Newyddion . News

Mis Mai
31st May 2014 - 0 comments
Mis Mai 2014

Am bob math o resymau does neb eisiau'u clywed, fe fu mis Mai yn fis Main o ran gwaith.

Fe gadwais yn brysur, yn bennaf yn tynnu lluniau lleol, gydag ychydig o ymchwil, a mwy o arddio nad oedd yn dda i fy nghymalau, a gafodd cryn siglad gan yr holl ymarfer corff anarferol. Ond am unwaith, ni fues i'n mynd ati rhyw lawer i chwilio am 'waith talu'.

Roeddwn wedi bod eisiau ymweld ag Ysbyty Cynfyn ers sbel. Roedd gen i awydd mynd yno a dilyn y llwybr reit i dop y bryn uchel iawn gerllaw, i weld yr olion hanesyddol sydd yno. Wedi cychwyn yno yn yr haul, fe gyrhaeddais yng nghanol cawodydd trymion iawn, a doedd hi ddim ffit i gerdded y llwybr egr iawn a llithrig i'r uchelfannau.

Ond mae glaw yn gallu creu sglein a naws, ac efallai bod mymryn o hynny i'w weld yn y lluniau o'r eglwys, sydd wedi'i hadeiladu ynteu yng nghanol cylch cerrig o'r oes a fu, neu yn fwy tebygol, gerbron maen hir, sydd i'w weld yn wal y fynwent.

Eglwys Ysbyty Cynfyn


Roedd y glaw yn sicr yn ychwanegu naws 'Gwyllaidd" at westy'r Hafod a'r blwch "AA" ym Mhontarfynch ar y ffordd yn ôl adref.





Roeddwn wedi addo i mi fy hun y byddwn i'n tynnu llun o'r gofeb anghydnaws, anferthol, sydd ar ben y bryn yn Betws Bledrws, a phan gychwynais ar fy siwrne, unwaith eto roedd y tywydd yn "berffaith". Ond fel sy'n digwydd rhan amla, erbyn cyrraedd roedd y sefyllfa wedi newid yn llwyr. Ond fe gefais lun o fath, er nid yr un yr oeddwn wedi gobeithio amdano. Tri chynnig i Gymro, efallai, a byddaf yn cael un gwerth chweil y tro nesa!



Siwrne dipyn pellach a gafwyd i'r Fedwen Lyfrau yn Nant Gwrtheyrn, ac unwaith yn rhagor, doedd y tywydd ddim yn garedig i dynnwr lluniau.

Doedd fawr o ysbrydoliaeth i'w ganfod wrth gerdded y traeth


ond roedd y Nant ei hun yn reit ddeniadol


a thu mewn yr oedd digon i'w weld ac i'w wneud. Dyma Llŷr Gwyn Lewis yn lansio ei gyfrol o gerddi


a dyma Alwyn Elis yn trafod ei yrfa wrth iddo dderbyn gwobr "oes" gan Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru.


Fe fyddwn i wedi hoffi mynd i Ŵyl y Gelli ac efallai Eisteddfod yr Urdd i dynnu lluniau, ond doedd neb wedi gofyn i mi fynd, a finnau'n teimlo'n ddi-hwb, a chymaint o ôl-groniad o bethau ymarferol bob dydd i'w gwneud, wnes i ddim mentro. Rwy'n gwybod y byddaf yn difaru!

Ymhlith y 'pethau ymarferol' hyn roedd cynhyrchu printiau ar gyfer rhoddion a gwobrau. Gan ddefnyddio 'bod rhaid mynd i'r dre i weld os ydi'r fframiau yn barod' fel esgys i beidio gwneud gwaith tŷ, fe ddigwyddais weld cynnwrf ger y "town clock". Rhuthr wedyn i nôl y camera o'r car (oedd yn bell i ffwrdd) er mwyn tynnu lluniau gorymdaith criw yn protestio am yr helynt cipio merched yn Nigeria.

Merched yn eu harddegau yn arwain yr orymdaith o'r cloc, heibio'r castell ac yna ar hyd y Prom.



Rhai dyddiau yn ddiweddarach - y brotest yn parhau mewn dull gwahanol, yn adleisio'r cyfnod pan addurnwyd rheiliau'r Prom gyda rhubanau er cof a gobaith am April Jones.



Roedd y "wobr" (raffl)yn brint bach A4 o'r llun isod ar gyfer cyfarfod blynyddol Merched y Wawr, Rhydypennau. Cefais wahoddiad i sôn am fy 'mlwyddyn mewn lluniau' (sgwrs ddifyr i unrhyw gangen yng ngogledd Ceredigion, gyda llaw, hint, hint!). Llun a dynnwyd yn ystod haf 2013 ydyw, o Aberystwyth. Llun a gymerodd oriau os nad dyddiau i'w gael yn iawn o fy nghaiac allan yn y bae!


Tywydd llawer brafiach a gafwyd gyda'r nos dros Fae Ceredigion yn hwyrach ymlaen yn y mis. Dyma lun (a ymddangosodd ar wefan y Daily Mail, meddai nhw) - hwylio ger harbwr Aberystwyth. Fy mwriad oedd ceisio cael llun o weddillion y cwch modur a aeth ar dân ger Creigiau'r Castell, ond dyma'r olygfa a aeth a'm bryd.


Lle handi ydi Prom Aberystwyth i gynnal pob math o weithgareddau, a dyma i chi'r digwyddiad gwych 'Race for Life'. Doeddwn i ddim ar gael i fynd i weld cychwyn y ras, ond llwyddais i gyrraedd wrth i'r rhedwyr olaf (ar faglau) orffen!


A dyma chi gymeriadau hoffus yn dathlu


Rhaid oedd manteisio ar ddiwrnod neu ddau o dywydd heulog i ail ymweld â rhai mannau ar arfordir de y sir.

Tresaith, yn aros yn amyneddgar a doniol-ddwyieithog i'r tymor ymwelwyr ddechrau o ddifrif


A'r pentref bach fel ag y mae'n ymddangos o'ch blaen wrth gerdded Llywbr Arfordir Ceredigion



Ymhellach i'r gogledd, dyma eglwys Penbryn, y tu mewn i gylch crwn o waliau, sy'n awgrymu mai eglwys geltaidd cynnar a gafwyd yma yn wreiddiol


Ymhellach eto i'r gogledd, a wele'r perl mwya adnabyddus i'r Cymry Cymraeg, Llangrannog




Yna draw i Gwntydu, lle roedd y spangi hwn wrth ei fodd yn prancio yn Afon Ffynnon Ddewi


A'r olygfa enwog, eang, anhygoel o hardd, o'r gilfan rhwng Aberaeron a Llan-non


Bum hefyd yn chwilio am luniau ar thema'r Rhyfel Mawr ar gyfer cyfaill

dyma ran o gofeb trawiadol Aberystwyth


a rhywbeth anarferol iawn, sef cefn allor o dderw, wedi'i gerfio gan ffoadur o Wlad Belg, ar gyfer eglwys Llanfihangel-y-creuddyn


Mae'n debyg y dylwn i gofio bod yna lecsiwn wedi bod - i ethol cynrychiolwyr i Senedd Ewrop. Roedd y canlyniadau braidd yn ddiflas (dros Brydain) felly dyma'r llun sy'n cydweddu â fy nheimladau am yr holl siabang.


Ond fe ddaeth eto haul ar fryn, ac o! am haul braf

i ôl-oleuo Clustog Fair ar lwybr yr arfordir ger Clarach


i greu 'amlinell lom y moelni maith' ar draws Bae Ceredigion


Er fy mod i wedi cael llond bol ar glywed am "Faton y Frenhines" yn ymlwybro yn heipllyd ar hyd Cymru, roedd rhaid ymdrechu i ddogfennu'r digwyddiad yn y dre.

Dyma'r llun gorau, efallai, sef dosbarthu'r baneri bach i'r plant oedd yn cymryd rhan.


Taw piau hi am y gweddill.

Iestyn
Ebrill - April
28th April 2014 - 0 comments
[English synopsis follows below]



Cawsom ddiwrnod i'r brenin gyda'n ymweliad â Sadwrn Barlys Aberteifi ar y 26 Ebrill. Hen ffair gyflogi a threfnu teithiau stalwyni yw'r digwyddiad, ond nawr wrth gwrs, mae'n sioe gyffrous i'r cyhoedd, sy'n leinio'r strydoedd yn eu cannoedd, os nad miloedd, er mwyn gweld stalwyni yn cael eu tywys a'u rhedeg ar hyd y stryd fawr.









Ceir hen dractorau a moduron hefyd, ond mymryn o siom oedd na chafwyd "injans stêm" yn rowlio'n araf drwy'r dre.

Roedd hi'n flynyddoedd maith ers i mi grwydro strydoedd a chamlesi dinas Birmingham ddiwethaf, ond fe ddaeth cyfle mewn aduniad teuluol i weld ychydig yn fwy nag arfer o ganol y dref. Roedd cymaint wedi newid ers i mi aros yno i weithio bron i ddeugain mlynedd ynghynt, ond eto roedd darnau o'r dref wedi aros yn reit debyg hefyd.





Fel cyn lyfrgellydd, roedd hi'n orfodol ymweld â llyfrgell ganolog newydd, anhygoel, y ddinas!




Yn sicr roedd y rhwydwaith camlesi yn edrych yn dipyn mwy deniadol (a saffach) nag ydoedd ers stalwm!



Welson ni ddim wawr na machlud braf yn Birmingham, ond mae gweld yr haul yn suddo y tu hwnt i'r môr yn un o bleserau mawr byw ar ymyl Bae Ceredigion.




Mae misoedd Mawrth ac Ebrill fel arfer yn rhai arbennig am fachludoedd, ond ni welais un llachar iawn eleni. Yn hytrach, cafwyd sawl noson o fachludoedd meddal, hudolus a chynnil.



Cynnil a phrydferth hefyd yw'r blodau gleision, clychau'r gôg, sydd wedi dod a'r "wow ffactor" yn ôl i'n coedwigoedd wedi dinistr mawr y gwyntoedd diweddar. Eu lliwiau hwy sy'n ein hatgoffa bod y coed ar fin deilio yn llawn, a bod yr haf yn nesau.



Doedd dim blodau gleision ar y llethrau serth uwchben Ystrad Fflur, pan aeth Marian a finnau am dro dros y Pasg, a dod ar draws y pererin hwn ar ben un o'r bryniau cyfagos. Cerflun 14 troedfedd o uchder ydyw gan Glenn Morris, a gomisiynwyd gan CADW yn 2012.



Yr unig aderyn bach oedd ar y bryn, neu'n hytrach fry uwchben, oedd yr ehedydd. Gwahanol iawn i'n ymweliad ag Ynys-hir, gwarchodfa natur yr RSPB ger Eglwysfach.



Yno roedd adar mawr fel y gwyddau Canada,



a lluaws o adar mân megis y dryw, cnocell y coed, ji-binc ac araill.



Fe gefais ddyddiau difyr yn y Llyfrgell Genedlaethol hefyd, wrth chwilio am glipiau ffilm ar gyfer rhaglen deledu. Tra bod hynny'n waith, pleser pur oedd mynychu agoriad arddangosfa ffotograffau "60" Marian Delyth. Mae Marian wedi bod yn ddylanwad mawr ar sut rydym wedi gweld Cymru dros y 40 mlynedd diwethaf, ac mae'r arddangosfa cynnil yn dathlu ei phen-blwydd yn 60 oed eleni.




The highlight for April was definitely our trip down to Cardigan for "Barley Saturday". This was my second visit in about 38 years! There seemed to be more people and more barriers, but fewer horses, and no steam engines/rollers at all. Nevertheless, it was still worth the journey and the very heavy showers.



It was also about 38 years ago that I last spent any real amount of time in Birmingham. Cardigan may have changed little, but Birmingham, in parts, is hardly recognisable. The old red brick area with tiny one room pubs on each street corner seemed to have disappeared, hi-rise buildings and cranes dominate the skyline, and the canals and their towpaths seem much more welcoming - if slightly gentrified.



We really enjoyed our family birthday adventure in the city, and will be back for more as soon as time allows. Despite the lovely weather (always a help isn't it!), we didn't see either a beautiful sunrise (well. that was hardly likely), or a decent sunset.

March and April are some of the best months for wonderful sunsets over Cardigan Bay. This year hasn't seen quite so many flaming red skies as usual - the sunsets have been beautiful, but subtle, this year.



Apart from seeing the birds nesting, and singing their hearts out as they draw mates, build nests and mark their territory, the defining event of April is the blossoming of bluebells, and this year has seen them in abundance.

As April melds with May, the stunning woodland flowers bridge the month as we begin to look forward to seeing trees and hedges in full leaf, a sign that summer is close by.



There were no little blue flowers on the hill high above Strata Florida Abbey over Easter. There was however a 14 foot high pilgrim. The statue, commissioned by CADW, is the work of Glenn Morris, and was completed in 2012.



There were few birds high on that hill, except for a skylark which soared so high it became invisible. Ynys-hir RSPB nature reserve was however brimming with birds of many colours and sizes, including a male Canada Goose which valiantly stood guard before the nest, complete with broody female. Hiss to you too!



Most of the days between these excursions were filled with research at the National Library. Many days were spent trying to locate film clips for a TV programme, which reminded me of "work" - a very mixed pleasure indeed. However there was no need to qualify the true pleasure of attending the opening of the "60" exhibition by Marian Delyth at the Library. Marian's photographic work has provided us with a visual roadmap to the twists and turns our generation has taken over the last 40 years, especially in "Welsh Wales". Please visit if you can, or at least purchase the fully illustrated book that complements the exhibition.



Thanks for reading

Iestyn
Mawrth - March
04th April 2014 - 0 comments
March was a bit mad, up and down, here there and everywhere, and a cold, a very bad cold, no - a flu, no, no a massive man flu!

Nawr lanciau, rhoddwn glod, y mae'r gwanwyn wedi dod,
Y gaeaf a'r oerni aeth heibio
Daw y coed i wisgo'u dail,
A mwyniant mwyn yr haul
A'r ŵyn ar y dolydd i brancio
Moliannwn oll yn llon, mae amser gwell i ddyfod, Haleliwia!
Ac ar ôl y tywydd drwg, fe wnawn arian fel y mwg
Mae arwyddion dymunol o'n blaenau...

Wele'r gwanwyn yn cyrraedd y parthau hyn o'r diwedd

Yng Nghoedwig Gogerddan - At Gogerddan Woods, spring at last!



March the 1st, and the Aberystwyth St. David's Day Parade.

Fe ddechreuodd y mis efo gorymdaith, neu Parêd Gwyl Ddewi Aberystwyth. Dyma'r eildro i'r digwyddiad hwn gael ei gynnal, y tro hwn Megan a Gwilym Tudur oedd yn arwain.



Fe gefais sawl llun bach reit ddel, gydag un wedi ymddangos mewn print (yn Barn).



The rest of the month saw me searching through my own archives as well as picture collections near and far, contacting photographers etc, to fulfill a number of requests.

My own work was used by the 'news', weather reports, for lectures, public awareness features, papurau bro, magazines, websites, and a couple even reached the USA. Also masses of work finding images for posters, pop-ups etc, and for books, including making a portrait of a lovely gentleman for a book cover.

Yn ystod gweddill y mis fe fues i'n ymateb i geisiadau am luniau o stormydd mis Ionawr i'w cynnwys mewn darlithoedd, papurau newyddion, ymgyrch codi ymwybyddiaeth peryglon y môr, papurau bro, a hyd yn oed papur Cymry UDA. Wedyn roedd cais diddorol ar gyfer creu posteri, pop-ups a chefnlenni oedd yn golygu lot fawr o waith chwilio am luniau gen i o Gymru benbaladr oedd yn ffitio'r brîff. Hefyd chwilio am luniau hanesyddol i Barddas, a lluniau ar gyfer cefndir i ddrama gymunedol, a lluniau oedd yn cyfleu syniadau gwahanol ar gyfer llyfr arall. Ar ben hynny wedyn oedd ceisio dal i fyny efo'r gwaith ar gyfer y prosiect tymor hir, ac uchafbwynt - creu portread o gymeriad hoffus iawn ar gyfer clawr llyfr. Hyn oll ar ben yr annwyd, neu'n debycach, y ffliw gwaetha i mi ei gael ers blynyddoedd maith!

Ymddangosodd sawl llun mewn cylchgronau, papurau newyddion a gwefannau drwy'r asiantaeth, gan gynnwys un bach, bach, bach, yng nghylchgrawn "Countryfile" y BBC.

One didn't have to wander far to find signs of spring (e.g. the outrageously blue - not "shopped" - river Dyfi at Glandyfi).

Doedd dim angen crwydro ymhell i ddarganfod lliwiau'r gwanwyn (Afon Dyfi)



A quick trip to Llandeilo, to Salem Chapel...
Capel Salem, Llandeilo, llun bach cyflym cyn i mi adael. Roeddwn yno ar drywydd y llun nesaf...



… to take a picture of this window. The photo now resides in India.
Roeddwn angen tynnu llun o'r ffenest lliw ar gyfer creu print i'w arddangos yn yr India.



The EOY approaches; time to invest some earnings in a few items, such as a bank of portable LED lights. Having the flu meant I couldn't get to the big photo show in Birmingham NEC, so I took a gamble and bought one LED unit over the web, and finding it of reasonable quality and at an excellent price, I bought 2 more!

Cefais ychydig o drafferthion technegol efo fy system oleuo fflach, a rywbryd fe fydd rhaid i mi anfon y camera i ffwrdd i'w sortio unwaith ac am byth! Ond roedd y trafferthion yn hwb i mi fynd ati i brynu pentwr o oleuadau newydd LED. Roeddwn wedi bwriadu mynd i arddangosfa fawr yn Birmingham er mwyn cymharu goleuadau o'r fath, ond fe nadodd y ffliw fi rhag teithio o gwbl. Felly yn y diwedd fe brynais un uned oddi ar y we, a chan fod hwnnw'n plesio'n weddol, fe archebais 2 arall.

Doedd dim angen y goleuadau ar daith ddiddorol o gwmpas ardal Nant-y-moch. Roedd golau'r haul yn hyfryd, ac fe gefais sawl llun cofiadwy 'gwahanol' a fydd, efallai yn mynd tuag at y prosiect tymor hir.

Dyma'r argae.

A jaunt not too far from home, to Nant-y-moch reservoir.



Ond yna ymhellach ar hyd y ffordd, wele fy ffrind newydd ar fin y ffordd! Rwyf wedi gweld y gwartheg hyn o bell nifer fawr o weithiau, ond dyma'r unig dro, yn ystod fy holl grwydriadau, i mi eu gweld mor agos.

And an amazing sight. In all my wanderings around the area, I'd never seen these photogenic cattle so close!



Mis go lew felly, gyda llawer mwy o waith "desg" na gwaith tynnu lluniau newydd. Ond gyda'r mis yn tynnu tua'i derfyn, fe aeth Marian a finnau am "recce" i Dregaron, a thra oedd hithau'n darganfod y gemau hardd yn siop Rhiannon, fe sylwais innau ar y trysor hwn wrth chwilio am y llwybr i'r eglwys.

Another trip, this time to Tregaron, and a lovely garage window.



Ac yna rhyw ddiwrnod, a finnau wedi cael llond bol o fod yn y tŷ, a'r llanw isel yn galw, dyma'r olygfa o'r traeth ger y Borth, gyda'r goedwig hynafol sydd agosaf at y pentref yn hynod o eglur.

Finally, the Spring Tide called me (twice) to y Borth. The ancient "sunken" forest nearest to the village looking quite spectacular.

Cantre'r Gwaelod
25th February 2014 - 0 comments
Y bore 'ma fe weles i drydar gan gorff swyddogol twristiaeth yn annog pobl i fynd i'r Borth i weld y goedwig hynafol, gan fod yr amgylchiadau'n "berffaith". Wel doedd yr amgylchiadau ddim yn berffaith o bell ffordd - llanw'n rhy uchel, gwynt yn rhy gryf, a thywydd pethma. A dim cyfarwyddyd ar sut i gyrraedd y man cywir. Fe es i draw i brofi pwynt i mi fy hun, ac roedd Borth (tydi'r goedwig ddim actiwali reit yn y Borth) yn berwi o bobl fel petaent yn chwilio am rywbeth ar y traeth. Bizarre.

Dyma sut oedd hi ar lanw isel, yn y man lle mae'r goedwig - yn yr amodau "perffaith" - fawr o olwg o'r goedwig, nagoes?!



Felly rhag i bobl gael eu siomi, dyma fy marn i ar sut i gyrraedd a gweld y goedwig.
Nid cyfarwyddiadau manwl swyddogol ydi'r rhain, ond sylwadau sy'n deillio o brofiad personol - peidiwch a'u cymryd fel efengyl, a gwnewch eich ymchwil eich hun. Fedra i ddim cymryd cyfrifoldeb os byddwch yn cael amaf, mynd ar goll ac ati.

Ers i mi osod lluniau o'r goedwig hynafol "Cantre'r Gwaelod" ar fy ffrwd flickr, a chyhoeddi lluniau yn y wasg o ddiwedd Ionawr, mae sawl person wedi cysylltu i ofyn lle yn union y mae'r hen fforest, a phryd mae'r amser gorau i ymweld. Rwyf hyd yn oed wedi dod ar draws teulu o Swydd Sussex (os wy'n cofio'n iawn) oedd wedi cychwyn am 4 y bore a gyrru'r holl ffordd i'r Borth i weld y goedwig, a hithau'n amhosib oherwydd amser y llanw a'r ffaith ei bod hi'n storm arw.

Os ydych am ymweld, tsieciwch y llanw. Rydych angen llanw isel iawn (isa'n y byd, gorau'n y byd). Fe allwch weld y tablau llanw - Aberystwyth ar wefan y BBC. Mae'r llanw fymryn yn hwyrach yn y Borth, sef lleoliad y goedwig hynafol.

Yna rydych angen tywydd cymharol braf - yn enwedig o ran y gwynt. Os yw hi'n storm, tydi crwydro'r traeth ddim yn syniad call unrhyw adeg. Ar safle'r goedwig, mae gwynt cryf yn gallu gyrru'r tonnau, hyd yn oed ar lanw isel iawn, i guddio'r goedwig. Mae safle dywydd y BBC yn eitha da a manwl o ran y rhagolygon, neu safle dywydd S4C.

Mae'r rhagolygon ar gyfer dydd Sadwrn 1 Mawrth, er enghraifft, yn dda. Llanw isel (0.2) am oddeutu 3 y prynhawn, a gwynt cymharol isel (12 mya) a haul a chawodydd. Mae dydd Sul Mawrth 2il rhywbeth yn debyg. Ond rhagolygon yn unig yw'r rhain.

Mae'r goedwig rhwng y Borth ac Ynyslas. Rwy'n ffendio hi'n haws cyrraedd o'r Borth nac o Ynyslas, ond mae'n well gan rai gerdded o gyfeiriad Ynyslas i'r Borth. Os ydych yn cychwyn cerdded o'r Borth, os ydych am wneud y gorau o'r amser, parciwch mor bell ymlaen ar hyd y "cob cerdded" ac y gallwch. Ewch i lawr am y traeth (mae grisiau ar gael mewn sawl man) a dilyn y traeth tuag at Ynyslas. Dyma'r ffordd rwy'n ei hoffi, gan bod y goedwig yn raddol "ymddangos" wrth gerdded ymlaen, o ychydig foncyffion, wedyn mwy, wedyn ugeiniau rhagor ohonynt yn ymestyn ymhell. Fe fydd hi'n cymryd o leiaf hanner awr i gyrraedd y goedwig - neu llawer mwy os ydych yn cerdded yn hamddenol, ac yn oedi i edrych ar bethau. Felly mae angen cychwyn cerdded o leiaf tri-chwarter awr (awr yn well efallai), cyn amser y llanw isel. Mae angen cychwyn yn ôl yn brydlon hefyd, oherwydd mae'r llanw yn dod i mewn yn eithriadol o gyflym, gan fod yr ardal mor wastad. Yn enwedig yn Ynyslas (dyna un rheswm pan nad wyf yn hoff o ddod o'r cyfeiriad hwnnw - rwy'n dychmygu cyrraedd yn ôl at y car a hwnnw dan ddŵr!).

Neu os nad ydych am gerdded yn bell, neu ddim am gerdded o gwbl, ewch at "troad Ynyslas" (lle mae'r ffordd yn fforchio tuag at Ynyslas). Cwpwl o droedfeddi heibio'r gysgodfan bws ar y gornel, y mae ffordd rychiog iawn, sy'n arwain at faes parcio (o fath, os nad yw dan ddŵr!). Ewch reit i'r pen, gan wylio'r golffwyr a'u peli. Mae darn amlwg a diddorol o'r goedwig a'r mawndir reit o'ch blaen ochr arall i'r addiffynfa. Does dim llwybr 'swyddogol' i fynd dros yr amddiffynfa (dim i mi sylwi), ond mae'r cerrig yn cyrraedd top y "slipars rêlwê" mewn ambell i fan, ac os ydych yn weddol heini, mae'n reit hawdd dringo dros y gerrig a'r amddiffynfa a chyrraedd y traeth. Os nad ydych yn abl iawn, ond i chi fedru cerdded i fyny at yr amddiffynfa, fe allwch edrych i lawr ar yr hen goedwig yn ymestyn i mewn i'r môr. Ond tydi cyrraedd y ffordd yma ddim hanner cymaint o hwyl a chyrraedd o gyfeiriad y Borth neu Ynyslas. Does dim antur yn hyn! Mae'r llun llwyd a diflas uchod wedi'i dynnu o'r safle yna ger yr amddiffynfa.

Felly - llanw isel iawn adeg golau dydd (llai na 1.0m), môr llonydd, gwynt ysgafn. Gofal priodol.

Cofiwch gymryd gofal, a pheidiwch dod ar fy ôl i os ydi pethau ddim yn troi allan yn berffaith. Sylwadau personol yw'r rhain, nid cyfarwyddiadau manwl "swyddogol".

Efo lwc, efallai y gwelwch chi rhywbeth tebyg i hwn.



Os nad oes gennych gar, mae bysiau yn mynd yn weddol aml o Aberystwyth i'r Borth - ac i "Ynyslas Turn", sef yr arhosfan bws ger y maes parcio sydd ger darn diddorol ac amlwg o'r goedwig!

Os ydych wedi teithio'n bell ac am wneud y gorau o'r diwrnod, neu o benwythnos, lle arall cysylltiedig â Chantre'r Gwaelod yw Sarn Cynfelyn.



Fe allwch chi gyrraedd y Sarn ynteu wrth gerdded llwybr yr arfordir o Glarach (maes parcio BACH hwylus yno) tuag at y Borth (neu vice versa). Mae hyn yn caniatau i chi edrych i lawr ar y llwybr cerrig yn ymestyn allan i'r môr (ar lanw isel wrth gwrs, welwch chi fawr ddim ar lanw uchel). Mae'r llwybr ar y gorau yn un braidd yn beryglus - gofal - mae esgidiau pwrpasol ac ati yn gwbl angenrheidiol - ac yn ôl y sôn mae'n waeth ar y funud oherwydd difrod y stormydd. Felly cymerwch ofal a gwrandewch ar unrhyw gyfarwyddiadau neu rybuddion cyfredol.

Mae'r Sarn reit gyferbyn a thŷ hynafol iawn - y Wallog. Un o fannau mwya godidog yr arfordir, ond mae'r llwybr tuag at y Wallog yn ôl y sôn (tydw i ddim wedi cerdded y ffordd yna ers stalwm) yn bur wael ar y funud, ac amddiffynfa'r môr ger y Wallog wedi'i olchi i ffwrdd yn y stormydd. Ffordd arall i gyrraedd y Sarn yw dilyn y ffordd gefn o Aberystwyth i'r Borth (heibio Llangorwen), a throi i lawr am y Wallog. Tydw i erioed wedi gadael car i lawr ffordd yno, ac mae'n dir preifat, ond mae yna lwybr cyhoeddus yn arwain at y traeth. Traeth bach iawn sydd yno, gyda hen odyn galch, ac wrth gwrs y Sarn. Ond mae'n well gen i yr olygfa am "i lawr" o ben y clogwyn i'r de o'r Sarn, er mwyn gweld y llwybr cerrig yn y cyd-testun ehangach o Fae Ceredigion.

Ond yr olygfa orau oll o'r Sarn yw o'r môr tuag at y tir ar ddiwrnod braf. Felly os ydych yn caiacio, mae modd lansio yn Clarach a rhwyfo i fyny at y Sarn ac yn ôl mewn cwpwl o oriau (gwyliwch yr holl daclau pysgota / rhaffau potiau cimychiaid). Mae'r Sarn yn ymwthio allan o'r ochr dde i'r llun hwn.

YCHWANEGIAD

Rhywrai newydd holi ble mae'r "llwybr gwiail" o'r Oes Efydd.

Nid wyf wedi gallu darganfod y llwybr gwiail, ond yn ôl yr archaeolegwyr a thrigolion lleol, mae'r llwybr - a'r man lle roedd olion traed hynafol, pen arall y traeth i'r goedwig (uchod). Os wy'n deall yn iawn, mae yna olion o fawn yn ymestyn allan rhwng sied y bad achub a'r clogwyni ("Upper Borth") - lle mae cofgolofn y rhyfel ar ben y bryn.

Os ydych am fentro i'r parthau hyn i stwnan, cymerwch hyd yn oed mwy o ofal! Mae'r môr yn y gornel yn gallu bod yn frochus iawn iawn - dyna lle rydw i'n mynd o dro i dro i dynnu lluniau o donnau enfawr!

Cymerwch ofal, a joiwch.
Mawredd y moroedd. Sea change UPDATED 14-2-14
10th January 2014 - 6 comments
Our little town of Aberystwyth has been in the headlines again, battered and bruised by ever more frequent, ever bigger, land engorging storms.

I ended my last news item with a storm on 27th December. Following that I visited relatives in north Wales. Here's what happened after I returned.

Wedi dychwelyd o'r gogledd ar ôl y Nadolig, dyma oedd gan y tywydd i'w ddweud wrth Aberystwyth.

3 Ionawr - January




























4 Ionawr - January

Gosteg!




5 Ionawr - January













Y Gweinidog Alun Davies yn ymweld â'r Prom
Minister Alun Davies visits the scene







6 Ionawr - January





















It will be interesting to see where this story goes from here - it's only the beginning of January, and there are probably more storms to come, and I wonder if all the dramatic media coverage, combined with a greenish tinted landscape, windswept marshes and dark valleys harbouring dour murderous Welsh, as depicted in the series Hinterland, will affect tourism in 2014.

But these pictures of Aberystwyth, with her elderly face, and lips pursed against a violent wind of climate change, is a warning that a sea change is already upon us.

The rolling-news media decamped to Aberystwyth, swamping the airwaves with their reports, and making a drama out af a crisis.

Luckily no-one was hurt badly or killed by the storm, and the damage is reparable (money allowing). The UK government has brushed aside the call for central UK funds to be used to help, saying it's a devolved problem.

The UK media is as I write just sucking the last drop of blood out of the story (these events always go from disaster to jolly good community spirit).


Dyma ddechrau ofnadw i'r flwyddyn i Aber druan. Mae Ceredigion yn cael enw gwael am lifogydd, ac ys gwn i a fydd yna effaith wael ar dwristiaeth yr haf yma. Rwyf wir yn ofni y bydd.

Does dim pwrpas gwadu mawredd y moroedd, grym natur, nac ychwaith dylanwad llaw dyn, a gorddodd y dyfroedd hyn. Fel trasiedi Groegaidd, rydym yn gallu darogan y diweddgo hallt, ond yn annalluog i newid cwrs y byd a dileu'r newid hinsawdd sy'n bygwth ein dyfodol oll.



7 Ionawr - January





Borth




11 Ionawr - January
Glanhau'r Prom - Cleanup on the Prom







Tra draw yn Clarach... Clarach sea defences are no more





Diwedd hyfryd i'r diwrnod - Beautiful end to the day



13 Ionawr - January





20 Ionawr - January

Borth



"Cantre'r Gwaelod" - ancient woodland further revealed by the storms.



29 Ionawr - January



31 Ionawr - January







1 Chwefror - February

Gwyliwch y fideo hwn i weld nerth y tonnau - see this video to see the force of the waves















3 Chwefror - Feb

Ynyslas - llifogydd - flooding




Clarach - storm





8 Chwef - Feb Aberystwyth Storm





9 Chwef 0 Feb - Borth



11 Chwef - Feb Eisteddfa Gurig



12 Chwef - Feb
Pen Dam



Borth



Llangorwen



13 Chwef - Feb Aberystwyth



Clarach



14 Chwef - Feb

Y Borth



Y flwyddyn gron
26th December 2013 - 0 comments
Mae oriel sy'n darlunio fy mlwyddyn mewn lluniau (yng Nghymru, o leiaf) i'w gael yn y fan hyn. Mae llawer o luniau o dywydd gwael (a da) yma. O'r amser symudais i fyw yn Aberystwyth (1973), yn Nhanybwlch, mae ardal y traeth a'r harbwr wedi bod yn agos iawn at fy nghalon. Yma y byddwn yn dod, glaw neu hindda i fynd am dro, neu i fwyta fy nghinio pan oedd y coleg neu'r swyddfa yn llethu (hynny yw yn aml iawn), ac wrth gwrs i dynnu lluniau o'r tywydd garw! Tynnwyd y llun cyntaf i mi drwyddedu o'r jetty (gyda thon anferth wen yn ffrwydro dros y goleudy) yn 2005. Ac mae'r ardal wedi profi'n fan ffrwythlon iawn. Eleni cefais anrheg Nadolig anhygoel - wyth mlynedd wedi tynnu'r llun hwnnw, a bron i ddeugain mlynedd ers i mi brofi y storm anferth adeg y Pasg, fe ddefnyddiwyd llun newydd gennyf o don anferth fel "sblash" ar draws dudalen flaen y Daily Telegraph ar y 24 Rhagfyr, a thu mewn i'r Daily Mail. Felly fe dybiaf bod dros dwy filiwn o bobl wedi gweld y llun hwnnw!

My year in pictures (Captions in Welsh only) can be found here.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda
22nd December 2013 - 0 comments
Hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb ohonoch sy'n galw heibio'r wefan hon o dro i dro.

Wishing you all a Merry Christmas and a Happy New Year. Thanks for calling.



Iestyn
Ymddiheuriadau - apologies
21st December 2013 - 0 comments
"I don't believe it!"

Yes I do. Unfortunately. I have now discovered that that flickr has changed the way that pictures embedded in sites like this behave. So now some of the pictures I've painstakingly placed from my flickr account onto this blog either no longer "show", or turn into embedded slideshows.

So, apologies if you get some weird results while browsing the news items here.

Mae flickr wedi newid eto, gan olygu nad yw pob llun yn fy llif "newyddion" yn dangos erbyn hyn, a weithiau mae "sioe sleidiau" yn ymddangos yn hytrach na llun unigol perthnasol.

Mae'n ddrwg gen i am hyn.

Iestyn
Murmur y drudwy - Starling darlings
17th December 2013 - 0 comments


Tydw i ddim wedi gallu cyrraedd Aberystwyth y gaeaf hwn pan mae'r amgylchiadau yn dda ar gyfer gweld y drudwy yn heidio at y pier, ond y prynhawn yma fe biciais draw yn unswydd mewn gobaith o gipio llun go lew. Roedd yr adar yn swil o ddawnsio heno, ond o leiaf fe gefais luniau sy'n rhoi syniad o fawredd yr ymgasgliad


I haven't been able to get to the promenade recently in Aberystwyth at a time when good pictures of the starling murmuration are possible. So this afternoon I made an effort and got there in time, just as the sun was sinking. The birds didn't fancy a dervish dance today, but I got a couple of pictures which set the scene.

Gwesty Cymru

Aberystwyth on a nice sunset evening from now to February-ish is well worth a visit, if only just to see the murmuration. Come over and see it for at least once in your life. It doesn't last particularly long, but the memories will be with you forever. There are plenty of hotels on the prom - so you can appreciate the sunset and nip out to see the birds from the (under new management) Belle Vue Royal, Gwesty Cymru, or further down the, the Richmond or the Marine, or just go to Baravin for a posh award winning pizza and a glass of red.


Happy days.

Iestyn
Mwy mwy mwy! - more more more!
13th December 2013 - 0 comments
Gwella'r Gwasanaeth.

Rwyf wedi uwchraddio'r wefan i ganiatau cadw mwy o ddelweddau ar y system. Mae hyn yn golygu y bydd lluniau ar gael mewn orielau cyhoeddus ac yn enwedig orielau cwsmeriaid am gyfnodau hirach. Haws i chi, haws i mi.



Improving the Service

I've upgraded the website to allow the hosting of more images. Pictures in public and especially in customer galleries can now be left on the site for longer, making it easier for everyone, me included.
Ymweliadau - Visits
10th December 2013 - 2 comments
Dim ond gair i ddweud diolch i chi am alw heibio'r wefan.

Rhaid bod gan bobl rywfaint o ddiddordeb neu chwilfrydedd, oherwydd mae'r lluniau ar y wefan hon yn derbyn dros fil o "hits" yn ddyddiol (gan gyfri dros y mis diwethaf), a'r wefan arall yn derbyn ar gyfartaledd tua mil pedwar cant yn ddyddiol. Dyna chi 2400 o hits bob dydd, fwy neu lai.

Does dim amheuaeth bod "digwyddiadau" yn denu - megis stormydd, neu lansiadau llyfrau (cyplysiad diddorol - beth am gael lansio llyfr yng nghanol storm er mwyn cael lot o sylw?!).

Dechreuais gadw ystadegau ar y wefan arall ers rhyw dair blynedd, os ydw i'n cofio'n iawn, a'r wefan hon ers tua 2 flynedd. Dros y cyfnod yna mae'r gwefannau wedi derbyn ymhell dros filiwn o "hits". Wn i ddim os yw'r ffigurau hyn yn uchel neu beidio o'u cymharu â safleuoedd eraill. Fe wn fod un wefan lluniau Cymreig yn datgan yn hapus ei fod yn derbyn tua mil o hits y mis. Ys gwn i faint o hits mae gwefan Golwg, neu Llenyddiaeth Cymru, neu unrhyw wefan Gymraeg arall yn ei dderbyn? Fe fyddai'n ddiddorol gwybod.

Felly, er nad oes gen i linyn mesur i allu barnu a ydi fy lluniau yn "llwyddiant" a'i peidio, mae'r dilyniant cyson sydd ganddynt yn codi fy nghalon, ac yn sbardun i mi gario ymlaen fel ag yr ydwyf.

Felly unwaith yn rhagor, diolch o galon i chi am alw heibio, ac wrth wneud hynny, yn fy ysgogi i gadw fy nhrwyn ar y maen, neu o leiaf ar gefn y camera.

Iestyn

Just a word of thanks to everyone who calls by my websites. Between both sites, I'm receiving around 2400 hits on average per day. This number astounds me. I have no means of knowing if it's a good or a poor number, but to me, together with well over a million interactions recorded, it seems like an awful lot! And knowing that so many people are regularly looking at my pictures provides me with the impetus on a horrible night, or early in the morning, to get up, get out, and get "shooting".

So - thanks everyone. Your visits count.

Iestyn
Barddas, Pygiana ac Edau Bywyd
06th December 2013 - 0 comments
Fues i'n cyfrannu yn ddiweddar at gloriau Cylchgrawn Barddas, Pygiana (Mihangel Morgan, Gwasg y Lolfa), ac Edau Bywyd (Elen Wyn, Gwasg y Bwthyn)

Mae'r cyfan nawr ar gael yn eich siop Gymraeg lleol, neu drwy wefan Gwales (cliciwch ar y cysylltiadau isod). Anrhegion Nadolig delfrydol!

Cylchgrawn Barddas


Pygiana



Edau Bywyd

Tachwedd - November 13
28th November 2013 - 2 comments
fi-4875

Things have been rather quiet since my last monthly update, Straight after my October post, a massive storm hit Aberystwyth, and I spent two very long days photographing it, distributing files, washing clothes and scrubbing salt from car windows.

Dechreuodd y mis ffotograffig efo storm fawr iawn. Fues i am oriau meithion yn tynnu lluniau, eu llwytho a'u hanfon at y wasg. Ymddangosodd lluniau mewn sawl papur newyddion Prydeinig, a chwarae teg i gylchgrawn Golwg am gynnwys colofn am fy mhrofiadau.

UK Weather. Storm hits Aberystwyth at dusk.

Several pictures found their way into some of the national newspaper websites, and the Welsh weekly Golwg did a little photo feature on them.

Glad that the storm was over, I had a couple of acrylic “glass” prints to prepare, and after sending them off, I turned my attention back to researching images for my book, then lo and behold there was some glorious weather, and so I dropped the research for some stunning drives around the countryside.

sampl-4739

Fe fues i'n paratoi lluniau ar gyfer gwneud printiau gwydr acrylig, ac yna wedi'u hanfon at yr argraffwyr, fe benderfynais bod raid gwario amser yn ymchwilio ar gyfer fy llyfr. Ond pwy fuasai'n meddwl, fe ddaeth pwcs o dywydd braf i'm hudo allan o gwmpas cefn gwlad efo'r camera!

Remembrance Sunday in Machynlleth is a very small, intimate and rather emotional affair in comparison to the pomp which accompanies the far bigger event at Aberystwyth. I'm so glad that I was encouraged to turn out, as I managed to create some pictures I'm very happy call mine. I say "create" rather than "take" or "capture" as the lighting conditions were far from perfect, and every shot required a lot of TLC in my digital darkroom.

The Last Post - Yr Alwad Olaf.


Fe fues i draw yn gwylio gorymdaith Sul y Cofio ym Machynlleth, yn tynnu llun ar gyfer llyfr, (hynny yw os oes gen i un sy'n ddigon da i'w gynnwys). Roedd y digwyddiad mor fach ag agos atoch o'i gymharu a'r rhwysg a geir yn Aberystwyth.

I persuaded my wife to put down her work for a while and join me on a jaunt somewhere, and somehow we ended up going in the direction of Cwmystwyth, a village known for its ancient silver-lead mine workings. I wanted to show her Bonsall's Lefel Fawr, but somehow we didn't quite make it there. Following the recent storms, the rivers dancing down the slopes were too spectacular a sight to be missed, and looking back towards Devil's Bridge, the broken sunlight on Cwmystwyth was wonderfully moody. So somehow we spent our time reflecting on many things, left Lefel Fawr for another day, and headed for the Elan Valley
Cwmystwyth -4265

Fe fentrodd Marian ar daith efo mi un diwrnod, a heb unrhyw gynllun mwy na "peidio bod adref o flaen y gwaith", fe ffendion ni ein hunain yng Nghwmystwyth. Yno roedd nentydd yn rheadru i lawr wyneb y creigiau geirwon, a haul egwan gwan yn goleuo'r tirwedd. Yna ymlaen i gyfeiriad Cwm Elan, lle daethum ar draws ffermwr, merch, ci a beic cwad. Chwarae teg iddo, roedd wedi paratoi arwydd dwyieithog - oherwydd ei bod yn bwysig "to keep the language in Radnorshire".

Cwm Elan
Bugail dwyieithog Cwm Elan -4304

Daeth diwrnod arall o haul yn hollti cymylau duon, gan greu patrymau deniadol ar y tirlun, a chyfle i dynnu lluniau o goed hydrefol â'u hadlewyrchiadau yn harddu Afon Rheidol.

Cwm Rheidol (os ydych eisiau'r llun, cliciwch ar "Am ddim" ar yr arlwy, a dilyn y cyfarwyddiadau)
Prydferthwch y dŵr - Afon Rheidol
Cwm Rheidol. If you'd like this picture, click on "Am ddim - Free" link in the main menu, and follow the instructions).

Broken dark clouds often provide interesting patterns in the landscape as the sun peeps through the gaps, and such a day at Cwm Rheidol allowed me to take some picture-postcard views of autumnal trees reflected in the river. They may not be art, but they are nevertheless sometimes breathtakingly beautiful.

I'd arranged to take pictures of Welsh adult learners at Cardigan for a book I'm working on. I set out with what I thought was a good half hour to spare, but the traffic was awful, due to a car pulling a caravan, and ignoring the massive build-up of traffic behind. Mile after mile of being stuck at 20 to 30 miles an hour eradicated any "slack" and I eventually arrived late. Readers from outside this area will find it hard to believe, but there are no dual-carriageways between here and Cardigan, nor between here and Caernarfon, nor between here and anywhere else.

It transpired that Nic Dafis, the tutor I was photographing was later that day to receive an award for Best Tutor at Aberystwyth University. I hope he left plenty of time for the journey!

Aberteifi - cwrs Cymraeg i oedolion 4477

Roeddwn wedi trefnu ers sbel i dynnu llun Nic Dafis yn dysgu Cymraeg i oedolion yn Aberteifi. Wedi siwrne hunllefus o araf yno, fe gefais groeso ganddo ef a'r criw brwd o ddysgwyr, a chan griw arall drws nesaf, lle fues i'n siarad am fy ngwaith ac am fy magwraeth yn Sir Fôn.

Doedd dim brys i ruthro adref, ac roedd storm arall yn codi ar yr arfordir, felly fe ddewisais deithio nôl heibio Patch, Mwnt ac Aberporth, cyn ail-ymuno â'r ffordd fawr.

Mwnt
Mwnt - tywydd gwael

Patch
Patch -4563

Snow was predicted for the area, and it did eventually arrive. I ventured up into the hills and further forward past Pumlumon, taking a few shots on the way. The best snow always appeared far ahead of me, and the nearer I got, the further away the snow seemed. By the time I was in striking distance, the light was very poor, and I gave up, returning to my nice warm home to fiddle with the pictures I'd taken. I had spotted one view which startled me and had a deeper meaning. I'll let you decide what that meaning, if such a thing as meaning exists in a snapshot, might be.

Sws eira

Wele eira ar y bryniau uchel ger Pumlumon, a llun a wnaeth i mi dynnu anadl pan sylwais arno. Fe welais arwyddocâd ynddo'n syth. Tybed a ydych chi'n gweld rhywbeth tebyg?

Rydym hyd yn hyn y mis hwn wedi cael stormydd geirwon, glaw trwm, cenllysg, eira ac yn sydyn iawn, haul cynnes braf, a hwnnw yn fy nenu allan i Ynyslas. Hwnnw a'r ffaith fy mod i wedi mwynhau gwylio'r "Gwyll" ar S4C ac yn ffansio fy hun fel Mathias yn gwibio yn fy 4x4 i lawr i Ynyslas.

ynyslas-4826

So the month started with a mighty storm, brought wind, heavy rain, hail, and snow, and then suddenly bright warm sunshine, which enticed me away from my desk-work towards Ynyslas. Or perhaps I fancied myself as D C I Tom Mathias in "Y Gwyll/Hinterland" - charging out towards the sand dunes in my 4x4. Whatever the reason, I really like the subdued and subtle picture I made of one of the dunes, with the sea towering behind the fragile, shape-shifting mass.

Not content on spending all my days either photographing or seeking out images made by others, I took a busman's holiday to the Lens documentary photography day at the National Library. A very enjoyable experience, which should not be missed by those interested in photography and Wales. Or as this 9th Lens proved, Wales and the World.

LlGC / LENS
Fy nghartref ysbrydol - wedi'i foddi mewn goleuni machlud hynod

Roedd cynhadledd flynyddol Lens yn y Llyfrgell Genedlaethol yn hynod ddiddorol, er yn rywfaint o "wyliau gyrrwr bws" i mi. Mwynheais bron pob munud, a chefais ysbrydoliaeth i gario 'mlaen am sbel o leiaf ar y trywydd yr wyf arno nawr, sef cyfuniad o ffotograffiaeth ac ymchwil delweddau. Wedi dweud hynny, mae'r dyhead i estyn yr hen bensil 4B yn cryfhau!

Y rhod yn troi wrth adael Lens.
Noson ffair
A fair evening at the close of the Lens festival.

Rhai esiamplau o gyhoeddiadau ac ati diweddar.
tear-sheets3
Some recent examples of publications and so forth which feature my images.


UPDATE - NEWYDD

Ymlwybrais i'r Hen Goleg i lansiad nofel newydd Manon Rhys "ad astra" ar noson y 29ain, a gadawodd hi i mi dynnu portread. Sylwais bod ei sgarff yn mynd yn berffaith gyda logo Gwasg Gomer, felly symudais y "props" o gwmpas ychydig, a tynnu'r llun isod, ac rwy'n hoff iawn o'r canlyniad!


Yna heddiw, ar ddiwrnod ola'r mis, cafwyd cwis darluniadol (fy lluniau i o Geredigion) i godi arian at Banc Bwyd Aberystwyth, ac Apêl y Ffilipinau. Cafwyd LOT o hwyl.

Bore coffi y Garn-4946

Yna aeth Marian a finnau am dro, bron yn y gwyll, a dod ar draws pob math o ryfeddodau "Y Gwyll"-aidd

Cartref-5014

Finally - the lovely Manon Rhys allowed me to take a portrait shot following the launch of her new novel
"ad astra", then today, following a "do" to raise funds for Aberystwyth Food Bank, and the Philippines Apeal (together with my illustrated quiz), Marian and I went for a spin just before dusk and discovered some atmospheric locations.
Counting blessings and other things - Diolch i'r drefn
05th November 2013 - 0 comments
Blessings

Last week I wasn't feeling too well at all, and somehow ended up being referred to A&E at Bronglais hospital. After several hours of being monitored, x-ray'd and prodded, they couldn't find anything in particular wrong, and sent me home. The team who looked after me were absolutely wonderful, and I thank them for their care, humanity and professionalism. I really, really do count my blessings, and am truly glad that Bronglais has not imploded under the strain of the constant "restructuring" imposed from a distant power base.

Diolch i'r drefn

Cefais rhyw "dro rhyfedd" yr wythnos diwethaf, a rhywsut fe anfonwyd fi i uned frys Ysbyty Bronglais i gael bob math o brofion. Fe fues i yno am oriau wedi fy mhlygio i mewn i fonitorau, a chael profion gwaed a phelydrau-X. Darganfyddwyd dim o bwys, oedd yn ryddhad mawr. Hoffwn ddiolch i staff yr uned am eu gofal anhygoel o fanwl a gofalus, eu hwyliau da a'u tynerwch. Mae Ysbyty Bronglais wedi bod yn brwydro yn ddiflino yn erbyn ail-strwythuro di-ddiwedd gan feistri sy'n byw yn bell i ffwrdd. Mae'n rhyfeddol, ac yn glod i ddycnwch y staff bod y lle cystal heddiw ac ydw. Hir oes i Bronglais, meddai fi.
Season of mists... mis Hydref
29th October 2013 - 0 comments
Wedi cyfnod pur brysur, yn sydyn ar ddechrau'r mis, heblaw am "Y Prosiect" tymor hir, doedd dim golwg o waith. Dim byd ar y gweill. Popeth wedi gorffen. Yna ar y diwrnod cyntaf o "segurdod", fe aeth y ffôn a chefais gynnig job diddorol iawn - portread o awdur enwog ar gyfer clawr llyfr. Yna cwpwl o ddyddiau'n ddiweddarach, cynnig i dynnu lluniau haniaethol ar gyfer clawr arall. A wedi hynny, does bron yr un diwrnod gwag wedi bod...

...Lluniau ar gyfer taflen wyliau, ymchwil i ddarganfod deunydd ar gyfer llyfr sy'n gysylltiedig â'r Rhyfel Byd Cyntaf, protest Neuadd Pantycelyn, dwy daith ffotograffig yn ymwneud ag afonydd a'u haberoedd, lluniau i lyfryn i ymwelwyr, trip o gwmpas Mynyddoedd y Cambria, cwpwl o stormydd, a lot fawr o ddefaid.

Rhagor o esiamplau o gyhoeddiadau
Another tear-sheet anthology

tear-sheet2

I posted last month’s update rather late (i.e. this month), ending with the suggestion that I had no work lined-up for this month, and no idea if the phone would ring.

Luckily it did ring almost immediately, offering one of the nicest jobs in a while, a portrait for a book cover! I’m looking forward to the publication, which in theory is November, ready for the Christmas surge in book buying.

Within a day or two of that job there came a call to submit a pile of pictures for consideration for an travel brochure (the jury’s still out on that one).

Then hot on that one’s tail came another request for a cover via a different publisher, this time a more abstract picture to suggest the book’s narrative thread.

A call came through for help with finding some very specific WWI related pictures, which only took a few hours – but stretched over a number of days (not to mention too many coffees with old colleagues at Pen Dinas, the National Library of Wales’s cafe).

When I was bang in the middle of another job, I heard that students from the Pantycelyn Hall in Aberystwyth were about to protest against the closure of the building, which has been a Welsh language cultural hub for several decades. So I rushed out and grabbed a few shots. The students aren’t against leaving the hall as such, only that the replacement accommodation should adequately serve the needs and requirements of their close-knit community.
Dechrau protest Neuadd Pantycelyn 4 Hydref 2013

Then came a “river series”, or rather an estuary series of photo jaunts. The first was a guided walk from the ancient church on the ocean’s edge at Llangelynnin (Bro Dysynni, not Conwy) over to Llanegryn.

Eglwys Llangelynnin -3233
Llangelynnin Church.

Eglwys Llanegryn -3272
Llanegryn Church


The things I’ll recall in years to come were two graves; that of Abram Wood, “King of the Gypsies” and “royal harpist” at the entrance to Llangelynnin church, and a memorial to Robert Williams, harpist to the Peniarth family which I stumbled upon in Llanegryn churchyard. Manuscripts from Peniarth (an ancient house in the Dysynni Valley) form the core collection at the National Library of Wales. The story goes that the NLW is based in Aberystwyth rather than Cardiff because the Williams-Wynne family, owners of the manuscript collection, would only provide them to the Library if it was built within a day’s travel of their home, there and back, by horse and cart.

The next river stop was the Dyfi (I can’t bring myself to use the silly anglisized form – Dovey), then onwards, on a glorious sunny day, more high summer than autumn, to the Mawddach as it flows into the sea between Fairbourne and Barmouth. I’d promised a friend a picture of the railway bridge across the estuary, and the fine weather helped me nail a few memorable shots.

Afon Dyfi-1299
Dyfi Junction railway station in the distance.

Making the most of a family visit to Denbighshire, I took a few specific, if rather drippingly damp shots for an annual report, though I’m not sure if such squibs will make the copy.

Along the way there was some glorious and some awful weather, and true to form, I wasted precious hours capturing such autumnal excesses on camera, and sent them laboriously to the news agency, where as usual, they disappeared into nothingness.

Mawddach - Pont y Bermo
Mawddach Estuary from Fairbourne.

I’d realised recently that the pictures I had of the Cambrian Mountains were too few, rather old and boring, so I trundled off for a quick trip to refresh the collection. The clouds charged over the hills turning the sun into a searchlight, providing a half-dozen or so breathtaking photo opportunities on my 100 mile round trip.

However the most spectacular views were in pouring rain and a howling wind at Llyn Brianne, followed by a long vertigo-inducing drive right around the reservoir in the pouring rain, back towards Tregaron.

Llyn Brianne
Water spilling from Llyn Brianne reservoir

But the rains on the Cambrian Mountains were nought but a precursor to the worst storm for a decade (as it was announced by the weather forecasters). So following a day spent trying to be helpful at Aberystwyth Ffotomarathon all day Saturday, on Sunday the 27th the storm approached Aber. The wind and spray soon washed and blew away a persistant headache, and I had a clutch of shots to send to the agency and directly to newspapers.

Superman?
Man dressed as Superman in yellow boxers (!)

Within moments of my direct approaches, I had images accepted by the Mail and the Express websites, but nothing via the agency, which has really got me thinking about the way they place images before their buyers.

On Monday the storm was supposed to hit hard, but it didn't really show.

Then I took pictures of sheep. Lots of sheep as they were brought down the mountain for some TLC. Which is just what I need, when I think about it. All this rushing around and standing in howling gales and downpours has given me a right old chest cold!

defaid-6653
One for insomniacs

Thanks for reading. More pix of the month here.

Iestyn
lluniau - Triathlon - pictures
28th October 2013 - 0 comments
The Aberystwyth Triathlon (2013) gallery has now been more or less emptied, and moved here.

Mae oriel Triathlon Aberystwyth 2013 wedi'i "wagio" o lot o luniau, a wedi symud draw yma.
Un ar ôl - one left
11th October 2013 - 0 comments
Sylwais bod un print hardd o Foel Tryfan ar ôl yn siop y Llyfrgell Genedlaethol.

Dyma'r hanes:



Noticed the other day that there is one print or "Moel Tryfan" still for sale in the National Library shop.

The story here:
Deunaw mis... 18 months gone
03rd October 2013 - 0 comments
Hi. Here's my September round up, which ranges from back garden wonderment at spider webs enhanced by morning dew - but taken as quite intense macros, through various trips around Ceredigion - Aberystwyth Food Festival, Pen-lon artisan brewery, Tŷ Mawr Buffalo herd (FANTASTIC hard cheese), a nice romantic storm, a couple of chapel scenes, a couple of portraits for a book and a magazine, and a big effort in photographing and making available pictures of Aberystwyth Triathlon ;-). Then finally Pink Ribbons for April by Alun Gibbard, with lots of my pictures is now out in the shops. Please buy, as all the profits and royalties go to the April Jones Appeal.

____


Mae'n ddiwedd mis (yn wir yn ddiwedd 18 mis) ac yn amser cofnodi'r hyn a aeth heibio yn y "dyddiadur" bach hwn.

Cawfyd naid o'r haf i'r hydref yn syth ar ddechrau'r mis. Wele'r gwe pry cop hwn yn yr ardd gefn.
Hints of autumn in mid Wales.

Roedd yn amlwg bod raid i mi ruthro i fanteisio ar y tywydd braf llonydd i gael llun roeddwn wedi dyheu i'w gael, neu cicio fy hun yn wythnosol am fethu fy nghyfle. Wele y llun hwn, sef yn fy marn bach i yn un o'r lluniau gorau i mi dynnu erioed (oherwydd yr ymdrech i'w gael, efallai). Fedra i ddim ei bostio yma oherwydd ei siap. Cliciwch ar y linc ar ôl gorffen darllen, plis.

Yna daeth gwibdaith arall o gwmpas rhai ardaloedd o Geredigion, a chael ambell i lun reit ddiddorol, megis hwn o gapel Bwlchllan.
Capel Bwlchllan-8650
Bwlchllan chapel interior

Yna stormydd - a chariadon!
Stormy celebration at Aberystwyth.
Celebrating 12 months together (in a storm!)

Gweinidogion o'r India yn ymweld â'r capel lleol, ac yn canu emyn Cymreig yn eu iaith hwy.

Canu emyn (cyfieithiad Meirion Lloyd) yn ddigyfeiliant -9234
Christian ministers from Shillong visit Wales.

Gŵyl Fwyd Aberystwyth

Nosh da
Aberystwyth Food Festival

Bragdy bach Pen-lon ger Llanarth

Cwrw Pen Lon -9429
Pen-lon artisan brewery near Llanarth

Fferm buffalos Tŷ Mawr (caws caled HYFRYD).

Buches Byffalo Tŷ Mawr -9573
Tŷ Mawr buffalo herd, Llanon

Ac ymhen hir a hwyr - Triathlon Aberystwyth. Tra bod yr oll yr wyf wedi sôn amdanynt ynghynt wedi bod yn weddol hamddenol (er nad yw'r gair hamddenol yn perthyn i fy null o weithio, rywsut), roedd y gwaith ar y Triathlon yn sobor o galed.

Rhwng paratoi'r wefan hon i dderbyn a galluogi gwerthu ffeiliau o luniau'r ras, y ffotograffiaeth ei hun, ac yna'r llwytho a'r mynegeio, gwnaed tua 60 awr o waith mewn 4 diwrnod. Sy'n eitha lot i hen foi fel fi! Ond tydi'r gwaith yn ddim oll mewn cymhariaeth â'r ymdrech a wnaed gan y cystadleuwyr. RHyfeddwch at ystod oedran y rhai oedd yn rasio! Piciwch draw i'r oriel i fusnesu!

Mae oriel o'r lluniau yma, am y tro. Fe fydd raid i mi eu dileu rywbryd i wneud lle i waith arall. Ymddiheuriadau os ydych yn darllen hwn rywbryd yn y dyfodol, a'r linc ddim yn gweithio!

Cyrch ar Gantre'r Gwaelod - Attack on Atlantis ... Aberystwyth Triathlon
Diving in at Aberystwyth Triathlon

Fe fues i'n tynnu lluniau hefyd ar gyfer clawr llyfr, ac ar gyfer cylchgrawn. Mae nhw ar y wefan, os chwiliwch yn ddyfal efallai y gwelwch chi nhw, ond tydw i ddim yn mynd i weiddi amdanyn nhw eto! Gwell aros i'r cyhoeddiadau ymddangos.

Trwyddedwyd rhai lluniau drwy asiantaeth, ond dyn â ŵyr i ble, gan gynnwys un a ddigwyddais ddarganfod ar wefan Rough Guide (a wedi'i ddwyn gan wefannau Rwsiaidd). Disgwylir gweld miloedd o Rwsiaid yn tyrru i ynys yr 20,000 o saint yr ha nesaf ;-)

Wedi cyrraedd y Rough Guide (i lefydd anghysbell!). Britain's most remote places!
Is Bardsey Island really THAT remote? Rough Guide to Britain's most remote places.

Fe soniais mewn blogiad cynharach fy mod wedi bod wrthi'n helpu'r Lolfa efo llyfr ar hanes April Jones, sef Pink Ribbons for April gan Alun Gibbard. Fe brynais gopi heddiw, ac mae'r llyfr yn darllen yn rhwydd o ran arddull a mynegiant, er yn ddarllen anodd oherwydd ei gynnwys dirdynnol. Mynnwch gopi da chi, oherwydd mae'n gofnod cynnil o'r digwyddiadau ac mae'r elw yn mynd at achos da.

A dyna ni am fis arall, siwr o fod.

A natur ryfedd ac ansefydlog y gwaith hwn, wn i ddim beth a ddaw i'm rhan yn ystod mis Hydref, os daw gwaith o gwbl; ond mae gen i ddigon o haearn a fydd yn cynhesu yn y tân am sbel.
Cyfannu cymuned - April Jones
01st October 2013 - 0 comments
 blwyddyn ers diflaniad y ferch fach April Jones o stad Bryn y gôg ym Machynlleth, mae'r Lolfa wedi cyhoeddi llyfr Saesneg Pink Ribbons for April sy'n olrhain ymateb y gymuned i ddiflaniad a llofruddiaeth y ferch fach.

Awdur y llyfr yw Alun Gibbard, enw cyfarwydd iawn i'r gunulleidfa Gymraeg. Paratowyd y llyfr mewn cydweithrediad â Coral a Paul Jones, rhieni April. Fe fydd holl elw a breindal gwerthiant y gyfrol yn mynd tuag at Gronfa Goffa April.

Fe fues i'n dilyn y digwyddiadau gyda fy nghamera am gyfnod, gan greu archif fach o luniau. Trosglwyddwyd y rhan fwyaf o'r lluniau i archif ddigidol y Llyfrgell Genedlaethol, a phan fyddant yn barod i'w derbyn, fe drosglwyddaf y gweddill.

Mae rhai o'r lluniau i'w gweld yn y llyfr hwn, a braint oedd cael y gwahoddiad i'w cynnwys.



Twelve months on from the disappearance of little April Jones, Y Lolfa has published Pink Ribbons for April by Alun Gibbard.

The volume concentrates on the remarkable community response to the tragedy, and has been written in co-operation with April's parents and community leaders. All profits and royalties from the sale of the book will go to the April Jones appeal.

I spent some time documenting the response to the events as they unfolded at Machynlleth, and a number of my pictures have been incorporated in the book. A CD of images was donated to the National Library of Wales digital archive. More recent work, covering the community events and April's funeral, will be offered to the Library in due course.
TRIATHON ABERYSTWYTH INTRtri
29th September 2013 - 0 comments
EDIT The huge Triathlon Gallery has now been closed. The winners and a few nice pictures can be accessed here.

Mae'r oriel (anferth!) o luniau Triathlon Aberystwyth wdi cau. Ond mae rhai lluniau i'w gweld yma.