Newyddion . News

Gwanwyn?
30th March 2013 - 0 comments
RST
Fy hoff lun o'r mis - Enlli

Mae'r pytiau dyddiadurol hyn gen i, o edrych yn ôl arnynt, yn darllen braidd fel rhagolygon y tywydd "am yn ôl".

Pan oeddwn yn gweithio mewn swyddfa, doeddwn yn cymryd fawr o hid o'r tywydd tu allan, ond ers bwrw ati i dynnu lluniau, mae'r tywydd yn dylanwadu'n helaeth iawn ar bopeth rwy'n ei wneud.

Fe fu'r flwyddyn a aeth heibio (a'r un cynt!), yn ddiflas ar y naw, yn llwyd, oer, gwlyb, gwyntog ac anwadal. Dim llawer o gyfle felly i dynnu'r math o luniau roeddwn eu hangen, ond yn hytrach gormod o gyfleuon i gofnodi stormydd enbyd, tonnau gwyllt y môr, llifogydd, ffyrdd ar gau oherwydd eira, ac yn y blaen.

Ond, o fanteisio ar bron bob diwrnod heulog (neu os nad heulog, sych) rwyf wedi llwyddo i roi tic yn y blwch "gorffennwyd" ar restr hirfaith oedd gennyf o leoliadau oedd eu hangen ar gyfer prosiect. Ar hyn o bryd, rwy'n cael fy mwytho gan deimlad braf o ryddhad bod y prosiect, o'm rhan i, wedi cyrraedd ei derfyn. Fydd dim rhaid i mi bellach weld popeth a phobman drwy lens cul y prosiect hwnnw.

Roedd dechrau Mawrth yn codi gobeithion, gyda sawl diwrnod clir braf yn addo gwanwyn hyfryd. Hwrê, O'R DIWEDD fe allwn orffen y job, a chael lluniau braf o dde Ceredigion a gogledd Sir Benfro.

Pentre Ifan
Y Gwanwyn yn cyrraedd Pentre Ifan

Waldo- 0247
Cofeb Waldo ger Mynachlog-ddu (wedi awr o waith glanhau baw adar oddi ar y garreg!)

Cenarth- 4695
Hufen iâ ar lan yr afon yng Nghenarth

Y Teifi- 4525
Yr afon yn Aberteifi

Yna diffoddwyd yr haul yn ddisymwth, ac fe ddaeth y gaeaf yn ôl.

Eira!

Lliw y machlud ar Llety Ifan Hen (am enw hyfryd)
Machlud dros Llety Ifan Hen

Wintry conditions around Cadair Idris, Wales, UK
Tal-y-llyn

Cross Foxes -5019
Cross Foxes

Fe ddaeth haul twyllodrus. Gyda ffermwyr ucheldir y gogledd mewn trallod oherwydd yr eira dwfn a'r gwyntoedd rhewllyd, a dringwyr a cherddwyr rhyfygus yn mentro'u bywydau ar y mynyddoedd gwyn, fe ddaeth heulwen llachar a chymylau ar garlam, i oleuo siwrnai i Ben Llŷn.

RST

Ond haul oeraidd ydoedd, yn rhoi sglein ar gefn gwlad sydd mewn gwirionedd yn edrych mor llwm ag a welais ef erioed. Mae'r glaswellt yn y caeau oll, o'r ucheldir i lawr i'r dyffrynnoedd wedi'u pori i groen y baw. Does dim blewyn i'w gael.

Heblaw am orffen y "prosiect mawr", fe fum yn chwilota am ystod amrywiol o luniau ar gyfer gwahanol gyhoeddiadau, yn llyfrau taith a chyfrolau atgofion, gan ruthro o fan i fan i lenwi bylchau efo lluniau newydd o stabl "atgof"!

Roeddwn wedi bwriadu mynd i lawr i Gaerdydd i lansiad cynllun DigiDo y Llyfrgell Genedlaethol. Heblaw bod gen i ddiddordeb mawr iawn yn y prosiect, roedd y lansiad yn mynd i dynnu sylw ar y llyfr oedd wedi cymryd fy mywyd drosodd am wythnosau, sef "Dafydd ap Gwilym: y gŵr sydd yn ei gerddi" gan yr Athro Gwyn Thomas, a gyhoeddir gan Gyhoeddiadau Barddas. Pleser mawr oedd darganfod yr elfennau gweledol sy'n harddu'r gyfrol hon, a addaswyd yn gelfydd dros ben gan y ddylunwraig Olwen Fowler. Heblaw am y cynnwys ysgrifenedig ysbrydoledig, mae hefyd yn gyfrol fach eithriadol o hardd. Llongyfarchiadau mawr i Elena Gruffudd a Chyhoeddiadau Barddas.

Mae'n gyfrol werth chweil - o ddifri! Prynwch hi - gwir fargen am £10.99.

http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781906396572

Ond gwae fi, weles i ddim golwg o Gaerdydd, oherwydd anffawd :-(

Ers i mi sgwennu ddiwethaf, ymddangosodd rhai lluniau gwreiddiol gennyf yn Golwg, Barn, Barddas, a'r Heliwr, ac fe fydd rhai lluniau yn ymddangos mewn llyfrau dros y mis neu ddau nesaf. Ond pleser mwyaf y cyfnod diweddar oedd cael cwpwl o geisiadau am brintiau o luniau. Mae'n hyfryd bod rhywrai yn meddwl bod y gwaith yn ddigon da i fod eisiau prynu printiau mawr, ac yna eu gosod ar waliau eu cartrefi!

Am hwn yr wyf yn sôn yn benodol...
Machlud y drudwy

Os hoffech chi brint i roi ar y wal o un o'r lluniau sydd gen i yn y ffrwd flickr, neu ar y wefan hon, cysylltwch ar bob cyfrif. Mae'r prisiau yn rhesymol iawn, a'r dewis cyfrwng yn helaeth.

Y peth olaf i mi dynnu oedd dadorchuddio darlun o Shane Williams yn y Llyfrgell Genedlaethol. Roeddwn yn ymchwilio yno yn ystod y dydd ar gyfer dau gyhoeddiad, ac am unwaith roeddwn wedi cofio meddwl ymlaen a pharatoi. Roedd y camera gen i! Gan fod y Llyfrgell yn darparu deunydd hyrwydd i'r wasg, fe wyddwn na fyddai marchnad i'r lluniau, ond roeddwn eisiau bod yno i fwynhau'r achlysur, ac ychwanegu wyneb arwr go iawn arall at fy mhortffolio.

Shane a Shane

Pob hwyl i chi oll, tan y tro nesaf

Iestyn
Gorymdeithio - Marching on
02nd March 2013 - 0 comments
Gorymdaith Aber - Siencyn Garmon yn dathlu

Mae'n anghredadwy i mi nad ydi Mawrth 1af yn wyliau swyddogol yng Nghymru. Mae'n drist meddwl bod ein Cynulliad mor ddi-rym fel nad yw'n gallu deddfu ar fater mor Gymreig a hyn.

Neges glir Gorymdaith (Parêd) Dewi Sant ddoe yn Aberystwyth, oedd bod angen i rywrai mewn grym wneud rhywbeth am y peth. Fe ddaeth sawl ysgol yr ardal i mewn i'r dre, yn llawn cyffro i chwifio baneri Cymru a Dewi Sant, i ddawnsio ac i ganu ac i wrando ar weddi. Ond y rhyfeddod oedd y cannoedd o oedolion a ddaeth o'u swyddfeydd a'u cartrefi i gymryd rhan hefyd.

Mae angen i'r orymdaith fod ar galendr blynyddol Aberystwyth!

Llongyfarchiadau i Siôn Jobbins a'i gyfeillion am drefnu'r holl beth. Roedd yn awr ginio estynedig gwych.

___

It annoys me that St David's Day is not an official holiday in Wales. It angers me that our Assembly is so powerless that it can't do anything about something so purely Welsh. Only Westminster is wise enough to judge such difficult and far reaching matters. After all, the UK might fall into ruin if Wales had a day off.

The message from the huge crowd that took part in a St David's Day Parade in Aberystwyth is "do something about it". Hundreds of children from local schools attended during their lunch break, hundreds more adults took time off from their work to participate celebrate, dance and give thanks to our patron saint.

Gorymdaith Aber


Gorymdaith Aber Merêd y Tywysydd

DGDS -4303

Gorymdaith Aber -4386

Gorymdaith Aber
Machludoedd - Sunsets
19th February 2013 - 0 comments
Mae'n dymor y machludoedd hardd dros Fae Ceredigion yn ôl pob golwg. Nid yw'n bosib bob amser i mi gyrraedd glan môr i weld nac i ddal yr ennyd honno pan mae'r awyr a wyneb y môr yn troi'n goch fel gwaed. Ond fe ruthrais i lawr i'r Prom yn Aber cwpwl o nosweithiau i geisio dal cip ar yr adar yn chwirlio o gwmpas y pier wrth iddi nosi.

It seems as if the magnificent Cardigan Bay sunsets are back. I can't always get to the edge of the sea in time to watch it merge with the blood red sky for a few dying moments. However I did manage to get to Aberystwyth Prom a couple of times to watch the murmuration of starlings around the pier, where they roost in their thousands every night.Machlud y drudwy

Starlings flock at sunset to Aberystwyth Pier
Ymlaen i'r ganrif hon
11th February 2013 - 0 comments
Wrth chwilio am luniau ar gyfer eu cynnwys mewn llyfrau a chylchgronau, mae rhywun weithiau'n neidio o ganrif i ganrif. Dros yr misoedd diwethaf rwyf wedi bod yn "byw" am rai wythnosau yn y canol oesoedd. gan bicio bob yn hyn a hyn ymlaen ac yn ôl i ddechrau a chanol y ganrif ddiwethaf.

Rwy'n gobeithio y bydd y llyfr arfaethedig "canol oesol" yn y siopau erbyn mis Mehefin. Gwyliwch y lle hwn am ragor o fanylion yn nes at yr amser.

Ymlaen wedyn i'r gannif ddiwethaf, a'r dasg oedd darganfod llun "gwahanol" o lenor o Rwsia, a sawl llun "anghyfarwydd, os oes modd" o ambell i lenor Cymraeg. Wedi darganfod lluniau, a chael rhai wedi'u sganio, y dasg wedyn oedd paratoi rhai ohonynt ar gyfer eu cyhoeddi. Pleser mawr oedd gweithio yn fanwl gywir am rai oriau i adfer cwpwl o luniau i'r safon y byddai'r ffotograffydd gwreiddiol wedi dymuno'i weld.

Yn amlach na pheidio, mae gweisg yn ddi-hid iawn wrth atgynhyrchu hen ffotograffau o negyddion. Fe fyddai'r ffotograffydd gwreiddiol wedi gweithio ar brintio negydd i'w wneud fel y byddai ef neu hi'n dymuno iddo edrych ar bapur neu mewn print. Wrth ddigido negyddion a'u rhoi ar gael mewn dull unionffurf, mae'r cyswllt a'r broses rhwng y cam cyntaf (pwyso botwm i dynnu llun) a'r gwrthrych gorffenedig (e.e. y print) wedi'i golli. Os oes printiau'n bodoli o waith ffotograffydd, y gamp yw dysgu o'r rheini, a cheisio cadw hynny mewn cof wrth ail-greu lluniau o'r negyddion. Y prif ystyron gan y ffotograffydd wrth baratoi print fyddai cropio, goleuo a tywyllu rhannau o lun, a graddio y papur y byddai'n printio arno - caled neu meddal, contrast uchel neu isel.

Gyda llawer iawn o atgynhyrchiadau diweddar, does fawr o arwydd bod yr elfennau hyn o'r broses o gynhyrchu llun - fel y byddai'r ffotograffydd wedi ei ddymuno - wedi'i gymryd i ystyriaeth. Yn rhannol felly, mae "steil" a chrefft y ffotograffydd yn cael ei golli yn yr atgynhyrchiadau ffwrdd-a-hi. Esiampl o hyn yw gwaith Geoff Charles. Roedd Geoff yn ffyrnig os oedd rhywun yn argraffu ei negyddion yn "feddal"- fe fyddai'n gwylltio am y peth, ac roedd ffotograffwyr y Llyfrgell Genedlaethol yn barchus iawn o hyn pan oeddynt yn creu atgynhyrchiadau o'i waith. Erbyn hyn mae llawer iawn o negyddion gan Geoff ar gael wedi'u digido, mewn safon "positif" unffurf, a phan fydd gwasg eisiau defnyddio llun, fe fyddant yn cael copi digidol, ac yn atgynhyrchu'r llun, ran amlaf, fel ag y mae "o'r neg". Mae'r rhan ganol - yr adnabyddiaeth o ddyheuadau'r ffotograffydd, a'r grefft o drin y negydd i gyrraedd y dyheadau - nawr ar goll o'r broses atgynhyrchu. Yn y dyfodol, pan fydd gwaith ffotograffig "digidol anedig" yn cael ei atgynhyrchu, fydd dim problem, oherwydd fersiwn tebyg i'r "print" fydd y ffeil ddigidol yn y rhan fwyaf o achosion.

O ran gwaith ffotograffig gwreiddiol, fe gefais hwyl ar dynnu lluniau storm aruthrol yn Aberystwyth.
Aberystwyth - storm

Cefais archeb am nifer o brintiau o rai o'r lluniau, oedd doedd gan "y wasg" ddim diddordeb ynddynt, onibai eu bod ar gael am ddim!

Yna ar ddydd Sadwrn heulog braf cafwyd "Rali'r Cyfrif" yn y dre, a braf oedd cael y cyfle i dynnu llun y ddau yma, Teddie Millward a fu'n darlithio i mi ar ddechrau'r saithdegau, a Brian Evans a fu'n bennaeth gofalus arnaf yn y Llyfrgell Genedlaethol am flynyddoedd.

Rali'r Cyfrif Aberystwyth

A'r diwrnod canlynol, â'r heulwen wedi hen gilio, cefais orig ddiddorol yn gwylio/cymryd rhan yng nghynhyrchiad y Theatr Genedlaethol o "Y Bont" - sef atgynhyrchiad dramatig o hanes protest Pont Trefechan, hanner canrif yn union wedi'r digwyddiad.

Cychwyn am y dre mewn HEN fws

Yna, mymryn o waith llai cyffrous o dynnu portreadau, llun o fferm anghysbell, a rhoi sgwrs i griw ffantastig o ferched am "y flwyddyn mewn lluniau". Wedyn fe glywais am rali yn Nhryweryn i gofio 50 mlynedd ers y ffrwydriad yno. Er y glaw, fe ymlwybrais draw, a chofnodi y digwyddiad gwahanol hwn, gyda'r heddlu yn cadw gwyliadwraeth fanwl ar bawb a phopeth o'r coed!

Gorymdeithio

Yn ôl at realiti heddiw, ac rwyf ar fin dechrau cyfnod dwys o chwilota a threfnu lluniau ar gyfer cyhoeddiad arall.
And so to work
18th January 2013 - 0 comments
I seem to have had a quiet time since my last blog post. All those libraries and archives I've been dealing with shut down for a while, then there were the endless colds, each building on the last... Plenty of excuses for not much progress!

However, casting my mind back reminds me that things started off wet

Llifogydd

before getting wetter, with the A487 closed at Derwenlas for about 6 days
Beemer up Scotty.
followed by fog
Blwyddyn Newydd Dda o Aberheulog

and a half day of sunshine
Eglwys Ystrad Fflur
prior to welcoming the "old new year" from the Julian calendar, and with it the Fari Lwyd

Y Fari Lwyd - Llandre

followed by the excitement of filming a crime drama in the village

Filming Hinterland in mid Wales

despite the sudden mini freeze
rhew - prydferth - sgrin car

which proved a precursor to the first snow of the winter

eira

which in turn, was merely a cold-up session for today's white blanket.
Cwmbrwyno

But, still, the sheep are happy
Mehhhrrrrrr
Ac wedi elwch
18th January 2013 - 0 comments
Wedi elwch y Nadolig, mae pethau wedi bod yn dawel iawn yn ogof atgof. Mae sefydliadau cyhoeddus ar gau am hydoedd, a does dim llawer o gynnydd gydag archebion am ddeunydd, ateb ymholiadau ac yn y blaen. Mae'r tywydd yn wael, yn llwyd ac yn oer, sy'n ei gwneud hi'n anodd troi allan. Ond eleni, fe gefais anwydau. Un ar ôl y llall, pob un yn wahanol ac yn waeth na'r un cynt! Felly mae digon o esgusodion gen i am fis di-fudd iawn.

Ond wedi dweud hynny, erbyn meddwl, fe fues i'n reit brysur ers y blogiad diwethaf!

Fe ddaeth y glaw i guro'r to jest cyn y Nadolig,

Llifogydd

wedyn fe aeth pethau o ddrwg i waeth, gyda llifogydd go iawn, a fe gaewyd yr A487 ger Derwenlas am tua 6 diwrnod i gyd.

Beemer up Scotty.

Yna, fe groesawyd y flwyddyn newydd gyda niwl a rhagor o law

Blwyddyn Newydd Dda o Aberheulog

ond Haleliwia! fe gafwyd hanner diwrnod o heulwen

Eglwys Ystrad Fflur

cyn yr Hen Galan, a'r Fari Lwyd

Y Fari Lwyd - Llandre

a'r cyffro bod cyfres deledu'n cael ei ffilmio yn y pentre

Filming Hinterland in mid Wales

yng nghanol yr oerfen rhewllyd

rhew - prydferth - sgrin car

a ddaeth cyn eira cynta'r gaeaf

eira

a arweiniodd at yr eira mawr heddiw, a gaeodd y ffyrdd unwaith yn rhagor.
Cwmbrwyno
Nadolig Llawen and all that
19th December 2012 - 0 comments
Mae'n rhyfeddol faint o ymweliadau y mae'r wefan fach hon yn ei dderbyn, yn enwedig o ystyried cyn lleied o ddiweddaru sydd arni! Rwy'n tueddu i ddefnyddio flickr ar gyfer llwytho lluniau. Datblygodd flickr i mi fel rhyw fath o ddyddiadur, a hwnnw rwy'n ei ddefnyddio yn bennaf i ffendio llun i ffitio thema bersonol neu ar gyfer anghenion "cwsmer". Mae flickr yn fy arwain at luniau ar ddyddiad penodol, ac yna rwy'n gallu chwilio ar y cyfrifiadur adre am luniau perthnasol ar sail y dyddiad neu'r cyfnod hwnnw.

Fel cyn-lyfrgellydd ac archifydd, efallai bod hyn yn swnio'n ffordd ryfedd o ddarganfod deunydd. Fe ddylwn wrth gwrs gatalogio a mynegeio popeth yn fanwl. Ond y gwir yw nad wyf eto wedi ffendio unrhyw catalog sy'n addas i ateb anghenion creadigol. Dilyn llwybr ar hyd gwead y cof y mae rhywun - llwybrau o syniadau, teimladau ac atgofion.

Cafwyd cwpwl o wythnosau prysur iawn yn ddiweddar. Fe ddangosodd un o fy lluniau ar glawr "Cristion", un arall fel llun y mis yn Barn (storm ar y Prom yn Aber), a cwpwl o rai eraill y tu mewn i gyhoeddiadau. Cefais "gig" gwahanol iawn hefyd - tynnu lluniau parti ymddeol, a chreu albwm wedi'i argraffu. Fe gymerodd y gwaith cyfrifiadur LLAWER iawn mwy o amser na fuaswn i wedi hoffi - ond felly mae hi efo cysylltiad rhyngrwyd ciami.

Ond y prif waith y mis hwn oedd chwilio am luniau ar gyfer llyfr. Nid ffotograffau y tro hwn, ond llawysgrifau o'r canol oesoedd. Cefais fymryn o sioc o sylweddoli faint oeddwn i wedi anghofio am ffynonellau'r cyfnod. Ond roedd y darnau yn disgyn i'w lle ar ôl sbel fach.

Diolch am alw draw ac am ddarllen hwn. Fe wela i chi eto yn y flwyddyn newydd, gobeithio.

Dymunaf Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chwi oll.

glaw
________

I'm constantly surprised at how many visits are made to this site. It doesn't change much I'm afraid, and I find flickr much more useful and fun than a relatively static "statement" website. My flickr stream is my diary in pictures, and is, when linked to memories, my primary "finding aid" when someone asks if I have a "picture of...".

I recently turned off the "ordering" option on this site (or at least I think/hope I have), as I was slightly worried that for once, someone might actually order something, just when I'm unable, for a multitude of minor reasons, to deliver.

This month turned from lamb to lion, as all of a sudden work piled in. I was lucky enough to get a cover picture for the Welsh language national Christian magazine, and also another picture of the month and an illustrative portrait, in the current affairs magazine "Barn". I was also asked to produce a retirement album for a local clergyman, which I quite enjoyed doing, though it took MUCH longer at the computer screen than I'd have wished. The promise and reality of on-demand publishing and slow internet.

However, most of my energy this month was channelled into picture research for a book. Not photographs this time, but medieval manuscripts (for some reason I've used "mediaeval" for many years, but everyone seems to use "medieval" nowadays). It's been as if the clock had been wound back 20+ years, but so far, very enjoyable.

Thank you for visiting. I wish you all a very happy Christmas and an excellent New Year.

santaw

Iestyn
Gwerthu printiau - Selling prints
12th December 2012 - 0 comments
Am y tro, rwyf wedi diffodd y gallu i archebu printiau neu nwyddau drwy'r wefan. Felly, ni fydd y linc "Archebu" yn ymddangos ger y lluniau sydd ar werth.

Os hoffech chi brynu print o unrhyw lun, cysylltwch gyda'r botwm "cysylltu" ar frig y wefan er mwyn trafod eich anghenion.

For now, I've disabled the ability to order prints via the website. So the "Order" link next to images for sale will no longer appear.

If you'd like to purchase a print, please drop me a line via "contact" on the website header so that we can discuss options.

Diolch / thanks

Iestyn
Dyddiau'r cŵn a ddaeth i ben
26th November 2012 - 0 comments
A'r dyddiau cyffrous diweddar wedi pasio, fe ddaeth cyfnod bach tawel iawn o ran tynnu lluniau newydd. Gyda'r dyddiau nawr yn fyr, llwyd a gwlyb, mae'n briodol troi at ochr ymchwil archifau'r busnes. Mae 3 prosiect ar y gweill ar hyn o bryd, a fydd, gobeithio, oll wedi dwyn ffrwyth erbyn y gwanwyn.

Fues i'n helpu ychydig ar griw Ffotomarathon Aberystwyth yn gynharach yn y mis. Pleser mawr oedd cymryd rhan fach mewn gŵyl o'r fath, a gweld cymaint o gynnyrch gwych gan tua 60 o ffotograffwyr o bob oed, a phawb yn llawn egni a brwdfrydedd.

Proses ddiddorol oedd gynhyrchu gwaith ar gyfer arddangosfa "Nadolig" canolfan y Morlan. Y dasg oedd creu darn o gelf i ddehongli cerdd neu gerddi gan feirdd blaenllaw. Fe ddewisais i gerdd "Seren" gan Tudur Dylan, a thestun fy llun yw "llusern gobaith" April Jones, y ferch fach a gipiwyd o Fachynlleth. Os gewch chi hanner cyfle, galwch draw yno, da chi, oherwydd mae'r arddangosfa yn ysbrydoledig, ac yn cynnwys gwaith i danio'r dychymyg gan nifer o artistiaid a beirdd penigamp. Wir i chi, gwnewch yr ymdrech! Os oes gennych y mymryn lleiaf o ddiddordeb mewn celf/crefydd/yr ysbrydol, ni chewch eich siomi.

Fe gefais swp o gardiau Nadolig wedi'u hargraffu ar gyfer eu gwerthu i godi arian i'r capel lleol, ac at "Ymgyrch Guatemala". Mae rhyw gant ar ôl yn y bocs. Os ydych yn achos da yng nghylch Aberystwyth, cysylltwch yn fuan os hoffech gael rhai cardiau i'w gwerthu. Cardiau bach A6 ydyn nhw. Brysiwch!
Abereira-

Wnaeth fy ymgais ddiwethaf at dynnu lluniau "newyddion" ddim lles o gwbl i fy iechyd, ac wedi rhynnu yn y gwynt a'r glaw, fe aeth fy annwyd styfnig yn saith gwaeth, ac ers rhai dyddiau rwyf wedi bod yn "miserable git" o gwmpas y tŷ.

Doedd dim dyddiau cŵn eleni, gwaethau'r modd. Gobeithiwn am ddyddiau gwell a haf hir felyn tesog y flwyddyn nesaf.

Prom Aber
Dwyn ffrwyth - a photo harvest
08th November 2012 - 0 comments
Mae hi wedi bod yn fis cyffrous ac yn wythnos arbennig.

Nid yn unig y mae etholiad arlywydd yr Unol Daleithiau wedi mynd y ffordd iawn, ond mae Celtic wedi curo Barcelona ar y cae pêl-droed!

Yn nes adref, rwyf eisoes wedi blogio am hanes trist April Jones, ac am fy anturiaethau yn chwilio am ddeunydd ar gyfer cylchgrawn a llyfr tra'n coginio cytwad. Yr hyn na soniais amdano tan nawr oedd tynnu llun ar gyfer clawr cylchgrawn Barddas. Rwy'n credu ei bod hi'n saff i mi sôn am hyn nawr, gan fod Barddas wedi cyrraedd y silffoedd llyfrau, efo'r llun yn ei le! Portread o Dylan Iorwerth (enillydd y gadair eleni) sydd ar y clawr, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddo am fy ngadael i mewn i'w gartref i gael tynnu cyfres o bortreadau.
Dylan Iorwerth

Heddiw hefyd y mae Atgofion Oes Elystan ar gael yn y siopau, gyda phortread ohonno gennyf ar y clawr.

Rhywsut fe gefais "llun clawr" mewn cylchgrawn cyfreithiol yr wythnos o'r blaen. Felly tri chlawr mewn un mis, sy'n galondid.

Braf iawn hefyd oedd cael "llun y mis" a llun o orymdaith April Jones yn y cylchgrawn Barn (sef fy hoff gylchgrawn Cymraeg, sori bawb arall), a lluniau newyddion yn y Daily Express a'r Daily Star. A llun yn y Tincer (papur bro y cylch acw)! A sawl un bach ar wefan yr Huffington Post a'r Daily Fail.

Fe ddaeth y gyfres llyfrau plant (Cymru 1, 2 a 3) o'r wasg (CAA), gyda rhyw ddeg-ar-hugain o snaps gennyf (gan gynnwys rhai ar y cloriau - felly 6 clawr mewn 1 mis erbyn meddwl!).


Neithiwr lansiwyd llyfr gan Gwyn Jenkins "Ar lan y môr: y ffotograffydd ar yr arfordir 1850 - 2012" - cyhoeddir gan Y Lolfa.

Wnes i erioed feddwl y byddai llun gennyf i rhwng yr un cloriau a gwaith Geoff Charles, David Hurn a Ron Davies (rwy'n edmygydd mawr o waith y 3), ond diolch i Gwyn, mae gen i lun o "Ddrudwns Aberystwyth" fel mae ef yn eu galw, yn y gyfrol hardd a hynod ddifyr. Diolch iddo fo a golygyddion y Lolfa am ei gynnwys.

Drudwy Aberystwyth. Ar gael fel cerdyn cyfarch a phrint aliwminiwm

Trueni na fyddai rhagor o wythnosau fel hon yn y flwyddyn, ynte.

Os ydych yn chwilio am ddelweddau o Gymru (a thu hwnt) ar gyfer cyhoeddiad neu bwrpas arall, cofiwch gysylltu. Efallai bod gen i'r union beth ar y cyfrifiadur, yn dawel ddisgwyl ei fedi.

_______

I've had a bit of a "harvest supper" photographically this month (and this week in particular), as some of my recent work sees the light of day in various publications. Six covers, 38 inside slots, and a couple of UK national newspaper placements. If only every month, or, not being too greedy, every 3rd month was as fruitful as this!

If you're looking for images of Wales (or beyond), drop me a line. You never know, the right picture for you might be on my disc, silently waiting to be harvested.
Chwilota - Searching
24th October 2012 - 0 comments
Pwy a feiddia ddweud nad yw dynion yn gallu gwneud mwy nag un peth yr un pryd? Tra wrthi'n coginio sawl berwad anferth o gytwad, rwyf hefyd wedi bod yn chwilio am bob math o hen luniau ar gyfer cyhoeddiad arfaethiedig. Dan y faner "ymchwil archifau", a gwyrth y we, (a phump siwrna i'r Llyfrgell Genedlaethol), ffonio o gwmpas y lle a chnocio un drws, fe lwyddais i ddarganfod popeth oedd ei angen, o Groucho Marx i Dewi Emrys.

Ymchwil archifau, neu fel mae pethau wedi troi allan, ymchwil lluniau mewn archifau cyhoeddus a phersonol, yw'r mwyaf trafferthus a lleiaf proffidiol o fy ngweithgareddau llawrydd. Mae'n weithgaredd sy'n gallu cymryd amser maith.

Mae'r we a'r faith bod dipyn go lew o bethau wedi'u digido yn help mawr - sut arall y byddwn i'n gallu coginio chytwad a gwneud y gwaith yr un pryd, dywedwch! Ond pric-pin o "sdwff" sydd ar gael dros y we mewn gwirionedd. I ffendio deunydd a chael yr hawl i'w ddefnyddio, rhaid teithio, torchi llewys, a paratoi i ddringo mynydd o rwystredigaethau.

Mae systemau catalogio a chwilio llawer o lyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau fel pe bai wedi'i cynllunio ar gyfer anghenion mewnol tybiedig y cyrff hynny, nid ar gyfer y chwiliwr cyffredin. Mewn theori, wrth i'r holl gyrff symud at "safonau" disgrifio cydnabyddiedig a chyfartal, fe ddylai fod yn bosib darganfod deunydd o bobman gan ddefnyddio'r un dull o chwilio. Os ydych yn deall y drefn, hynny yw. Ond och a gwae, mae'r realiti o chwilio mor bell oddi wrth y ddelfryd "safonol" mae fel petai rhywun wedi defnyddio fersiwn llyfrgellyddol o "gyfieithu google" i ddehongli'r safonau ar draws y byd.

Ond diolch fyth am yr hen Wgl. Mae'n hollol wych ar gyfer darganfod adnoddau, neu osod rhywun ar y llwybr cywir i gael gafael ar y peth go iawn. Trueni, na thrasiedi, yw'r ffaith bod catalogau llyfrgelloedd ac archifau ac amgueddfeydd mor aml y tu hwnt i gyrraedd peiriant mynegeio Google, wedi'i cuddio y tu ôl i wal wylofain, a thu ôl i'r wal hwnnw y mae talp o'n hetifeddiaeth yn cuddio.

______

The above is just a lament at the time and energy it takes to find and clear pictures and graphic materials for publication. The ideal of common standards making it easy for people to find items in libraries, archives and museums in one easy manner is so very far from the reality that it is an absurdity. The fact that catalogues are often hidden behind a proprietory barrier, and when you do climb over the wall you find you're faced by a labyrinth, is incredibly frustrating and time consuming.

Google opens up a world of information and images, but beyond their indexes lies a galaxy of fading stars only reached by the few, and most of what we need is to be found in those remote places.
Cymysgedd lliwgar - Colourful mix
23rd October 2012 - 0 comments
Pythefnos Licris Alsorts sydd newydd fynd heibio, gydag amrywiaeth mawr o weithgareddau (amhroffidiol ond lliwgar) yn llenwi’r dyddiau oll.

Y peth mwyaf anghysurus, ond eto fymryn yn gyffrous, am weithio ar fy liwt fy hun, yw nad wyf yn gwybod o ddydd i ddydd a fydd y ffôn yn canu gyda chynnig gwaith.

Fel arfer rwy’n llenwi’r amser rhwng y galwadau gydag anturiaethau ffotograffig sy’n ychwanegu at fy nghronfa o luniau “stoc” o bron bob cwr o Gymru. Ond dros y pythefnos diwethaf rwyf wedi bod yn gwneud tipyn o waith gwirfoddol, lot o waith ymchwil, tynnu lluniau penodol (soniaf yn y blogiad nesaf), a choginio cytwad (chutney). Roedd gen i bwysi ar bwysi o domatos gwyrddion, ac fe fyddai’n biti garw eu gwastraffu, ac wn i ddim am well ffordd i wneud defnydd ohonynt na’u troi yn gytwad melys braf. Fe gefais nionod nobl iawn gan fy mrawd-yng-nghyfraith, ac afalau o ardd drws nesaf, ac roedd digon o siwgr brown a sultanas yn y cwpwrdd. Yr unig beth ar goll oedd vinagr, ac roedd hwnnw’n syndod o anodd cael gafael ynddo. Rhaid bod pawb ar wneud cytwad yr amser hyn o’r flwyddyn!

Dyma'r risêt a'r dull a wnaeth y job i mi.

2.5Kg o domatos gwyrdd
0.5 Kg o nionod
2 lwy de o halen
1Ltr o finagr malt
0.5Kg o siwgr brown ysgafn

250g o sultanas

3 neu 4 o afalau bwyta os hoffech.

Torri'r tomatos a’r nionod yn fras y noson cyn eu coginio ac ychwanegu’r halen, a’u cymysgu’n dda. Mae’r halen yn help i dynnu’r dŵr ononynt.

Y diwrnod canlynol, gwagio'r dŵr o’r tomatos. Rhoi'r finagr mewn sosban fawr iawn, ei dwymo a toddi’r siwgr ynddo. Os oes eisiau afal yn y cytwad, eu plicio nawr a’u hychwanegu at y pentwr tomatos a nionod. Wrth iddo gyrraedd berw, ychwanegu'r sultanas. Yna, pan fydd yn codi i ferw eto, ychwanegu'r gymysgedd tomatos a nionod. Ei gadw ar wres cymhedrol nes ei fod yn dechrau berwi’n dawel, ac yna ei adael i fyd-ferwi am rhywle rhwng awr a hanner i ddwyawr. Cofio ei droi bob yn hyn a hyn, ac wrth i’r gymysgedd dewhau, ei droi'n llawer mwy aml, rhag iddo gydio yng ngwaelod y sosban.
cytwad
Golchi 6 neu 7 pot jam yn drwyadl, a'u gosod ben ucha’n isa yn y ffwrn, ar dymheredd o tua 140 gradd selsiws. Mae’n holl bwysig bod y potiau yn cael ei steraleiddio fel hyn.
Cofio troi’r gymysgedd yn aml wrth iddo dwchu. Tynnu llwy bren drwyddo, a phan mae'r gymysgedd fymryn yn araf yn llenwi llwybr y llwy, a'r llwybr i'w weld ar waelod y sosban, ei dynnu o’r gwres a’i roi yn y jariau.

Mae trosglwyddo’r cytwad yn broses “boeth”, felly menyg ffwrn amdani!.

Torri sgwariau o “cling film” i’w gosod dros gegau’r potiau. Trosglwyddwch y cytwad i’r potiau poeth, reit i’r top, a rhoi cnoc fach i’r gwaelod i ryddhau’r aer, yna gosod y “cling film” yn llac ar dop y jar, ond eto wedi’i selio o gwmpas y gwddw. Wrth i’r cytwad oeri, fe mae'r “cling film” yn cael ei sugno i lawr ac yn creu sêl dda dros wyneb y pot.

Cadw ychydig o’r cytwad heb ei roi mewn pot i’w fwyta’n syth gyda chaws a chracer!

Rhoi'r potiau i oeri, a chofio roi label arnynt. Wedi i’r potiau oeri, gosod rhagor o “cling film” i gryfhau’r sêl.
cytwad - y canlyniadau

___________

The last couple of weeks have been a rich mix of involuntary voluntary work, frantic picture research, taking photos to order (more of this in my next post), and making green tomato chutney, the results of which you can see in the pictures above.
Mach
07th October 2012 - 0 comments
Drylliwyd bob cynllun yr wythnos hon gyda'r newyddion ofnadwy o Fachynlleth am ddiflaniad y ferch fach April Jones.

Search for abducted 5 year old April Jones, Machynlleth, Wales, UK. 3 October 2012.

Gofynnwyd i mi fynd draw ben bore'r 2il i dynnu lluniau, a dyna lle y bum, nôl a mlaen o fore gwyn tan nos tan ddiwedd yr orymdaith i Eglwys Sant Pedr y bore 'ma.

Fe ddaeth hi'n amlwg bron yn syth na fyddai neb eisiau lluniau gan yr asiantaeth, oherwydd roedd y wasg a'r cyfryngau mawr prydeinig eisoes yno'n drwch. Ond fe ddaliais ati gan fy mod yn teimlo rhyw reidrwydd (efallai oherwydd fy nghefndir fel archifydd) i greu cofnod.

Fe allwn sgwennu cyfrol am y profiad, ond taw piau hi, heblaw am un datganiad bach, sef bod y gwirfoddolwyr, yr heddlu, a'r cyfryngau wedi gweithio'u hunain i sdop. Weles i 'rioed y fath ymroddiad gan cymaint o bobl yn fy myw. Roedd yn fy atgoffa o arwyr cyffredin Aberfan - digwyddiad a brofais drwy'r cyfryngau torfol, sydd wedi'i hoelio'n sownd yn fy nghof, ac yng nghof y genedl.

Mae mymryn o'r cofnod ffotograffig i'w gael yn y fan hyn.

Yn sicr fe fydd digwyddiadau'r wythnos a aeth yn aros am byth yng nghof bobl Maldwyn. Amser a ddengys a fydd yn asio'n rhan o'r psyche cenedlaethol. Mae'r profiadau a gefais, serch eu bod o ymylon pethau, yn mynd i lynu yn fy nghof tra byddaf. Fe gymerith sbel i'r rhai oedd yn nghanol pethau ddod i delerau â'u profiadau, fe fentraf.

Gyda'r parch mwyaf at bawb a wnaeth eu gorau, ac mewn cydymdeimlad dwys a diffuant.

______

All plans were set aside this week when I was asked to "cover" the tragic events in Machynlleth.

Y Prom yn Aber yn binc

With heavy heart, the stifling of many a tear, I tried to document what I saw unfold before me. At first I thought I was "doing news", but it dawned on me fairly quickly that I was really creating a minor documentary record of not only an unfolding tragedy, but also of a social and cultural phenomenon.

I've placed a little of the photographic record here.

Looking from the outside in, I saw how people teaming together created mutual bonds which made heroes of them all - the police, the local helpers, the specialist volunteers, even the media - together working themselves to exhaustion. All for the sake of one little child, who's tragic plight touched the heart of nations.

With deepest respect, and admiration for all who did their best, and with sincere condolence.
Portread - a portrait
27th September 2012 - 0 comments
Wythnos diwethaf fe gefais y fraint o dynnu portread o'r Arglwydd Elystan ar gyfer clawr ei atgofion, a fydd ar gael yn y siopau tua diwedd mis Hydref.

Cyfres o atgofion amrywiol ar ffurf sgyrsiau yw'r llyfr, yn hytrach na hunangofiant "ffurfiol".

Mae Elystan mor hynaws a diymhongar, roedd hi'n sialens i ddal ennyd ar y camera a fyddai'n dadlennu yn ddigonol ysbryd, cadernid a hiwmor dyn mor hynod amryddawn, dysgiedig a dylanwadol.

Hwn yw fy hoff lun i o'r gyfres.

Yr Arglwydd Elystan

Llun gwahanol a ddewiswyd gan y cyhoeddwyr, ac mae'n sicr yn gwneud gwell clawr na'r un uchod. Mae'r dyluniad gan Siôn Ilar.

Elystan_2

Mae'n lyfr pwysig a gwerth chweil, felly cadwch lygad ar y wasg am newyddion am y lansiad.

Llongyfarchiadau i'r Lolfa am "fachu" Elystan, a chyhoeddi hunangofiant y bu mawr ofyn amdano dros y blynyddoedd.

Fel rhan o Ŵyl Lyfrau'r Morlan, fe fydd Dylan Iorwerth yn holi'r Arglwydd Elystan-Morgan, nos Wener, 9 Tachwedd, i ddathlu cyhoeddi'r hunangofiant.
________

Last week I was honoured to photograph Lord Elystan for his up and coming volume of recollections.

The top photo is my personal favourite from the shoot, however, without doubt, the second makes a better cover. The book will be available during October, and is published by y Lolfa.
Pen talar - in the groove.
22nd September 2012 - 0 comments
Wedi wythnos reit brysur, oedd yn cynnwys tynnu lluniau ar gyfer clawr llyfr, fe ymlwybrais draw i Lanon i weld sut beth oedd y "Rasus 'Redig", sef pencampwriaeth aredig Cymru gyfan a'r 5 gwlad. Roedd hi'n rhyfeddol o braf a hamddenol yno, ar lan y môr, a Phen Llŷn ac Eryri'n amlwg iawn yn y pellter.

Codwyd cryn hiraeth arnaf, oherwydd roedd cymaint o'r tractorau a'r taclau amaethyddol "vintage" mor gyfarwydd i mi yn ystod fy mhlentyndod, gan mai contractio oedd gwaith fy nhad.

All Wales and Five Nations Ploughing Championships held at Llanon, Wales, UK

Gellir gweld ychwaneg o'r lluniau yn y fan hyn.

Following a busy week doing all sorts of jobs, including shots for a book cover, I spent a relaxing afternoon at the All Wales and 5 Nations Ploughing Championships. The event was held at Morfa Mawr, near Llanon, right at the edge of the sea. The bright clear sunshine provided magnificent views of the Llŷn Peninsula and Snowdonia.
All Wales and Five Nations Ploughing Championships held at Llanon, Wales, UK
I felt rather nostalgic seeing all the vintage tractors and agricultural equipment. My father was a farm contractor, and so I was brought up surrounded by old Fordsons, stationary balers, threshing machines, belt driven machines of all kinds. However, we didn't have a horse, more's the pity.

You can see more pictures here.
Bore amaethyddol
01st September 2012 - 0 comments
Sêl ddefaid yn Aberystwyth heddiw
Echddoe roeddwn i fyny yn y gogledd, yng nghalon tywydd garw. Bore heddiw roeddwn yn ôl yng Ngheredigion, mewn arwerthiant defaid ar gaeau Gelli Angharad.

Roedd bod ar "iard sêl" fel camu'n ôl i fy mhlentyndod, yn mynd am dro ar ddydd Iau yn ystod gwyliau'r ysgol i'r arwerthiant anifeiliaid efo fy ewythr John, Bryn Cogail. Fe fyddai yn aml yn fy ngadael i grwydro'r sêl, neu fynd am dro o gwmpas tref Llangefni, ac wedyn fe fyddem yn cwrdd wrth y pick-up i droi am adre, a llond bag o eirin ar y sêt i fynd adre at fy mam. Dyddiau da diniwed. A cholled gyffredinol bod cymaint o farchnadoedd anifeiliaid wedi symud allan o ganol trefi cefn gwlad i'r cyrion, megis sêl Aberystwyth nawr rhyw 5 milltir y tu allan i'r dref.

Aled Ellis
Teimlo'n hallt
30th August 2012 - 0 comments
Fe godais efo'r wawr heddiw i geisio cyrraedd arfordir y gogledd er mwyn tynnu llun o'r melinau gwynt ger Prestatyn a Hoylake. Roeddynt wedi ADDO tywydd braf.

O edrych ar fap cyn cychwyn, roeddwn wedi argyhoeddi fy hun mai o Ben y Gogarth y byddwn yn cael y llun gorau, a fyddai'n dangos y melinau yn ymestyn ymhell at y gorwel. Ymhen hir a hwyr fe ffendiais y ffordd gul sy'n troelli o gwmpas y trwyn. Roedd cymylau duon yn rhuthro heibio, a llygadau o haul o dro i dro fel lampau'n goleuo darnau o'r môr a'r arfordir, ond prin bod modd gweld y twrbeini oherwydd yr heli yn yr awyr uchben y môr. Oedd, roedd y gwynt o'r gogledd yn chwipio croen y lli!

Er na chefais luniau gwerth chweil o'r melinau, fe fwynheais geisio sefyll yn llonydd yn llygaid y ddrycin i dynnu ambell i lun wrth i'r pelydrau prin oleuo ambell i fan.
Hen oleudy, Pen-y-gogarth

Doedd dim amdani ond dilyn ffordd yr arfordir tuag at Fae Colwyn, i weld a oedd modd cael "shot" agosach o'r fan honno. Ym Mae Penrhyn, llecyn anghyfarwydd i mi, ochr "arall" i Rhiwledyn, neu "Trwyn y Fuwch" (Little Orme), roedd hi'n frochus, a'r cannoedd llefydd parcio ar hyd y prom tuag at pier Bae Colwyn yn wag.

Ymhen hanner awr, nid brochus oedd y gair i ddisgrifio'r tywydd.

Dyma flas o'r daith fach o Rhiwledyn i Fae Colwyn. Gwlyb iawn, a hallt.

storm-3414

Rhagor o luniau a cwpwl o fideos yn y fan isod.

http://www.flickr.com/photos/traedmawr/sets/72157631322217592/
Eisteddfod Y Fro
13th August 2012 - 0 comments
Treuliais yr wythnos ddiwethaf yng Nghaerdydd a'r Fro, yn tynnu lluniau ar gyfer llyfr, ac yn mwynhau trampio o gwmpas maes yr Eisteddfod Genedlaethol.



Mae ychydig o luniau o Gaerdydd a'r Fro i'w gweld yma ar fy ffrwd flickr

Ceir ychydig o luniau'r eisteddfod yma (hefyd ar flickr)

Mae cannoedd rhagor o luniau gen i o'r wibdaith ar y cyfrifiadur, felly os ydych yn chwilio am luniau stoc o leoliadau (heulog) yng Nghaerdydd, cysylltwch. Efallai bod gen i jest y peth i chi.

Gwas y neidr
04th August 2012 - 0 comments
Nid nepell o'm cartref mae ffordd gul, eithriadol o serth, sy'n arwain tuag at y bryniau. Wrth gerdded i fyny'r lôn fe fydd dwndwr y ceir a'r loriau ar y ffordd fawr yn raddol droi'n hwmian cefndirol, ac wrth ddringo'r allt, fe fydd y sŵn hwnnw'n troi yn araf yn mwmian gwenyn a phryfetach.

Dyw'r ffordd ddim llawer lletach na llwybr cerdded, a gwae os bydd car, neu pick-up yn dod i'ch cwrdd, oherwydd does unman i ffoi rhwng y cloddiau uchel. Dyma rodfa ryfeddol o ran yr amrywiaeth o bryfetach, adar a phlanhigion a geir mewn un lle.

Mae'n ffurfio "M4" i bryfed o bob math, i lonynod byw ac i adar mân. Yma mae nhw'n gallu symud yn ddi-bryder, gan nad yw'r boda na'r barcud na'r hebog na'r wennol yn gallu'u gweld na'u cyrraedd rhwng y gwrychoedd hen.

Mae cerdded y llwybr hwn yn falm i'r enaid a'r galon ar ddiwrnod braf. Os fyddaf yn cychwyn y daith gyda gwg, fe fyddaf yn dychwelyd adref gyda gwên. Anaml iawn y byddaf yn cyrraedd adref heb weld rhywbeth newydd neu brofi ryw wefr fach a chael cyfle i dynnu llun o flodyn neu bry neu aderyn.

Petasai rhywun wedi gallu fy ngweld o bell y dydd o'r blaen, pan ddaeth haul cynnes rhwng cawodydd trymion, fe fyddant wedi meddwl fy mod yn chwil neu'n orffwyll. Ymddangosodd rhyw hanner dwsin gwas y neidr mawr du a melyn o'm blaen (Cordulegaster boltonii - Golden-ringed dragonfly). Sawl tro mae'r pryfyn rhyfeddol hwn wedi dianc rhag fy lens, ond y tro hwn, wrth gerdded nôl a blaen, yn igam ogam yn dilyn un gwas yn arbennig, fe gymerodd drugaredd arnaf, a sefyll yn llonydd yn ddigon hir i mi gael fy llun.



Wrth gyrraedd adref, y glaw'n tresio, roedd y wên yn dal ar fy ngwep.
Recent additions
01st August 2012 - 0 comments
Following a busy time rushing around taking picrures from across Wales for customers, there are now around 900 stock pictures which can be viewed in my galleries. Recent additions include Newport and a few places along the journey to Gwent, Kidwelly, Brecon, Swansea and just the other day, Aberdovey, Pennal and Tywyn.

You can browse the pictures via the Galleries>Wales>County links, or just type a placename into the search box.

These images are just a selection of stock images (mainly for editorial) that I have available. If you're looking for stock images of Wales, drop me an enquiry via the "contact" link.