeth i Aber i roi cyfres o ddarlithoedd ar hanes Cymru. Dr John Davies oedd y dyn hwnnw, ac fe gyflwynodd ei hun ar ddechrau ei ddarlith gyntaf (yn Saesneg) gan ddatgan 'sylwch fy mod yn gwisgo tei coch. Mae arwyddocâd i hynny'. Y cof sydd gen i yw ei fod yn defnyddio arddull darlithio fy hen athro hanes o ddyddiau ysgol, sef 'saethu ffeithiau' atom, fel pe baent yn fwledi o 'Tommy gun".

Rhyfeddais wedyn, flynyddoedd yn ddiweddarach ei glywed yn traethu yn hamddenol ac i bwrpas, ac mewn ffordd afaelgar, heb arlliw o geisio profi dim, na lladd brwdfrydedd ei gynulleidfa efo'r tanio diddiwedd cyflym. Flynyddoedd wedyn, a finnau'n gorfod mynd i Abertawe (neu Gaerdydd?) i arwyddo copiau o Wales of one hundred years ago - (llyfr gan yr Athro Paul O'Leary a finnau), pwy oedd yno i roi 'darlith' neu sgwrs adeg y lansiad ond John Davies. Roeddwn i'n poeni i'r byw na fyddai'n cymeradwyo'r llyfr, oedd wedi'i baratoi ar gyfer pobl gyffredin, nid ysgolheigion pennaf y wlad; ond roedd yn hynod ffeind a charedig, er nad oedd, fe dybiwn, yn gweld rhyw werth mawr ynddo!

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Fe welais ef ganwaith wedyn yn darllen yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac roedd fel arfer yn fy nghyfarch gyda gwên fach a nod o'i ben, er nad wy'n credu ei fod yn cofio pwy oeddwn. Chawson ni erioed y sgyrsiau yna roeddwn yn ddistaw bach yn dyheu i'w cael am ambell bwnc, neu am ryw berl neu'i gilydd roeddwn wedi ddarganod ar hap yn y casgliadau ac y tybiwn y byddai ganddo ddiddordeb ynddynt. Dyna felltith y swildod, neu'r diffyg hyder, sydd yn aml fel mantell anweladwy o'm cwmpas.

Yn ei lyfr Hanes Cymru, fe lwyddodd John Davies i aildanio diddordeb yn ein hanes a'n gwlad. Yn yr un modd ag yr oedd Mam yn llwyddo i ddod â chreiriau'r amgueddfa'n fyw i fachgen bach drwy adrodd hanesion o'u cwmpas, fe lwyddodd ef i adrodd stori lawer mwy ar raddfa epig; fe bwythodd y darnau ynghyd, a dod â'r gyfan yn fyw ac yn berthnasol i ni fel cenedl. Fe roddodd ein bodolaeth mewn cyd-destun, ac wrth wneud hynny, ein dyrchafu a chadarnhau ein hawl i fod.

Mae amgueddfeydd a llyfrgelloedd wedi newid yn llwyr ers fy nyddiau ysgol i. Maen nhw'n hygyrch ac yn olau a'r gorau ohonynt yn gallu ysbrydoli a'n haddysgu mewn ffordd adloniannol. Mae rhai yn dadlau bod popeth sydd ei angen ar gael i ni ar amrantiad ar y we, ac yn wir y mae llyfrgelloedd ers blynyddoedd yn cynnig mynediad rhad i'r perwyl hwnnw. A heb y mynediad hwnnw, sut y mae disgwyl i blant a phobl ifanc o gefndiroedd tlawd gael mynediad at ffynonellau print neu rithiol a allai ateb eu cwestiynau, neu ehangu eu gorwelion?

Roedd y prifathro yn ffôl i gau'r llyfrgell ac amddifadu'r plant dan ei ofal o'r siawns i ddarganfod y byd a hwy eu hunain. Yn yr un modd y mae'r cynghorau sy'n atal y gwasanaethau llyfrgell ac amgueddfeydd yn bygwth codi gris cyntaf yr ysgol y tu hwnt i gyrraedd y rhai sydd fwyaf angen yr hwb yna i ymestyn yn uwch.

Roedd John Davies yn ddyn llyfrau, yn amsugno a chofio pob gair a ddarllenai, ac wrth gofio amdano a'i gyfraniad amhrisiadwy, da fyddai atgoffa ein cynghorau a'n Llywodraeth werth ein system lyfrgelloedd ac amgueddfeydd, i lawr o'r Llyfrgell Genedlaethol i gangen Biwmares, o'r Amgueddfa Genedlaethol i lawr i'r gwasanaeth sirol.

Mawr yw ein colled fel cenedl, a chydymdeimlwn â theulu John Davies ar adeg mor drist.

Cofio 50 mlynedd ers protest Cymdeithas yr Iaith (yr oedd John Davies yn un o'r sefydlwyr) - protest Pont Trefechan

Capel Bwlchllan, Ceredigion.
Y flwyddyn gron - pics of the year
02nd January 2015 - 0 comments

Roedd 2014 yn flwyddyn o afael ynddi i gwblhau camau allweddol ar brosiect tynnu lluniau/ymchwil sydd wedi bod ar y gweill ers tua dwy flynedd nawr. Rwy'n mawr obeithio y bydd ffrwyth yr holl ymdrech i'w gael ar ffurf llyfr cyn diwedd y flwyddyn hon.

Yn hytrach na'r llith misol arferol, rwyf wedi gosod detholiad o luniau'r flwyddyn mewn albwm ar fy llif flickr. Cliciwch ar y cyswllt hwn i fynd atynt (mae nhw mewn trefn dyddiad) a chlicio trwodd nes cyrraedd 23 Rhagfyr 2013! - mae rheswm gen i am fynd yn ôl at y dyddiad hwnnw, oherwydd dyna'r llun a gefais fel 'sblash' mawr ar flaen y Daily Telegraph. Y defnydd mwya o lun gen i rioed.

2014 was very much a period of buckling down to complete key parts of a long-term photo project dear to my heart. Hopefully all the picture taking/research will bear fruit in the form of a book, due out by the end of this year. There's still a lot to do though!

Rather than list what I did with a camera during December, I've put a few pictures in chronological order in a flickr album. If you'd like to browse my own favourites of the year, then just follow this link, and then click through until you reach December 23rd 2013! I've gone back to that day because it has special significance for me - the picture appeared as a big front page splash in the Daily Telegraph, and proved to be a slight turning point in my photo-life.
November 2014
26th November 2014 - 0 comments
There were lots of very busy people locally this month and last, collecting items and preparing an exhibition, two books and a play on the theme of remembrance and reflection on the First World War.

The travelling exhibition and the drama were very well attended, and the Welsh press and TV covered the project very well.

Mr Gwynfor Hughes launching the project. Letters from his father (William Hughes) from the French trenches, to T Ifor Rees in Venezuela, feature in one of the books.

The play - "Cofia'n Gwlad" (Remember our Country) by Euros Lewis, featuring local actors.

Rhian Evans (the mother) and Geraint Jenkins (the son)

Carys Mai playing the maid, Mati.

Huw Emlyn in the pulpit at Penllwyn chapel.

Sunshine on the Aberystwyth war memorial on Remembrance Sunday.

As I'd documented some of the searches and community response to the disappearance of April Jones, with some pictures published in 'Pink Ribbons for April'), I felt it necessary to record the latest development, the destruction of the house rented by her murderer, Mark Bridger. The Welsh Government had purchased the property with a view to having it demolished - a move which has been lauded in the locality.

Preparing to demolish the gable, with the chimney lining protruding above the old stonework.

April's family pause for the press after watching the demolition.

Although the month was tainted with sadness, there were some lighter moments. Returning from a very fine birthday supper at the Ffarmers in Llanfihangel-y-Creuddyn, this is the colourful view of Aberystwyth pier which greeted us as we visited the town.

And previous to that, a very cold evening at Ynyslas watching the fireworks at Aberdyfi light up the estuary.

A book I'd been working on (very hard!) has reached the shops. Food for Four Seasons by Gareth Richards (Gwasg Gomer). There are quite a few of my pictures in the book, from the covers and portraits, to very fiddly macro images of food. Other pictures are by the book's consultant, Hazel Thomas, who worked with Gareth over a period of time, documenting the recipies as they developed. Rebecca Ingleby-Davies produced the fine book design

For such close work I often use a combination of LED lights (380 LEDs in each light x 3 units), 2 flashes with diffusers, and a very handy instrument - the "Ice Light" - which looks a little like a "light sabre"! The portrait of Carys Mai (above) is lit with one.

I try to end these little pieces with a sunset, and luckily there was a fantastic one on the 25th. I managed to get this subtle picture of Aberystwyth pier, but narrowly missed the massive flaming sky.

Tachwedd 2014
26th November 2014 - 0 comments
Canrif wedi dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, yng ngogledd Ceredigion, fe ddaeth rhai capeli at ei gilydd i gofio a myfyrio am ryfel, a'r Rhyfel Mawr.

Bu gweithgaredd sylweddol i gasglu atgofion a gwybodaeth am effaith y rhyfel ar yr ardal, paratowyd arddangosfa sylweddol, cyhoeddwyd dwy gyfrol ddiddorol, a chreuwyd a pherfformiwyd drama mewn capeli'r fro ar sail rhai o'r atgofion a gasglwyd.

Cafwyd sylw yn y wasg Gymraeg ac ar y teledu, a does dim amheuaeth na fu'r prosiect yn un gwerth chweil, gan godi ymwybyddiaeth o effaith ddieflig pell-gyrhaeddol rhyfeloedd.

Mr Gwynfor Hughes yn agor yr arddangosfa. Mae gohebiaeth ei dad (William Hughes) o'r ffosydd yn Ffrainc at T Ifor Rees yn Venezuela, yn un o'r llyfrau a gyhoeddwyd.

Y ddrama - "Cofia'n Gwlad" gan Euros Lewis gydag actorion amatur lleol.

Rhian Evans (y fam) a Geraint Jenkins (y mab)

Carys Mai yn chwarae un o'r prif rannau (Mati).

Huw Emlyn yn y pwlpud

Haul ar y gofeb ryfel yn Aberystwyth ar Sul y Cofio.

Gan fy mod wedi cofnodi dipyn yn ymwneud â hanes y ferch fach April Jones (ymddangosodd nifer o luniau yn y llyfr 'Pink Ribbons for April'), roeddwn yn teimlo rheidrwydd i gofnodi y cam diweddaraf, sef dymchwel tŷ y llofrudd Mark Bridger. Roedd Llywodraeth Cymru wedi prynu'r tŷ er mwyn ei ddymchwel, cam sy'n cael ei gymeradwyo yn lleol.

Peiriant yn paratoi i ddymchwel talcen y tŷ, gyda leinin y lle tân yn ymwthio allan lle bu'r corn simdde.

Teulu April ar sefyll ar gyfer y wasg, wedi iddynt wylio'r tŷ yn cael ei ddymchwel.

Serch bod y mis ar y cyfan yn un trist a sobreiddiol, roedd digon i fod yn ddiolchgar amdano hefyd. Yn wir rwy'n "dathlu" pen-blwydd ym mis Tachwedd! Wedi gwledda yn y Ffarmers yn Llanfihangel-y-Creuddyn, fe aethom am dro i'r dre, a dyma'r olygfa o'r pier ar y noson fwyn a chlir honno.

A chyn hynny, roedd trip bach yn yr oerfel i Ynyslas yn un reit liwgar.
Noson tân gwyllt Aberdyfi, wedi'i dynnu o Ynyslas ar lanw uchel iawn.

Fe gyhoeddwyd y llyfr y bum yn gwneud cwpwl o wythnosau o waith ar ei gyfer, sef Prydau Pedwar Tymor gan Gareth Richards (Gwasg Gomer). Mae nifer o luniau gen i yn y llyfr, gan gynnwys y cloriau. Rhai o'r lluniau macro o gynhwysion roddodd y pleser a'r sialens fwyaf i mi. Mae angen llawer o olau ar waith agos, ac roedd y gegin acw fel stiwdio deledu am ddyddiau di-ri! Roedd rhai lluniau o bethau reit fach weithiau'n cymryd hyd at awr yr un i'w cael yn ddigon da i'm mhlesio (roeddwn i'n tynnu pedwar llun gwahanol o bron popeth). Nid fi biau'r clod am y lluniau i gyd; fe fuodd Hazel Thomas, ymgynghorydd ar y llyfr, yn cydweithio efo Gareth dros gyfnod, gan gofnodi'r gwaith o greu'r prydau wrth iddo fynd rhagddo. Rebecca Ingleby-Davies sydd biau'r dyluniad hardd.

Ar gyfer lluniau agos megis y rhai sydd yn y llyfr, ac yn aml ar gyfer portreadau o unigolion, rwy'n defnyddio cyfuniadau o oleuadau LED (380 LED ym mhob golau x 3 golau), 2 uned fflach gydag ambarel neu ffilter, a theclyn hynod a elwir yn "Ice Light" - mae'n debyg i "light sabre"! Mae'r portread o Carys Mai (uchod" wedi'u oleuo gydag un.

Mae'n arferiad cloi'r llith gyda machlud, ac yn wir fe gafwyd un hyfryd ar y 25ain. Fe gyrhaeddais y prom yn Aberystwyth jest mewn pryd i gael hwn, er i mi golli fy nghyfle i gipio llun o'r awyr gyfan yn fflamgoch.

Hydref 14 October
31st October 2014 - 0 comments
Wel, mae'n ymddangos fy mod i wedi llwyddo i wneud y nesa peth i ddim o ran tynnu lluniau y mis hwn!

Cefais un sesiwn olaf i helpu efo llyfr coginio, sesiwn olaf o dynnu lluniau eitemau celf y diweddar Mary Hughes, a chwpwl o ymweliadau ag Aberystwyth i ddal y stormydd diweddar (Gonzalo ac un cynt). O, a sesiwn deuddydd yn tynnu lluniau peth o "Daith y Teifi" - gŵyl ar gyfer clybiau ceufadau prifysgolion yn bennaf.


I've obviously been busy doing nothing as regards getting out and about with the camera this month!

I had one final session helping to prepare a cookery book, a final session recording the work of the late Mary Hughes, a couple of days of storm-chasing pre and post Gonzalo, and a couple of days photographing Teifi Tour 2014. The 'Tour" is a get-together mainly for university kayaking clubs from aound the UK, but there were also other clubs there, and some very young and very talented white-water kayakers. The logistics were all down to Llandysul Paddlers.

Afalau hydrefol yn Llannefydd
Autumn apples in north Wales. I love the Chinese dragon on the one in the foreground.

Gwlith yn yr ardd gefn
Dew, dew, what a sunny damp morning in the back garden

Tomatos aeddfed i'w coginio
A cookery lesson.

Storm - tamaid i aros pryd
The storm the world ignored

Gonzalo yn yr oriau mân. Defnyddiwyd fy lluniau a fideo Gonzalo o leia 12 gwaith gan safleoedd/papurau newyddion.
The storm the world didn't forget, despite the fact that the previous storm was worse. Gonzalo hits Aberystwyth in the early hours.

Gonzalo yn herio'r Borth, ond Borth yn ennill.
Gonzalo attacks Borth, but Borth wins thanks to the artificial reefs.

Eisteddfa Gurig rhwng cawodydd enbyd o gesair.
Can't see where I'm going because of violent hailstorms at Eisteddfa Gurig

Taith y Teifi - Teifi Tour
Cafodd lluniau yr ŵyl hon dros 57 mil o hits ar y we - Over 57K hits to my kayaking pictures over a couple of days.

Ac ychydig o luniau gen i sydd wedi cyrraedd print neu wefannau newyddion ac ati. Sylwer ar y llun braf o Caryl Lewis a'i theulu yn darllen ei chyfrol newydd, ac ar gefn y gyfrol, llun ohonynt yn darllen y gyfrol...!

A few uses I found of some of my pictures.

Diolch am ddarllen

September 2014
06th October 2014 - 0 comments
[Cymraeg - cliciwch yma]
Great news for me; we had a very dry September, allowing me to take a few extra snaps without yet getting soaked to the skin. It also meant an extended blackberry season. My favourite fruit, the taste of which zooms me back to the happiest times of my childhood in an instant.

This is the time of year for the Harvest Festival, and indeed I had a fruitful time photographing all manner of foodstuffs for a cookery book, which should see the light of day before Christmas.

I didn't grow any of the ingredients myself, but foraged amongst the shelves of the local supermarkets, a number of local shops, and the Farmer's Market.

If you're into the zodiac, most of the month came under the banner of Virgo. I photographed some art and craft pieces for friends. Here are a couple of examples, by the late Mary Hughes, including a panel from a fantastic piece comprising all the signs of the zodiac, and also a black cat which she made while an art student near the turn of the last century.

One advantage of the ever shortening day is that one doesn't have to get up too early to catch the dawn and dusk light. Also there's the beautiful harvest moon, if we're lucky.

This picture struck a chord with many, and a handful of prints have been sold almost immediately. Please get in touch if you fancy a print - they'd make a lovely Christmas present. My prices vary according to size, type of paper and so forth, but they're always very reasonable.

Sunset over Cardigan Bay, viewed from Clarach.

The prints I made have all been on beautiful German fibre paper, output on my new all singing Canon Pixma Pro1 printer.

I had a lovely day closing the file on a job for another author, and with a little patience managed to get what was needed at Abbeycwmhir in Powys. Probably the largest and most remote of the Welsh Cistercian abbeys.

While on the way make a cover picture of an author I screeched to a halt at the sight of this very unnerving, spooky lady! It was part of a village scarecrow competition, right on the side of the main road, where it was more likely to scare drivers than crows.

It wasn't scarecrows on the A487 coming into Aberystwyth, but pickets outside the National Library that were the subject of another 'shoot'. I put-off a day's work and spent a few hours photographing the first strike by staff aimed against the Library. It involved all the Library unions, and was all about pay, or lack of. I felt that it was important to record the strike, and the march down to the town centre as it was somehow a pivotal event in the history of the institution.

As I was fired-up wanting to make the most of the unseasonal weather to complete part of a book I'm preparing, rather than go on holiday to Italy as hoped, we decided to press on with the book, and ended up having a three day busman's break in Newcastle Emlyn.

There was plenty to see and do as we "followed our noses" along the back-roads.

Too late, much too late!

A couple of places we had intended to visit and photograph were closed when we arrived (private parties), but Ceredigion is a lovely place to explore, and so it was that we discovered other places of interest of which we knew little or nothing, until we chanced upon them.

Rock Mill, near Capel Dewi, the last working woolen mill in Wales to be powered by a waterwheel.

The Jên Jones antique quilt centre near Llandysul. She also has a quilt centre / gallery in Lampeter, which is probably easier for most people to reach.

There were no coracles on the river at Cenarth, but the old mill (though it could do with a lot of loving attention), looked quite picturesque.

By the time we had meandered our way to Cardigan, we chanced upon this ginger cat in a back lane.

But this ginge wasn't napping at Nant-y-moch on the lower slopes of Pumlumon.

I'd promised myself that we'd walk some of the forest paths at Hafod Uchtryd, an old estate between Cwmystwyth a Pont-rhyd-y-groes, and I especially wanted to see the 'underground' waterfall.

The newly restored Arch, on the road from Devil's Bridge to Cwmystwyth.

Marian took the afternoon off and we had a lovely time getting lost and then finding our way on a very warm day in the woods. Eventually we reached the 'cave'… Worth it?!

As you might imagine, with all the travelling I do trying to make pictures for various volumes, my car was getting to a point where it needed a bit of TLC. I thought it wise to have a look for another car and went around the local garages. It was on the forecourt of Cawdor Cars that I chanced upon this little creature (Ennomos fuscantaria). Unfortunately this is the only thing I brought home from my automobile foray, as I decided to lavish a little care upon my VW, rather than make a big and expensive change.

Despite the fine weather, I didn't bother with the "Aber sunsets" - as I think I have enough of them, and now everyboby's out on the prom, encouraged by the University, trying to get a posed silhouette against the sun / pier shot. This year I've much preferred the quiet, lonely, Clarach sunsets to their Aberystwyth counterparts!

I did get to Tanybwlch one afternoon, and took a quick snap of this lobster fishing boat returning to harbour. It must have struck a chord, as it's had a good response on some social media.

I suppose that I'd better sign off with a dusk shot, as it has, after all, been a month of fantastic sunsets.

Here are two Clarach sunsets taken from the same spot, within about a minute or two of each other. What a difference a tiny amount of time can make in a Cardigan Bay sunset.

And my favourite (taken before the one above), looking towards the south of Ceredigion and Pembrokeshire!

Thanks for reading this far.

Mis Medi
06th October 2014 - 0 comments
For an English version, click here]
Cafwyd y mis Medi sychaf ers cyn cof, a oedd yn newyddion ardderchog i mi, gan bod y cyfnod tynnu lluniau heb wlychu'n wlyb domen wedi'i ymestyn rhywfaint.

Fe ddaeth lliwiau'r hydref i'r coed a'r gwrychoedd yn gyflym iawn, serch y tywydd braf, ac roedd gwledd o fwyar duon ar gael drwy gydol y mis.

Dyma'r amser traddodiadol i bobl cefn gwlad ddod at'i gilydd i ddiolch am lawnder y cynhaeaf. Yn wir i chi, fe gefais innau gynhaeaf da o bob math o fwydydd diddorol, nid o'r caeau agos mae'n wir, ond o'r archfarchnadoedd lleol, a lle oedd hynny'n bosib, o siopau teuluol y dref, ac o'r farchand ffermwyr. Y rheswm dros y cynhaeaf hwn oedd fy mod yn tynnu lluniau ar gyfer llyfr coginio a fydd allan, gobeithio, erbyn y Nadolig.

Os ydych yn coelio yn y pethau hyn, dyma gyfnod arwydd 'Virgo' hefyd, a bum yn tynnu lluniau gweithiau celf a chrefft i gyfeillion o'r pentref.

Dyma esiamplau o waith cywrain y diweddar Mary Hughes, gan gynnwys un panel o'i champwaith brodwaith o holl symbolau'r zodiac.

A chath ddu, o'r cyfnod pan oedd hi'n astudio mewn coleg celf, ym mlynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf.

Un o fanteision yr hydref yw nad oes raid codi'n ofnadwy o gynnar i ddal y wawr, nac ychwaith aros i fyny'n rhy hwyr i ddal y machlud, ac wrth gwrs, fe ddaw cyfle i weld y 'supermoon' - neu i ni - y lleuad fedi.

Dyma lun sydd wedi gafael, a dyrnaid o brintiau eisoes wedi'u gwerthu! Cysylltwch os hoffech brint - mae fy mhrisiau yn rhesymol, ac fe wna anrheg Nadolig gwych a gwahanol :-)

Machlud dros Fae Ceredigion, o Glarach.

Mae'r printiau sydd wedi mynd i gartrefi newydd wedi'u creu ar argraffydd newydd sydd gen i, sef Canon Pixma Pro1. Printiwyd ar papur ffibr almeinig (drud!!), a wir i chi, mae'r canlyniadau wedi fy mhlesio i a sawl un arall, yn fawr iawn.

Cafwyd diwrnod bendigedig i gau pen y mwdwl ar brosiect i awdur arall, ac o fod yn amyneddgar wrth aros i'r haul ymddangos rhwng y cymylau, cafwyd lluniau go lew o Abaty Cwmhir yn Sir Drefaldwyn, oedd ar un adeg y mwyaf, a siwr o fod y mwyaf diarffordd o'r abatai Sistersiaidd yng Nghymru.

Wrth fynd i dynnu llun awdures ar gyfer clawr llyfr newydd ganddi, fe losgais gwerth wythnos o 'tread' oddi-ar fy nheiars pan welais hwn ar ymyl y ffordd. Rhywbeth ddigon diniwed yn y bôn, sef rhan o gystadleuaeth bwgan brain, ond eto roedd rhywbeth mor drawiadol ac anghynnes am y bwgan hwn, reit ar fin y ffordd!

Nid bwganod brain oedd ger yr A487 ar Rhiw Penglais a hefyd Ffordd Llanbadarn, yn Aberystwyth, ond rhai o fy hen gyfeillion o'r Llyfrgell Genedlaethol yn picedu'r sefydliad i geisio cael gwell cyflog. Fe wnes i ohirio diwrnod o waith er mwyn tynnu lluniau'r streic a'r orymdaith i lawr i'r dre.

Roedd y streic gyntaf hon yn erbyn y Llyfrgell Genedlaethol, gan yr holl undebau sydd yno, yn achlysur oedd angen ei gofnodi ar gyfer cadw hanes y sefydliad.

Oherwydd fy mod ar dân eisiau gorffen tynnu lluniau ar gyfer cyfrol sydd gen i ar y gweill, yn lle mynd am ein gwyliau i'r Eidal, fe aeth Marian a finnau i lawr i waelod y sir, a thros y ffin i Gastellnewydd Emlyn am dridiau! Dyma wyliau gyrrwr bws, fel petai, ac fe welson lot o ryfeddodau wrth yrru o gwmpas ffyrdd y wlad ar ein pererindod.

Rhy hwyr i ni - rhy hwyr o lawer!

Yn anffodus roedd dau o'r llefydd oedd ar ein 'itinerary' wedi cau yn ddi-rybudd ar y adeg aethon ni yno i ymweld.

Ond roedd digon i wneud ac i'w weld - mae Ceredigion yn frith o atyniadau a chilfachau difyr.

Dyma i chi Melin y Graig - Rock Mill, ger Capel Dewi, y felin wlan olaf yng Nghymru sy'n gweithio gyda rhod dŵr.

A chanolfan gwiltiau hanesyddol Jên Jones ger Llanybydder. Mae ganddi hi ganolfan ac orielau arddangos yn Llanbed hefyd, sydd efallai yn fwy hygyrch i rai.

Welson ni neb mewn cwrwgl ar yr afon ger Cenarth. A dweud y gwir, rwyf wedi bod yno sawl gwaith, ond heb eto weld cwch ar yr afon. Ond mae'r hen felin, sydd wir angen dipyn go lew o waith adnewyddu... yn edrych yn reit hardd.

Erbyn cyrraedd Aberteifi, fe welson ni'r creadur hwn, hen gath goch fawr, yn cysgu llwynog ar gadair mewn stryd gefn.

Nid gysgu oedd y gochan hon, rhai dyddiau'n ddiweddarach, wrth i ni fynd am dro heibio Nant-y-moch, ar odre Pumlumon.

Roeddwn wedi addo i mi fy hun y byddwn yn cerdded rai o lwybrau'r Hafod Uchtryd, hen ystad sydd rhwng Cwmystwyth a Phont-rhyd-y-groes, yn arbennig felly i weld y rhaeadr 'tanddaearol'.

Bwa hanesyddol Cwmystwyth wedi'r gwaith adfer diweddar iawn.

Fe gymerodd Marian brynhawn ychwanegol o wyliau, a chawsom amser hyfryd mewn gwres llethol (a hithau'n fis Medi!) yn mynd ar goll, wedyn yn ffendio'n ffordd a dringo ar hyd llwybr reit anodd uwchben yr afon, nes cyrraedd hwn...

Fel y gallwch ddychmygu, gyda'r holl drampio a dreifio rwyf yn ei wneud er mwyn casglu lluniau ar gyfer amryw gyfrolau, mae angen ychydig o 'TLC' ar y car o dro i dro. Er mor ffyddlon yw'r hen FiDyb, roedd angen gwaith arno, ac roedd arnaf chwant newid. Wrth ddychwelyd o brofi car arall, fe sylwais ar y creadur hwn o flaen gweithdy Ceir Cawdor. Yn anffodus i'r garej, yr unig beth aethum adre efo mi oedd y gwyfyn bach melyn (Ennomos fuscantaria), oherwydd fe benderfynais gadw'r hen gar ffyddlon am dymor arall!

Er y tywydd bendigedig, ni fentrais i Aberystwyth i gael llun o'r machludoedd hyfryd, ond fe gefais y shot syml, ffwrdd-â-hi yma o bysgotwr cimychiaid yn dychwelyd adref. - llun sydd wedi cael dipyn bach o sylw ar y gwefannau cymdeithasol.

Ond rhaid dweud ffarwel gyda machlud, onid oes?!

Wele dau lun o'r un machlud, o fewn munudau i'w gilydd, a dynnwyd o draeth Clarach.

A'r un gorau (a dynnwyd cyn y llall) - yr arfordir i lawr i waelod y sir ac i Sir Benfro.

Diolch am ddarllen

Printiau - prints
27th September 2014 - 0 comments
[English follows below]
Mae gen i argraffydd newydd!

Mae'n horwth mawr sy'n gallu argraffu hyd at faint "A3+", gan ddefnyddio 12 inc gwahanol.

Hyd at ddoe, dim ond wedi'i "dreialu" oeddwn i, ond nawr y mae wedi cynhyrchu dyrnaid o brintiau ar gyfer ocsiwn codi arian.

Mae'r safon yn fendgedig.

Felly os byddwch eisiau print arddangos (ar bapur) o hyn ymlaen, fe fyddaf, gobeithio, yn gallu'ch cyflenwi yn fuan ac i safon ardderchog. Cysylltwch - dim ymrwmiad!

Machlud - Clarach - Sunset

I've now got a top-notch printer, which can deliver exhibition quality prints to "A3+" size, using a 12 ink system.

Up until yesterday, I'd been so busy with the camera, that I hadn't had a chance to use the machine in earnest. I'd calibrated everything and made minor adjustments, test prints and so forth, but yesterday I produced a few for an auction to raise money for a good cause.

They're stunning!

So, if you'd like a print (on paper), I can hopefully deliver excellent quality much more quickly than before. Contact me - no obligation!

Thanks for reading

Gwobr Golwg
15th September 2014 - 0 comments
[English follows below]

Roedd yn syndod go iawn i mi glywed nos Sul, bod un o fy lluniau wedi dod i'r brig mewn pleidlais am 'lun newyddion gorau'r flwyddyn' gan y cylchgrawn Golwg.

Hoffwn ddiolch i Golwg a Golwg360 am drefnu'r gystadleuaeth, sydd â'r bwriad i godi ymwybyddiaeth o ffotograffiaeth newyddiadurol gyfoes yn y cyd-destun Cymreig. A diolch yn fawr iawn wrth gwrs i bawb a bleidleisiodd dros y llun "Cantre'r Gwaelod" - sef llun o'r goedwig o'r Oes Efydd, ger y Borth yng Ngheredigion, a ddadorchuddiwyd gan y ddrycin. Fe dynnais y llun mewn 'hoe' rhwng y stormydd eithafol a gawsom, fel roedd yr haul yn machlud dros y gorwel, gan roi lliw coch hyfryd i'r boncyffion oedd heb weld golau dydd, efallai ers canrifoedd.

Tra oeddwn i wrthi, roedd dau ffotograffydd tirlun uchel iawn eu parch yno, wrthi'n ddyfal yn tynnu lluniau o'r un olygfa. Ymhen dim fe ddaeth y stormydd yn eu hôl, a'r llanw yn chwithig, ac roedd hi'n sbel cyn y gallai neb dynnu rhagor o luniau tebyg. Felly 'gap' cul iawn iawn o amser oedd gan y ddau arall a finnau i gael y lluniau hyn. Ymhen awr neu ddwy, roedd yr olygfa wedi hen fynd. Felly yn y llun hwn, fe welwch chi'r boncyffion bron yn syth wedi iddyn nhw ddod i'r golwg. Mae nhw'n dal yno i'w gweld (gwnewch yr ymdrech i fynd yno ar adeg o lanw isel iawn), ond dyma ennyd eu datguddio, fel petai, wedi'i ddal ar gamera.

Llongyfarchiadau i'r holl ffotograffwyr a oedd ar y rhestr fer, a diolch i Golwg am gyhoeddi ein lluniau.

Many thanks to the Welsh news weekly Golwg and the news website Golwg360 for their 'news photo of the year' people's choice competition.

I was surprised and grateful to learn that my picture of the sunken forest at Borth, Ceredigion, won with some 38% of the vote.

Well done to all the shortlisted photographers, and thanks to everyone who took the trouble to vote for the pictures. It's good to know that readers appreciate the effort made by photographers to capture contemporary life and events, and the efforts of the Welsh press to publish them.

Diolch yn fawr